Pump i’r Penwythnos – 1 Ionawr 2021

Blwyddyn newydd dda i chi bawb, a diolch am gefnogi Y Selar dros y flwyddyn a fu. Allwn ni ond gobeithio bydd 2021 yn flwyddyn well a gyda lwc bydd modd i ni gyd ymgynnull mewn gig yn fuan.

Un peth a barhaodd trwy gydol 2020 ydy Pump i’r Penwythnos, a dyma’r cyntaf o 2021

Set rhithiol: Alffa, Malan, Gwilym, Elis Derby – Gigs Tŷ Nain – 01/01/21

Does dim rhaid drych ymhell am gig gwych i ddechrau’r flwyddyn, gyda gig cyntaf ‘Gigs Tŷ Nain’ yn cael ei ddarlledu heno. Criw o gerddorion sy’n gyfrifol am sefydlu Gigs Tŷ Nain, ac mae ethos DIY cryf iddynt yn ôl y trefnwyr.

Mae’r cyntaf yn dod i’ch sgriniau o Neuadd Mynytho ac mae clamp o lein-yp yn perfformio gan gynnwys gig cyntaf Malan, sydd wedi denu tipyn o sylw gyda’i senglau yn gynharach yn y flwyddyn. Mae Alffa, Gwilym ac Elis Derby hefyd yn perfformio a bydd modd gwylio’r cyfan am 20:00 ar YouTube.

Dyma flas i chi o naws Gigs Tŷ Nain:

Gwerth rhoi mensh fach hefyd i gig arall fydd yn cynnwys Alffa a Gwilym, sef gig diweddaraf Stafell Fyw. Bydd hwn yn darlledu o’r Galeri yng Nghaernarfon y tro yma, a hynny ar nos Fercher 6 Ionawr am 19:30

 

Cân: ‘Syniad o Amser’ – Kathod

Dyma chi sengl sydd allan ers dechrau mis Rhagfyr, ond na gafodd sylw haeddiannol ar y pryd yn ein tyb ni, felly rheswm da i’w plygio eto ar ddechrau blwyddyn fel hyn.

Kathod ydy’r siwpyr grŵp sy’n gysylltiedig â phrosiect Merched yn Gwneud Miwsig. Heledd Watkins o HMS Morris, Bethan Mai o Rogue Jones, ac Ani Glass ydy’r prif aelodau – does dim angen dweud mwy am safon y cerddorion!

‘Syniad o Amser’ oedd eu sengl gyntaf, ac efallai y bydd yn gyfarwydd i unrhyw un sydd wedi gwrando ar bodlediadau Merched yn Gwneud Miwsig.

Mae hon yn dipyn o diwn chwarae teg, ac os nad ydy hynny’n ddigon o reswm i chi ei phrynu, yna dylech wneud hynny am y rheswm fod unrhyw elw o werthiant y trac yn mynd tuag at achos da iawn Cymorth i Ferched Cymru.

Gwnewch hynny ar safle Bandcamp Kathod nawr.

Record: Diffyg – Lastigband

Grêt gweld Lastigband yn ôl gyda cherddoriaeth newydd ar ôl cyfnod gweddol hesb.

Lastigband ydy’r prosiect seicadelig sy’n cael ei arwain gan ddrymiwr Sen Segur, Gethin Davies ers cwpl o flynyddoedd. Mae’n debyg bod y band wedi morffio mewn i brosiect unigol yn ddiweddar, felly Gethin ei hun sy’n gyfrifol am y traciau diweddaraf.

Rhyddhawyd EP pedwar trac newydd Lastigband ar eu safle Bandcamp ar noswyl Nadolig, ac fe fydd yn ymddangos ar yr holl lwyfannau digidol eraill ar 29 Ionawr. 

Artist: Euros Childs 

Cwestiwn: Oes yna artist mwy cynhyrchiol o Gymru erioed nag Euros Childs?

Cwestiwn arall: Oes yna artist mwy cynhyrchiol yn y byd nag Euros Childs?

Ar ôl i’w grŵp, Gorkys Zygotic Mynci chwalu, rhyddhaodd Euros ei albwm unigol cyntaf yn 2006 dan yr enw Chops. Yn wir, roedd cyfweliad arbennig gyda’r cerddor yn rhifyn Mehefin 2006 o’r Selar ynglŷn â’r albwm hwnnw.

Ers hynny, mae Euros wedi rhyddhau o leiaf un albwm newydd bob blwyddyn – doedd un ddim yn ddigon iddo yn 2007 gyda llaw, a bu’n rhaid iddo ryddhau un albwm Saesneg,  sef The Miracle Inn, ynghyd â’r record hir cyfan gwbl Gymraeg ardderchog, Bore Da yn y flwyddyn honno.

Wythnos diwethaf, ar 22 Rhagfyr, fe sicrhaodd Euros bod ei record yn parhau wrth iddo ryddhau’r casgliad ‘Kitty Dear’ yn ddigidol. Mae’r albwm ar gael i’w ffrydio a lawr lwytho ar wefan Euros, gydag Euros yn gofyn i chi wneud cyfraniad o’ch dewis yn hytrach na chodi pris penodol.

Cynhyrchwyd y record gan Stephen Black, sy’n gyfarwydd hefyd fel y cerddor Sweet Baboo ac fe’i recordiwyd ym Mhenarth ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2020.

 

 

Un Peth Arall: Agor Pleidlais Gwobrau’r Selar

Bydd Gwobrau’r Selar yn edrych yn wahanol iawn i’r arfer eleni. Yn hytrach na phenwythnos mawr o ddathliadau yn Aberystwyth fis Chwefror, rydan ni’n cyd-weithio gyda Radio Cymru i gyhoeddi’r enillwyr dros wythnos rhwng 8 a 12 Chwefror.

Mwy o fanylion am hyn dros yr wythnosau nesaf.

Un peth sy’n gyson gyda’r blynyddoedd diwethaf ydy mai chi – y cyhoedd, y ffans, y cerdd garwyr – fydd yn gyfrifol am ddewis enillwyr y gwobrau ac mae’r bleidlais yn agor heno.

Rydach chi eisoes wedi cael cyfle i enwebu ar gyfer categorïau’r Gwobrau, ac mae panel Gwobrau’r Selar wedi llunio rhestrau hir ar sail yr enwebiadau hynny. Nawr mae’r dewis terfynol yn ôl yn eich dwylo chi.

Cadwch olwg ar gyfryngau Y Selar – byddwn ni’n rhyddhau’r bleidlais nes  ’mlaen.