Mae’r grŵp Pedair wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Llun diwethaf, 12 Ebrill.
‘Saith Rhyfeddod’ ydy enw’r sengl newydd ac mae’n drefniant newydd o un o hen glasuron gwerin Cymru.
Pedair ydy’r ‘siwpyr grŵp’ sy’n cynnwys talentau’r cerddorion amlwg Siân James, Meinir Gwilym, Gwyneth Glyn a Gwenan Gibbard.
Daeth y pedair ynghyd yn wreiddiol i berfformio yn Eisteddfod Môn yn 2017, ac yna’n Eisteddfod Llanrwst yn 2019, ond bu iddyn nhw fynd ati i recordio ar y cyd o hirbell yn ystod haf 2020 gan ryddhau cyfres o ganeuon.
Yna, rhyddhawyd eu sengl gyntaf gyda label Sain ym mis Rhagfyr, sef ‘Carol Nadolig Hedd Wyn’.
Mae’r fersiwn newydd o ‘Saith Rhyfeddod’ yn plethu lleisiau’r pedair cantores gyda seiniau’r delyn, y piano, y gitâr a’r consertina.
“Yn ôl nodiadau Dr Meredydd Evans yn Canu’r Cymry mae sawl fersiwn yn bodoli o’r gân werin ‘Saith Rhyfeddod’ meddai’r grŵp.
“Siân gafodd y syniad o wneud fersiwn wahanol eto, ac iddi hi mae’r diolch am y trefniant.
“Mae penillion newydd gan Gwyneth yn gymysg â’r geiriau gwreiddiol – penillion sy’n adlewyrchu rhai o’r rhyfeddodau welon ni dros y cyfnod clo, megis y rhyfeddod o weld y geifr bach mentrus yn nhref Llandudno a’r ffaith fod natur wedi cael y cyfle euraid i lonyddu ac iachau…o leia’ am gyfnod!”