Gig: Gig Gŵyl Gwenllian – Neuadd Ogwen, Bethesda – 12/06/21
Pa mor braf ydy gweld gigs go iawn yn ail-ddechrau? Ydy, mae’r niferoedd sy’n cael mynd yn gyfyngedig, ond mae unrhyw gynulleidfa’n ddigon i greu naws. A gadewch i ni fod yn onest, rydan ni gyd wedi bod mewn ambell gig da efo 30 neu lai o bobl yn y gynulleidfa yn do!
30 o bobl fydd yn cael mynd i Gig Gŵyl Gwenllian yn Neuadd Ogwen, Bethesda nos fory gyda chyfle i weld Gwilym Bowen Rhys a Neil ‘Maffia’ yn perfformio. Wrth gyhoeddi, mae dal ambell docyn ar ôl felly ebostiwch post@neuaddogwen.com i gael gafael ar un o’r rhain.
Cân: ‘Cerdda Fi i’r Traeth’ – Y Cledrau
Wel, mae Y Cledrau nôl go iawn!
Cwta fis ar ôl rhyddhau eu sengl ‘Hei Be Sy’, y cynnyrch cyntaf ganddynt ers 2017, maen nhw’n rhyddhau sengl arall heddiw.
‘Cerdda Fi i’r Traeth’ ydy enw’r sengl newydd, ac yr ail drac i roi blas o’u halbwm newydd sy’n ddilyniant i Peiriant Ateb.
Mae’r trac newydd yn dôn gron dau gord gyda thro yn y gynffon, sy’n croesawu’r haf wrth ei harwain i’r traeth.
Recordiwyd y trac yma eto yn Stiwdio Sain, Llandwrog gydag Ifan Emlyn Jones yn peiriannu a chynhyrchu gyda’r band.
Yn ôl yr hyn rydym yn deall, bydd mwy o newyddion cerddorol gyda’r band yn fuan, a disgwyl i’r albwm newydd lanio ym mis Gorffennaf.
Record: ‘Sai-thañ ki Sur – Khasi-Cymru Collective
Rydan ni’n hoff iawn o Gareth Bonello, neu The Gentle Good i ddefnyddio’i enw perfformio, yma yn rhengoedd Y Selar ac mae gan y cerddor profiadol wastad ryw brosiect difyr ar y gweill.
Ei brosiect diweddaraf ydy’r Khasi-Cymru Collective, sydd wedi rhyddhau albwm dan yr enw ‘Sai-thañ ki Sur’, sy’n cyfieithu i ‘Plethu Lleisiau’ yn y Gymraeg, ers 28 Mai.
Mae’r albwm yn archwilio hanes cenhadol y Cymry yng Ngogledd Ddwyrain India, a’n perthynas gyda’r gymuned frodorol Khasi heddiw.
Ffrwyth cydweithio ydy’r Khasi-Cymru Collective rhwng Gareth ac artistiaid cynhenid o’r gymuned Khasi yng Ngogledd Ddwyrain India. Fe’i recordiwyd yn ninas Shillong ac yn y pentrefi cyfagos i Meghalaya.
Mae’r albwm yn archwilio caneuon gwerin, barddoniaeth, emynau cenhadol, chwedlau a materion hanesyddol a chyfoes sy’n effeithiol ar y cymunedau.
Mae’r iaith Khasi yn esiampl brin o iaith Awstoasiataidd yn India, sy’n perthyn yn nes at ieithoedd De Ddwyrain Asia fel Fietnameg a Chmereg.
Rhwng 1841 a 1969, teithiodd cannoedd o Gymry i Fryniau Khasia a Jaiñtia i sefydlu a chynnal cenhadaeth tramor cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig. Cafodd y genhadaeth Gymreig effeithiau dwfn ar gymdeithas a diwylliant Khasi sy’n dal i’w gweld heddiw.
Record ddiddorol, a pherthnasol iawn unwaith eto gan Gareth.
Dyma un o draciau’r casgliad, ‘Cwyn yr Afon’:
Artist: Bronwen Lewis
Mae llawer o artistiaid, a bandiau’n enwedig, wedi’i chael hi’n anodd dros y flwyddyn a mwy diwethaf oherwydd diffyg gigs ac ati.
Ar y llaw arall, mae nifer o artistiaid wedi manteisio ar y cyfle, a’r cyfryngau digidol, i gynyddu eu gweithgarwch a datblygu eu henw. Un o’r artistiaid hynny ydy Bronwen Lewis sydd wedi manteisio’n llawn ar lwyfannau TikTok a Facebook yn enwedig i gyrraedd cynulleidfa newydd.
