Set rhithiol: Uchafbwyntiau Lleisiau Eraill – 08/04/21
Ddechrau mis Mawrth cyfunodd pedair gŵyl flynyddol i greu un gŵyl rhithiol fawr, sef Gŵyl 2021.
Y bedair gŵyl oedd FOCUS Wales, Gŵyl Gomedi Aberystwyth, Gŵyl y Llais a Gŵyl Lleisiau Eraill, Aberteifi.
Roedd modd gwylio llwyfannau o’r holl wyliau hyn dros y penwythnos, ac mae rhai, fel FOCUS Wales, wedi cyhoeddi fideos uchafbwyntiau ar-lein ers hynny.
Neithiwr roedd cyfle i weld uchafbwyntiau Lleisiau Eraill Aberteifi yn benodol ar Lŵp, S4C gyda Kizzy Crawford a Huw Stephens yn cyflwyno rhaglen arbennig.
Mae modd gwylio’r bennod eto ar Clic am y tro wrth gwrs, a dyma flas i chi o’r hyn y gallwch chi ddisgwyl:
Cân: ‘Llif yr Awr’ – Mared a Gwenno Morgan
Enw sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg dros yr wythnosau diwethaf ydy Gwenno Morgan, sef cerddor jazz dalentog sy’n dod yn wreiddiol o Fangor.
Gwpl o wythnosau nôl roedden ni’n rhoi sylw i’w sengl ar y cyd gyda Sywel Nyw, ‘Dyfroedd Melys’, ac rydym yn gwybod bellach bydd ei EP cyntaf allan ar label I KA CHING cyn diwedd mis Ebrill.
Cyn hynny, mae Gwenno wedi datgelu syniad o’r hyn y gallwn ddisgwyl ganddi ar ffurf ei sengl ar y cyd gyda chantores arall sydd wedi bod yn dwyn y sylw’n ddiweddar, sef Mared.
Rhyddhawyd ‘Llif yr Awr’ ddydd Gwener diwethaf, ac mae’n plethu synau hudolus piano a synth, gyda’r geiriau a’r alaw gan Mared a’r cynhyrchiad ac offeryniaeth gan Gwenno.
Fe ymddangosodd Gwenno gyda Mared ar raglen ‘Curadur’ Lŵp, S4C yn ddiweddar ac fe gyfarfu’r ddwy’n wreiddiol ar gwrs cerddoriaeth ym mhrifysgol Leeds dair blynedd yn ôl.
Mae’r trac yn sôn am fod yn amyneddgar wrth greu ac mae’n enghraifft o’r haenau a synau allweddell a fydd i’w glywed ar EP cyntaf Gwenno Morgan, ‘Cyfnos’, sydd allan ar 16 Ebrill.
Dyma’r perfformiad ar Lŵp:
Record: Roedd – Omaloma
Sypreis fach hynod o braf oedd gweld EP newydd sbon danlli gan Omaloma’n cael ei ryddhau’n ddiweddar.
Glaniodd y record fer newydd dan yr enw ‘Roedd’ yn hollol ddirybudd ar safle Bandcamp Omaloma ar ddydd Gwener 26 Mawrth a bu croeso mawr ymysg dilynwyr selog y grŵp seicadelig o Ddyffryn Conwy.
Wedi’i ysgrifennu a’i recordio yn ystod y cyfnod clo cyntaf, a’i recordio o hirbell oherwydd cyfyngiadau Covid, mae’r casgliad o bedair cân newydd yn cynrychioli ymgais y grŵp i wneud synnwyr o fyd cythryblus. Yn ogystal â’r pandemig, mae’r caneuon yn mynd i’r afael â rhai o’r themâu mawr sydd wedi dod i’r wyneb dros y flwyddyn ddiwethaf.
Cafodd y trac ‘400+’ ei ysgrifennu ar y diwrnod y dymchwelwyd cerflun y masnachwr caethweision, Edwards Coleston, ym Mryste gan brotestwyr fel rhan o’r symudiad Black Lives Matter.
Mae ‘Afalau Drwg’ yn trafod y rhaniadau sy’n wynebu America, ac mae ‘Awyr Agored’ yn alarnad i’r bobl sy’n methu fforddio prynu tŷ yn yr ardaloedd lle cawsant eu magu. Mae’r gân yn sôn am hanes dyffryn tawel yn cael ei drawsnewid yn barc antur dychmygol.
Mae naws trydydd trac y casgliad, ‘Peloton’, ychydig yn wahanol i’r caneuon eraill ond mae dwyster iddi wrth groniclo hanes beiciwr sy’n ansicr a yw’n ddigon da i gystadlu yn y ras y mae ynddi.
