Plyci’n creu trac sain ar gyfer ffilm newydd

Mae’r artist electronig Plyci wedi creu’r trac sain ar gyfer ffilm newydd gan ddwy wneuthurwr ffilm amlwg o Ddyffryn Teifi.

‘Teifi’ ydy enw’r ffilm sydd wedi’i greu gan Eddie Ladd a Lleucu Meinir.

Ffilm fer, tua 30 munud o hyd ydy hon, ac mae’n trafod yr afon Teifi, y gymuned leol yn ardal Llandysul a pherthynas agos yr afon a’r gymuned.

Roedd y ffilm yn cael ei dangos yn rheolaidd mewn sinema feicro unigryw dros y penwythnos. Mae’r ffilm yn cael ei thaflunio ar lyfr, ac mae’r gynulleidfa’n troi’r tudalennau i agor golygfa newydd.

Defnyddio synau’r afon

“Ma Eddie a Lleucu wedi bod yn brysur yn ffilmio dros yr wythnosau diwethaf a dwi wedi bod yn cyfansoddi” meddai Gerallt Ruggiero, sy’n perfformio a rhyddhau cerddoriaeth electronig dan yr enw Plyci ers sawl blwyddyn bellach.

“Mae’r gerddoriaeth yn amlwg yn electroneg ond ma llawer o elfennau’r gerddoriaeth wedi’i greu allan o synau’r afon sydd wedi’i recordio gan bobl ifanc sydd â pherthynas gyda chlwb y ‘Padlers’, sef clwb rhwyfo Llandysul.

“Ar ôl cyfarfodydd Zoom, a hel synau’r ardal, mi wnes i greu albwm byr i gyd-fynd â’r ffilm. Mae’r ffilm yn rhan o brosiect ‘Plethu’ sy’n parhau tan y Nadolig.”

Mae Eddie Ladd yn ddawnswraig, a chyn gyflwynydd rhaglen gerddoriaeth eiconig S4C, Fideo 9, felly’n ymwybodol iawn o rym cerddoriaeth pan ddaw at y cyfrwng ffilm. Mae’n egluro fod gweithio gydag artist fel Plyci’n gam naturiol wrth greu ‘Teifi’.

“Fi wedi bod yn ffan [o Plyci] ers tua 2015 a noson nath Peski ei chynnal yng Nghaerdydd” meddai Eddie.

“Roedd cydweithio gyda chyfansoddwr yn un o ofynion prosiect Plethu, ac ro’n i’n gwybod o’r dechrau mai’r math yma o gerddoriaeth a sain o’n i’n moyn.

“O’n i’n lico’r cyfuniad o sain electroneg a chefen gwlad. Odd ganddo sawl albwm ar Bandcamp, a bues i’n gweld shwt oedden nhw gyda’r golygfeydd yn y ffilm am sbel fach. Lleucu ‘wedodd, serch fod y prosiect rhyw hanner ffordd yn barod, y dylsen ni gael cerddoriaeth newydd a dyna pryd y gwnaethon ni gysylltu â Plyci.

“Odd e’n fodlon gwneud, ac amser ganddo, a cytunodd yn llawen i gynnal cyfarfodydd Zoom gyda’r sawl oedd am ddysgu mwy am sut roedd e’n creu ei gerddoriaeth.

“Fe wnaeth y grŵp hala recordiadau sain o’r ardal ac fe drodd Plyci rheiny’n synau ar gyfer y traciau. Ma’ ’di cyfansoddi pump trac mewn byr amser!”

“Ffilm yw ‘Teifi’ sy’n cael ei thaflunio ar lyfr. Mae’r gynulleidfa yn troi’r tudalennau i agor golygu newydd. ‘Y ni’n galw’r digwyddiad yn sinema fach” ychwanega Eddie.

Mae’r casgliad byr o ganeuon ar gael ar safle Bandcamp Plyci nawr.