Er ei bod hi wedi bod yn brysur yn cynnal setiau rhithiol byw ac yn cyflwyno caneuon Cymraeg i gynulleidfa ddi-Gymraeg, mae hi hefyd yn y cefndir wedi bod yn gweithio ar ei albwm newydd.
Wythnos nesaf bydd cyfle cyntaf i gael blas o’r albwm newydd ar ffurf y sengl ‘Ar Ddiwedd y Dydd’ sydd allan ar label Alaw.
Wedi’i ysgrifennu fel cofnod dyddiadur yn ystod y pandemig, mae ‘Ar Ddiwedd Dydd’ yn trafod sut mae Bronwen yn gweld y byd, yn llawn pryder weithiau, ac mae hi’n obeithiol am well yfory wedi’i arwain gan y peth pwysicaf oll – cariad.
Dechreuodd Bronwen ae ei thaith gerddorol yn 2013, ond yr albwm newydd, Canvas, ydy ei phrosiect annibynnol cyntaf ers hynny mewn gwirionedd.
Egin yr albwm oedd Bronwen yn ysgrifennu ar ei phen ei hun gyda’i phiano a’i gitâr, yn enwedig yn ystod anterth y pandemig, yn rhoi ei meddyliau a’i theimladau ar bapur – fel paent ar ganfas.
Cymerodd Bronwen ysbrydoliaeth fawr gan gyfansoddwyr benywaidd wrth ysgrifennu’r albwm – enwau fel Joni Mitchell, Carole King, Eva Cassidy, Dolly Parton.
Mae ei gyrfa wedi cymryd sawl tro cyffrous dros y blynyddoedd – bu iddi serennu yn y ffilm ‘Pride’ a enwebwyd am Wobr BAFTA ac Golden Globe, a dod â Tom Jones i ddagrau yn ystod ei hamser ar The Voice yn 2013.
Un o lwyddiannau mawr y flwyddyn ddiwethaf i’r gantores ydy ei gweithgarwch ar TikTok, gan ddenu 14,000 o gefnogwyr wrth iddi fynd yn feiral gyda’i fideos cerddoriaeth Gymraeg, a chael sylw BBC Radio 1 gan y DJs enwog Greg James a Scott Mills.
Mae hefyd wedi gwneud dros 45 o gyngherddau rhithiol byw o’i stiwdio gartref ers dechrau 2020! Go brin fod hyd yn oed Dafydd Hedd yn gallu curo hynny 😉
Mae ‘Ar Ddiwedd Dydd’ allan ddydd Gwener nesaf, 18 Mehefin. Dyma hi’n perfformio fersiwn acwstig o’r trac rai misoedd yn ôl ar raglen Heno, S4C:
Un Peth Arall: Cystadlaethau Maes B
Ni fydd Maes B yn ei ffurf arferol yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ond mae cyfle i artistiaid ifanc gystadlu yng nghystadlaethau Maes B gyda’r dyddiad cau bellach wedi ymestyn i wythnos nesaf, 16 Mehefin.
Mae cyfle i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed gymryd rhan mewn tair cystadleuaeth arbennig sydd gan Maes B.
Brwydr y Bandiau….
Brwydr y Bandiau ydy’r gyntaf o’r cystadlaethau, ac mae fformat honno wedi hen sefydlu wrth gwrs, er ei bod yn debygol o fod bach yn wahanol eleni. Mae’n agored i grŵp neu unigolyn, gyda’r 4 gorau ym marn y beirniaid yn cyrraedd rownd derfynol.
Bydd angen i unrhyw un sydd am gystadlu yrru dolen i demo neu recordiad fideo o set hyd at 15 munud sy’n cynnwys rhwng 2 a 4 o ganeuon Cymraeg, a hynny trwy ffurflen gais ar wefan yr Eisteddfod.
Stems…
Yr ail gystadleuaeth ydy un ‘Stems’, lle mae her i ailgymysgu un o ddau drac penodol sef ‘50au’ gan Gwilym neu ‘Pontydd’ gan Mared. Er mwyn cael copi o stems y caneuon, mae angen ebostio ymaesb@gmail.com.
Dylunio clawr…
Y gystadleuaeth newydd arall ydy un honno i ddylunio delwedd ar gyfer gwaith celf sengl neu albwm gan fand Cymraeg o ddewis y cystadleuydd. Beirniad y gystadleuaeth ydy’r dylunydd Steff Dafydd, sydd wedi creu sawl gwaith celf cofiadwy ar gyfer artistiaid Cymreig.
Dylid anfon ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth hon i ymaesb@gmail.com a gwyb@eisteddfod.org.uk erbyn y dyddiad cau.