Casgliad bach neis iawn gan Omaloma a gobeithio bod mwy ar y gweill.
Dyma’r trac sy’n arwain yr EP, ‘400+’:
Artist: Awst
Bydd cerddor profiadol a digon adnabyddus i unrhyw un sydd wedi bod yn dilyn y sin yn rhyddhau sengl gyntaf ei brosiect newydd ddiwedd mis Ebrill.
Awst ydy enw prosiect diweddaraf Cynyr Hamer, sy’n gyfarwydd fel aelod o’r bandiau Worldcub (CaStLeS gynt), Hippies vs Ghosts ac We Are Animal.
Mae Cynyr wedi bod yn brysur yn ysgrifennu ac yn recordio caneuon newydd ers haf 2020, ac yn ôl y cerddor cynhyrchiol gallwn ddisgwyl tipyn o gynnyrch ganddo dros y misoedd nesaf, gan ddechrau gyda’r sengl newydd ar 23 Ebrill. Sengl ddwbl fydd y gyntaf – ‘Lloeren’ a ‘Send a Sign to the Satellite’ ydy enwau’r traciau.
Yn ôl Cynyr, ei fwriad ydy “creu llwyth o albymau”, ac mae eisoes wedi recordio dwy record hir.
“Dwi wedi cwblhau dau albwm hyd yn hyn a cychwyn ar y trydydd” meddai Cynyr.
“Mae’r albymau hyn yn recordiadau cartref ar recordydd digidol Tasgam, ac ar y cyfan fe’u cedwir bron bob amser i’w ‘take’ cyntaf, er mwyn ceisio dod a’r elfen ddigymell i’r gerddoriaeth.
“Gan bod dim gigs i’w chwarae, dwi wedi bod yn rhoi yr egni ac amser i gyd mewn i recordio!”
Gyda’r sengl ddwbl gyntaf allan ar 23 Ebrill, dywed Cynyr ei fod yn cynllunio rhyddhau rhagor o senglau dros yr haf, gyda’r bwriad o ryddhau’r albwm cyntaf cyn diwedd y flwyddyn.
Bydd y sengl allan ar safle Bandcamp Awst, a bydd cyfle cyntaf i glywed ‘Lloeren’ ar wefan Y Selar cyn y dyddiad rhyddhau swyddogol…felly gwyliwch y gofod am ‘Lloeren’!
Dyma drac gwych gan un o fandiau eraill Cynyr, Worldcub, yn y cyfamser:
Un Peth Arall: Cynhadledd Summit
Oes ydach chi eisoes yn gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth Cymreig, neu gyda diddordeb mewn gwneud hynny, yna Cynhadledd Summit ydy’r lle i chi penwythnos yma.
Mae’r gynhadledd arbennig yn cael ei threfnu gan fudiad Bannau, gyda’r bwriad o baratoi’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru at y cyfnod ôl-Covid.
Criw o bobl ifanc sy’n trefnu’r gynhadledd, a hynny ar gyfer pobl ifanc eraill yn arbennig. Un o’r criw o bedwar trefnydd ydy Llew Glyn, o’r grŵp Gwilym ac un o drefnwyr Gigs Tŷ Nain.
“Mae Summit yn gyfle gwych i bobl ifanc sy’n awyddus i ddechrau gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth, ond sydd eisiau mwy o hyder neu eisiau llunio llwybr neu syniadau mwy penodol am eu rôl o fewn y diwydiant” meddai Llew.
“‘Da ni’n gobeithio ceith Summit ddylanwad bositif ar bobl ifanc sydd wedi gorfod rhoi eu gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth ar pause neu wedi gorfod gohirio chwilio am waith yn y diwydiant oherwydd y pandemig.”
Mae ‘na lwyth o sesiynau difyr dros y penwythnos, a gallwch ddysgu mwy am rhain yn ein darn arbennig am y gynhadledd, neu ar wefan Bannau, lle ma modd i chi gofrestru’n rhad ac am ddim hefyd.
Dyma un arall o aelodau Gwilym, Ifan Prichard, i sôn bach mwy am y gynhadledd:
“How to.. put on a streaming gig” & much more at @BeaconsCymru Summit over the weekend. @IfanPritchard from @_gwilym & @GigsTyNain will see you there!
“Sut mae trefnu gig!” A lot lot mwy – cynhadledd cyffroes dros y penwythnos – peidiwch a cholli allan!https://t.co/hEBgvnpWI0 pic.twitter.com/dvmN5TnMmf
— Horizons / Gorwelion (@HorizonsCymru) April 8, 2021