Pump i’r Penwythnos – 03 Rhagfyr 2021

Gig: Mellt, Aderyn, Hyll  – Clwb Ifor Bach – 04/12/21

Mae’n ddathliad dwbl i Mellt penwythnos yma wrth iddyn nhw ryddhau eu sengl newydd, a hefyd gamu ar lwyfan Clwb Ifor Bach am y tro cyntaf ers sbel.

‘Marconi’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan y triawd o Aberystwyth sydd allan heddiw ar label JigCal. 

Yna nos fory, mae cyfle i weld Mellt yn hedleinio sioe yng Nghaerdydd…rydan ni’n meddwl mai hwn ydy eu gig byw cyntaf ers dechrau’r pandemig, ond cywirwch ni os ydan ni’n anghywir. 

Bydd Hyll yn cefnogi, eu hail gig o’r wythnos ar ôl chwarae yn Porters nos Fercher, a hefyd Aderyn sy’n swnio’n hynod o wych. 

Cân:  ‘A Oes Heddwch’ –  Tacsidermi a Sister Wives

Ein dewis o gân yr wythnos yma ydy un o’r ddwy sydd wedi’u rhyddhau fel sengl ddwbl wythnos diwethaf. 

Prosiect bach diddorol iawn ydy’r pâr yma o ganeuon hefyd gan eu bod nhw’n gweld dau grŵp yn dod at ei gilydd, sef Tacsidermi a Sister Wives. 

Mae ddau grŵp wedi ymuno â stabal Recordiau Libertino, a ddim ond wedi dod i amlygrwydd dros y flwyddyn ddiwethaf mewn gwirionedd. 

Mae ‘O Fy Nghof’ yn stoncar o diwn ond rydan ni wedi setlo ar ‘A Oes Heddwch’ y tro yma.

“Mae’r gân hon am wynebu diwedd y byd a’r panig o beidio gwybod beth i’w wneud gyda’ch oriau olaf” eglura Tacsidermi am y trac. 

“Does dim pwynt cuddio o hynny sy’n anochel. Does dim pwynt ceisio dod o hyd i heddwch. Mae’n rhaid dygymod gyda chanlyniadau eich gweithredoedd”

Newyddion da pellach ydy hwnnw bod cyfle i gael gafael ar fersiwn feinyl ‘lathe-cut’ nifer cyfyngedig o’r sengl ddwbl ar 17 Rhagfyr hefyd. 

Edrych ymlaen i glywed lot mwy gan y ddau fand yma yn 2022, ond am y tro mwynhewch ‘A Oes Heddwch’: 

Record: Rhydd – Kizzy Crawford

Roedd cryn gyffro am y ffaith bod albwm newydd ar y ffordd gan Kizzy Crawford ac fe laniodd Rhydd, ddydd Gwener diwethaf, 26 Tachwedd. 

Dyma ail albwm llawn Kizzy yn dilyn ‘The Way I Dream’ a ryddhawyd yn Hydref 2019, ond ei halbwm Cymraeg cyntaf. 

Mae’r gantores boblogaidd hefyd wedi ymuno â label Recordiau Sain er mwyn ryddhau’r casgliad yma. 

Mae Kizzy wedi bod yn wyneb a llais cyfarwydd iawn i ni ers sawl blwyddyn bellach wrth gwrs, gan greu argraff ar lwyfannau byw o oedran ifanc. Roedd ei cherddoriaeth yn hynod o aeddfed am ei hoed o’r dechrau, ond does dim amheuaeth bod rhyw aeddfedrwydd o’r newydd erbyn hyn a’i bod wedi ffeindio ei sŵn. 

Mae ‘Rhydd’ yn albwm personol iawn. Yn un peth, Kizzy sydd wedi recordio, cynhyrchu a chymysgu’r albwm yn ei stiwdio gartref a hi hefyd sy’n chwarae’r holl offerynnau ar y casgliad.

Ceir cymysgedd o ganeuon ar yr albwm – rhai wedi eu hysgrifennu ganddi ers amser maith, ond eraill yn rhai llawer mwy diweddar.  

Ar ôl i’r gantores gael sawl profiad anodd dros y blynyddoedd, dywed bod ysgrifennu a chyfansoddi yn fodd i gyfathrebu, i rannu, i wella ac i ffynnu.  Yn y pendraw, dyma allwedd iddi i ganfod y rhyddid sy’n hanfodol i dyfu a pharhau. 

Mae llwyth o ganeuon gwych ar y casgliad, ond rhaid dweud ein bod ni wrth ein bodd efo sŵn ffynci ‘Deifio’: 

 

Artist: Parisa Fouladi

Roedden ni’n falch iawn i weld Parisa Fouladi yn rhyddhau sengl newydd o’r enw ‘Cysgod y Golau’ ers ddydd Gwener diwethaf. 

Dyma sengl unigol ddiweddaraf y gantores Gymreig-Iranaidd, Elin Fouladi. 

Bydd Elin yn wyneb a llais cyfarwydd i lawer mae’n siŵr – yn y gorffennol mae wedi perfformio dan yr enw El Parisa, ac yn fwy diweddar mae wedi bod yn aelod o’r grŵp pop siambr, Derw. 

Rydan ni wedi bod yn disgwyl yn eiddgar i glywed mwy o gerddoriaeth unigol gan Elin ers iddi ryddhau’r sengl ‘Achub Fi’ ym mis Hydref 2020

“Nes i ‘sgwennu ‘Cysgod yn y Golau’ yng nghanol y pandemig” eglura Elin. 

“…felly mae o’n bach o wildcard rili, a falle ddim fel y caneuon eraill dwi wedi rhyddhau!” 

Recordiodd Elin y gân yn wreiddiol fel rhan o’i Sesiwn Tŷ ar BBC Radio Cymru yn ystod y cyfnod clo, ac fe benderfynodd yn ddiweddar ei bod yn bryd i’w rhyddhau’n swyddogol. 

“Yn ddiweddar, roeddwn i jyst yn teimlo fel mod i isio rhyddhau’r gân, er mwyn i fwy o bobl allu ei chlywed, felly dyna dwi di neud!”

Mae Elin wedi sôn wrth Y Selar am ei hawydd i ryddhau EP rywdro yn y dyfodol agos, felly gobeithio’n wir y gallwn edrych ymlaen at weld hynny. 

Un Peth Arall: Fideo Los Blancos @ Lŵp

Mae cyfres Lŵp, S4C, wedi cyhoeddi fideo newydd o’r grŵp Los Blancos ar eu llwyfannau digidol. 

Fideo ar gyfer y trac ‘Mil o Eirie’ ydy hwn, sy’n dod o EP diweddaraf Los Blancos, ‘Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Cymreig’. 

Mae’r fideo wedi’i gyfarwydd a chreu gan Nico Dafydd, sydd hefyd wedi bod yn gyfrifol am nifer o fideos blaenorol Los Blancos. 

Dyma’r fid: