Premiere trac newydd Lleuwen ac Erin

Mae fideo premiere o gân newydd Lleuwen Steffan wedi ymddangos ar sianel YouTube yr Eisteddfod Genedlaethol.

Enw’r trac newydd ydy ‘Dwylo Dros y Môr’. Yn ogystal â Lleuwen, mae côr rhithwir rhyngwladol o gefnogwyr yr Eisteddfod yn canu ar y trac newydd.

Trefniant a chynhyrchu gan Erin Costelo o Ganada, a dyma’r ail drac i gyfuno doniau Erin a Lleuwen yn dilyn y sengl ‘Rhosod’ a ryddhawyd ar 21 Gorffennaf.

Mae’r prosiect yn un ar y cyd rhwng yr Eisteddfod a Chanolfan Gelfyddydau Genedlaethol Canada.