Gig: Mr, Chroma – Clwb Ifor Bach – 05/11/21
Sut ydach chi’n gwybod bod pethau’n dechrau dychwelyd i normalrwydd? Wel, un arwydd clir ydy pan ma Mr yn gigio yng Nghlwb Ifor Bach!
Mae prosiect diweddaraf Mark Roberts newydd ryddhau pedwerydd albwm, Llwyth, a bydd cyfle i glywed y caneuon yn fyw am y tro cyntaf yng Nghlwb Ifor Bach heno. Erbyn meddwl, bydd cyfle hefyd i glywed caneuon ei record ddiwethaf, Feiral, yn fyw am y tro cyntaf hefyd mae’n siŵr gan i honno gael ei rhyddhau flwyddyn yn ôl, cyn i gigs ail-ddechrau!
Cyfle gwych felly, ac mae’n gyfle hefyd i weld yr ardderchog Chroma yn perfformio’n fyw gan eu bod nhw’n darparu’r gefnogaeth.
Un band sydd eisoes wedi gwneud cwpl o gigs ers i ddigwyddiadau byw ddychwelyd ydy Bwncath, ac mae cyfle arall i’w gweld nhw ddydd Sul yng Nghlwb Rygbi Pwllheli.
Cân: ‘Seagal’ – Sywel Nyw gyda Iolo Selyf
Go brin fod angen i ni egluro bellach fod Sywel Nyw yn rhyddhau sengl newydd bob mis yn ystod 2021.
Wythnos diwethaf, fe ryddhaodd y degfed o’r rhain sef ‘Seagal’, a hynny gan gyd-weithio gyda chanwr Y Ffug / FFUG, Iolo Selyf.
Mae’n teimlo fel rhyw mini comeback i Iolo, gyda FFUG wedi bod yn weddol dawel ers ychydig flynyddoedd bellach, ac yn sicr mae croeso cynnes iddo.
Gan gyfuno doniau’r ddau gerddor, mae’r trac newydd yn cyfuno elfennau o gerddoriaeth pync, indie ac electronig ac yn ddathliad o’r actor Hollywood, Steven Seagal, ac ystrydebau’r 1980au.
Iolo sydd wedi ysgrifennu geiriau’r gân, ac mae’n cynnig golwg ddoniol ar natur ryfedd amser ac mae’r portread o’r actor Hollywood heddiw yn gwrthgyferbynnu â’i ddelwedd gor-wrywaidd yn ffilmiau antur yn y 1980au.
Mae fideo gwych o’r trac hefyd, wedi’i gynhyrchu gam Wubacub a Billy Bagilhole, a dyma fo:
Record: Okay, Cool – The Mighty Observer
Artist a ddaliodd ein sylw gyda’i EP cyntaf yn gynharach yn y flwyddyn oedd The Mighty Observer.
Nawr, mae prosiect unigol basydd y grŵp gwallgof Melin Melyn yn ôl gydag EP newydd sydd allan ar label Recordiau Cae Gwyn.
The Mighty Observer ydy prosiect unigol yr aml-offerynnwr Garmon Rhys – prosiect a ffurfiwyd yn ystod y cyfnod clo.
Okay, Cool ydy enw’r EP newydd ac mae’n dilyn Gweld y Byd / See The World a ymddangosodd ym mis Mawrth eleni.
Roedd yr EP hwnnw’n dilyn cyfres o senglau a ryddhawyd gan The Mighty Observer dros fisoedd yr hydref yn 2020 gan gynnwys ‘Diflannu’ a ‘Drifting’ ym mis Medi, ‘Superman Daydream’ ym mis Hydref a ‘Niwl’ ym mis Tachwedd.
Mae Garmon wedi’i ddylanwadu’n drwm arno gan gitârs metelaidd cynnes artistiaid fel Kurt Vile, Sam Evian a Mac DeMarco ymhlith eraill ac mae hynny i’w glywed ar y casgliad byr o diwns diweddaraf.
“Prosiect gafodd ei eni yn ystod y cyfnod clo cyntaf ydi The Mighty Observer, er i’r syniad fod yn hir ddatblygu yng nghefn y meddwl ers blynyddoedd” meddai Garmon Rhys am ei brosiect unigol ar ddechrau 2021.
“Mae cyfyngiadau y pandemig wedi’n gorfodi ni i fod yn greadigol mewn ffyrdd newydd, felly dwi’n ymfalchïo yn yr agwedd DIY / lo-fi sydd i’r recordio” ychwanegodd.
Dyma drac olaf hyfryd y record, ‘Blodau Sidan’:
Artist: Derw
Mae Derw’n grŵp sydd wedi cael tipyn o sylw gan Y Selar dros y deuddeg i ddeunaw mis diwethaf wrth iddyn nhw ddod yn fwyfwy i amlygrwydd.
Roedd rheswm da iawn dros roi sylw pellach iddynt yr wythnos hon wrth iddyn nhw gyhoeddi fideo newydd ar gyfer eu sengl diweddaraf, ‘Ci’. Ac roedd yn bleser o’r mwyaf gan Y Selar i gynnig y cyfle cyntaf i weld y fideo arbennig ar y wefan nos Fercher.
Rhag ofn eich bod angen cyflwyniad iddynt, Derw ydy’r grŵp pop siambr o Gaerdydd sy’n cael sy’n cael eu harwain gan y gitarydd Dafydd Dabson a’r gantores Elin Fouladi.
Maen nhw wedi bod yn weithgar iawn dros y deunaw mis diwethaf gan ryddhau senglau, fideos a’r EP ‘Yr Unig Rai Sy’n Cofio’ (Chwefror 2021).
Eu cynnyrch diweddaraf oedd y sengl ‘Ci’ a ryddhawyd ddiwedd mis Medi ac sydd wedi cael ymateb da iawn unwaith eto.
Nawr, bydd fideo newydd ar gyfer y sengl yn cael ei gyhoeddi yr wythnos hon, gyda chyfle cyntaf i weld y fideo ar wefan Y Selar nos Fercher yma, 3 Tachwedd.
Dyma’r fideo:
Un Peth Arall: Fideos Gwobrau’r Selar
Cofio Gwobrau’r Selar ar ddechrau’r flwyddyn? Roedd pethau bach yn wahaol i’r arfer y tro yma oherwydd y cyfyngiadau, ond roedd dal yn gyfle ardderchog i ddathlu llwyddiannau cerddorol y flwyddyn flaenorol wrth i ni gyhoeddi’r enillwyr mewn cydweithrediad â Radio Cymru.
Yn ogystal â hynny, darlledwyd rhaglen arbennig ar Lŵp, S4C oedd yn cynnwys nifer o fideos wedi’i creu ar gyfer yr achlysur.
Nawr, mae’r bobl hyfryd yna yn Lŵp wedi cyhoeddi’r casgliad o fideos a gafodd eu creu ar gyfer y rhaglen deledu ym mis Chwefror.
Mae’r fideos sydd wedi’u cyhoeddi ar lwyfannau digidol Lŵp yn cynnwys rhai gydag Eädyth, Mared, Lewys, Bwncath a Kim Hon.
Maen nhw i gyd yn wych, ond rhaid dewis un i’w gynnwys yn ein Pump i’r Penwythnos ac mae ‘Yr Awyr Adre’ gan Mared, a gyfarwyddwyd gan Andy Pritchard ac Aled Wyn Jones yn syml, ond yn hynod, hynod effeithiol.