Pump i’r Penwythnos – 07 Mai 2021

Set rhithiol: Plu @ Lŵp

Dim lot o gigs rhithiol wythnos yma felly fideo sesiwn fach i chi yn lle hynny.

Mae Lŵp, S4C wedi bod yn cyhoeddi fideos sesiwn rheolaidd ar eu sianeli digidol dros yr wythnosau a misoedd diwethaf, ac mae’r Selar wedi bod yn rhoi sylw cyson i’r rhain.

Y fideo diweddaraf ydy triawd teuluol Plu, a pherfformiad o ‘Llun Ar y Setl’. Mae’n debyg bod hon yn flas o’r hyn sydd i ddod ar albwm newydd y grŵp, sydd ar y gweill.

Cân:  ‘Pen yn y Gofod’ – Sywel Nyw a Gwenllian Anthony

Os nad ydach chi’n gwybod am brosiect uchelgeisiol Sywel Nyw yn ystod 2021, yna ma’n rhaid eich bod wedi bod yn byw mewn ogof.

Unai hynny neu eich bod chi heb fod yn talu digon o sylw i’r newyddion diweddaraf yma ar wefan Y Selar!

Nod Sywel Nyw, sef prosiect unigol Lewys Wyn o’r Eira, ydy rhyddhau sengl bob mis, a’r senglau hynny’n gywaith gydag artist gwahanol bob tro.

Ei gyfaill cerddorol diweddaraf ydy Gwenllian Anthony, basydd Adwaith sydd hefyd wedi ffurfio prosiect newydd Tacsidermi yn ddiweddar.

‘Pen yn y Gofod’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf ac yn ôl Gwenllian, mae’r gân yn amserol iawn.

“Mae’r gân yma yn adlewyrchu meddyliau cyfnod clo. Y meddyliau positif a’ r negatif.”

“Mae’n dangos y daith o’r teimlad llethol o ddiwerth a phryder, i sylweddoli bod angen neud y gorau o sefyllfa wael.”

Ac os ydach chi’n ffansïo eich hun fel cynhyrchydd cerddorol addawol, wel mae cyfle arbennig i chi ail-gymysgu’r trac gan bod Lewys a Gwenllian wedi rhyddhau’r STEMS ar gyfer ‘Pen yn y Gofod’, gyda gwahoddiad agored i unrhyw un rhoi tro arni.

Record: V U – Rogue Jones

….a sôn am ail-gymysgu caneuon, mae hyn wedi bod yn rhywbeth hynod o boblogaidd ymysg artistiaid Cymraeg dros y misoedd diwethaf.

Yr esiampl amlwg ddiweddaraf ydy Rogue Jones, sydd wedi rhyddhau albwm llawn o ailgymysgiadau wythnos diwethaf.

Rhyddhawyd albwm cyntaf y grŵp lliwgar, V U, yn wreiddiol yn Hydref 2015, ac wrth iddynt nodi pum mlynedd ers rhyddhau’r casgliad llynedd, penderfynwyd i wahodd cyfeillion cerddorol y grŵp i fynd i’r afael a’r caneuon.

Mae’r artistiaid sydd wedi cymryd rhan yn cynnwys Rob Ackroyd o’r grŵp Florence and the Machine, 9Bach, Ani Glass a Pat Morgan o’r grŵp Datblygu.

Yn wreiddiol, darlledwyd nifer o’r caneuon yn wythnosol ar Radio Cymru dros yr hydref, ond nawr mae’r albwm cyfan ar gael fel cyfanwaith.

Y newyddion pellach o gyfeiriad Rogue Jones ydy bod albwm newydd ar y gweill ganddyn nhw, a llawer o’r recordio wedi digwydd ochr yn ochr â’r prosiect ail-gymysgu. Gallwn edrych ymlaen at weld ffrwyth llafur y gwaith yma’n fuan yn ôl y grŵp.

Mae fersiwn newydd V U ar gael trwy Recordiau Blinc,

Dyma ailgymysgiad ardderchog Bitw o ‘Halen’:

Artist: Tonfedd Oren

Bydd Tonfedd Oren yn enw digon anghyfarwydd i nifer mae’n siŵr, ond maen nhw’n grŵp a gafodd beth sylw gan Y Selar rai blynyddoedd yn ôl.

Cymharol ddirgel a thanddaearol oedd Tonfedd Oren i raddau, ond gellid eu disgrifio mae’n siŵr fel grŵp dawns electronig. O ie, a ci dychmygol Ffrengig o’r enw Feydeau oedd llefarydd y grŵp…(ie, ci bow-wow.)

Ta waeth, fe ddaethon nhw i’r amlwg yn bennaf yn ystod 2012 wrth ryddhau’r sengl hunan deitlog, ‘Tonfedd Oren’ oedd allan ar ffurf record feinyl 7” hyfryd trwy Norman Records.

Cafodd y grŵp dipyn o sylw hefyd am sengl arall, ‘Pi’, oedd yn deyrnged i’r mathemategydd enwog o Gymro, William Jones, a gyflwynodd y symbol π i’r byd. Gallwch ddarllen mwy am hyn ar dudalen 22 o rifyn Y Selar Rhagfyr 2012.

Beth bynnag, y prif reswm am roi sylw i’’r grŵp wythnos yma ydy oherwydd eu bod nhw’r ddiweddar wedi rhyddhau eu hôl-gatalog i gyd ar ffurf casgliad ar Bandcamp fel casgliad gan yr enw ‘Dogfen’.

Mae Y Selar yn hoff iawn o sŵn Tonfedd Oren, ac yn arbennig y trac ‘Tonfedd Oren’:

Un Peth Arall: Tocynnau Tafwyl

Rhywun yn cofio gweithgaredd oedd yn cael ei adnabod fel ‘gig’?

Rydan ni’n mynd yn ôl cryn amser fan hyn, ond be oedd ‘gig’ oedd rhyw ddigwyddiad cyhoeddus lle’r oedd dipyn o bobl yn gallu dod ynghyd mewn un man i weld bandiau ac artistiaid yn perfformio ar lwyfan…a hynny yn y cnawd.

Ie wir, mae’n swnio’n wych yn tydi.

Wel, yn rhyfeddol bydd cyfle i hyn a hyn o bobl fwynhau’r profiad anhygoel yma yng Nghymru yn fuan iawn gan fod gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi y bydd modd iddynt gael cynulleidfa o 500 o bobl yn y digwyddiad.

O ddifrif rŵan, ma hyn yn newyddion mawr, ac yn arwydd gobeithiol o’r hyn sydd i ddod.

Mae’r ŵyl yn digwydd yn rhithiol ddydd Sadwrn nesaf, ond rhwng 17:00 a 21:00 bydd 500 o bobl yn cael mynediad i’r digwyddiad yng Nghastell Caerdydd.

Mae’n rhaid cofrestru erbyn 19:00 heno (Gwener 7 Mai) am y cyfle, ac mae nifer o amodau arbennig ynghlwm â hyn – yr holl wybodaeth ar wefan Tafwyl.