Pump i’r Penwythnos – 12 Chwefror 2021

Set rhithiol: Gŵyl Ogwen Rhithiol – 10/02/21

Mae ‘na sawl arwr tawel wedi bod yn gweithio’n ddiwyd dros y flwyddyn ddiwethaf i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg mewn amryw ffyrdd – rydan ni wedi cael cyfle i ddathlu cyfraniadau sawl un o’r rhain fel rhan o wythnos Gwobrau’r Selar.

Un o’r sêr disglair hyn, sydd efallai heb gael digon o gydnabyddiaeth, ydy’r cerddor ifanc o Fethesda, Dafydd Hedd, sydd wedi bod yn perfformio’n gyson ar ei gyfryngau cymdeithasol yn ogystal â threfnu setiau rhithiol i gerddorion eraill.

Roedd y gŵr ifanc wrthi eto’n gynharach yn wythnos wrth iddo fynd ati i drefnu a llwyfannu ‘Gŵyl Ogwen Rhithiol 21’ ar dudalen Facebook gwasanaeth Ogwen360 nos Fercher

Roedd llu o artistiaid ifanc, a hŷn, yn perfformio gan gynnwys Cai, Hedydd Ioan (SKYLARK), Tesni Hughes, Megan Wyn, Yazzy Janyon, Côr y Penrhyn, Gwenno Fôn, Hogia’r Bonc a Dafydd Hedd ei hun.

 

Cân:  ‘Bach o Flodyn’ gan Kim Hon

‘Bach o Flodyn’ ydy enw sengl ddiweddaraf y grŵp cyffrous Kim Hon sydd allan ers wythnos diwethaf,

Mae traciau Kim Hon bob amser yn dal y sylw, ac mae hanes bach difyr i’r prif ddylanwad ar y sengl newydd., fel yr eglura’r band.

“Eginodd y riff a ffurfiodd y gân yma o ganlyniad i wylio rhaglen ddogfen am Robert Johnson ac yna ceisio dynwared ei dechnegau o chwarae gitâr.”

Cerddor blŵs enwog o America oedd yn weithgar yn ystod y 1930au oedd Robert Johnson. Er na chafodd lawer o lwyddiant yn fasnachol, mae’n cael ei gydnabod fod ei steil chwarae meistrolgar wedi dylanwadu’n fawr ar genedlaethau o gerddorion.

“Wrth gwrs methon chwarae unrhyw beth tebyg i’r hyn mae Johnson yn ei chwarae, ond ganwyd y gân yma fel canlyniad beth bynnag” meddai’r grŵp.

Efallai nad ydyn nhw cweit cystal gitaryddion â Johnson eto, ond mae Kim Hon yn gwybod sut i sgwennu tiwn, ac mae ‘Bach o Flodyn’ yn lygedyn o heulwen yn y dyddiau tywyll ac oer yma.

 

Record: Tiwns (Remixes Curated by Afanc) – Mr Phormula

Albwm Tiwns gan Mr Phormula oedd un o’r pethau mwy cadarnhaol sydd wedi dod o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig a’r clo mawr.

Ar ddechrau’r flwyddyn, doedd dim bwriad o gwbl gan y cerddor gwych i recordio albwm, ond erbyn diwedd mis Tachwedd roedd casgliad 14 trac newydd sbon danlli wedi glanio gan y rapiwr o Amlwch.

Nawr, mae Ed wedi ffurfio partneriaeth gyda label Recordiau Afanc i ryddhau casgliad newydd o fersiynnau wedi’u hail gymysgu o wyth o draciau’r albwm.

Mae’r casgliad allan yn swyddogol heddiw, a llwyddodd Y Selar i drefnu sgwrs gydag Ed a Gwion o Afanc i holi mwy – gwrandewch isod (neu chwiliwch am ‘Sgwrs Selar’ ar eich chwaraewr podlediadau i wrando ar y ffôn).

Os ydach chi awydd tyrchu’n dyfnach fyth i’r casgliad yna roedd parti gwrando gan Afanc, gyda’r artistiaid sydd wedi gweithio ar y caneuon, ar Facebook yn gynharach yn yr wythnos.

 

Artist: Gwenno

Wrth i ni ddathlu wythnos Gwobrau’r Selar mewn cydweithrediad â Radio Cymru wythnos yma, roedd hen ddigon o ddewis o artistiaid y gallen ni fod wedi rhoi sylw iddynt yn yr adran yma.

Ond yr un amlwg heb os oedd enillydd ein gwobr Cyfraniad Arbennig eleni, Gwenno.

Does neb wedi llwyddo i hybu ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg yn y tu hwnt i Gymru fach yn fwy na’r gantores o Gaerdydd dros y ddegawd ddiwethaf.

Ond mae hanes gyrfa Gwenno’n ymestyn nôl gryn amser cyn iddi ryddhau’r EP gwych, Ymbelydredd, yn 2012 gan ymddangos ar glawr rhifyn Rhagfyr y flwyddyn honno o’r Selar. Yn wir, bu iddi ryddhau dau EP Cymraeg digon trawiadol reit nôl yn 2002 a 2004, ac mae’n werth mynd nôl i wrando eto ar Môr Hud a Vodya – mae’r trac ‘Vodya’ yn enwedig yn ddim llai nag ardderchog.

Mae crynodeb mwy cyflawn o yrfa Gwenno yn ein darn arbennig wrth gyhoeddi’r newyddion ddoe ac mae’n werth gwrando eto ar y cyfweliad estynedig rhwng Huw Stephens a’r gantores ar ei raglen Radio Cymru neithiwr.

Dyma berfformiad byw o ‘Ymbelydredd’, o’r EP o’r un enw a ryddhawyd yn 2012, gan Gwenno ar lwyfan Maes B yn 2013:

 

Un Peth Arall: ‘Smo Fi Isie Mynd’

Un o’r enillwyr cyntaf a gyhoeddwyd ar gyfer Gwobrau’r Selar ddydd Llun oedd Malan, a gipiodd deitl y ‘Band neu Artist Newydd Gorau’.

Mae wedi bod yn flwyddyn fach dda iawn i’r gantores ifanc wrth iddi greu tipyn o argraff gyda’i senglau cyntaf ar label Playbook.

Yn amserol iawn hefyd, ddydd Gwener diwethaf cyhoeddwyd fideo arbennig gan Lŵp o Malan yn canu fersiwn newydd o un o glasuron Edward H Dafis, ‘Smo Fi Isie Mynd’.

Yn ffurfio siwpyr grŵp gyda Malan ar y trac mae’r casgliad gwych o gerddorion Marged Gwenllian, Carwyn Williams, Elis Derby a Gethin Griffiths.

Teg dweud bod hon yn dipyn o bangar.