Set rhithiol: Lowri Evans a Lee Mason – 13/03/21
Ar ôl holl weithgarwch Gŵyl 2021 wythnos diwethaf, rhywbeth bach yn wahanol fel ein argymhelliad o gig rhithiol y penwythnos yma.
Gig bach cartrefol, agos atoch chi, yng nghwmni Lowri Evans a Lee Mason nos Sadwrn am 19:00, yn ffrydio ar dudalen Facebook un o leoliadau gigs amlycaf Sir Benfro, sef Neuadd y Frenhines, Arberth.
Ond os ydach chi’n chwilio am rywbeth bach i edrych nôl arno heddiw, beth am y set fach yma gan Mared neithiwr ar gyfer Gwynedd Creadigol
Cân: ‘Mam Bach’ – Hap a Damwain
Roedd Hap a Damwain yn hynod o fywiog tua’r adeg yma llynedd, ac yn un o’r grwpiau cyntaf i fanteisio ar y cyfnod clo i ryddhau cynnyrch newydd.
Rhyddhawyd dau EP ganddynt ar ddechrau’r cyfnod clo, sef ‘Ynysu #1’ a ryddhawyd fis Mai, ac ‘Ynysu #2’ a ryddhawyd ym mis Mehefin. Mae’r trac ‘Rhyl’ yn ffefryn arbennig yma yn Selar HQ mae’n rhaid cyfaddef.
Ond, distewi oedd hanes y ddeuawd Aled Roberts a Simon Beech, oedd yn aelodau o’r grŵp o’r 1980au Boff Frank Bough gyda’i gilydd, wedi hynny…ac roedden ni’n dechrau poeni am y distawrwydd hyn.
Doedd dim angen gofidio cofiwch, ac fe godwyd ein calon felly gyda’r newyddion eu bod nhw am ryddhau sengl newydd wythnos yma’n arbennig mewn pryd ar gyfer Sul y Mamau.
‘Mam Bach’ ydy enw addas ac amserol iawn y trac newydd, ac fe’i rhyddhawyd ddydd Llun. Y newyddion da pellach ydy bod y gân yn damaid i aros pryd nes yr albwm sydd ar y gweill ganddynt. Wrth siarad gyda’r Selar fe ddatgelodd Hap a Damwain mai Hanner Cant oedd enw’r albwm a’u bod yn bwriadu ei ryddhau ar ddechrau mis Mai eleni. Allwn ni ddim aros…
Record: Cwmwl Tystion
Dewis bach yn wahanol ar gyfer ein record yr wythnos yma, sef albwm cyntaf y siwpyr grŵp jazz, Cwmwl Tystion.
Y cerddor jazz arbrofol a thrwmpedwr adnabyddus, Tomos Williams, sy’n arwain prosiect Cwmwl Tystion, ac mae aelodau’r band hefyd yn cynnwys enwau amlwg eraill sef y telynor arbrofol, Rhodri Davies, y pianydd Huw Warren a Francesca Simmons ar y ffidil a’r llif. Yr aelodau eraill ydy Huw V Williams (bas), Mark O’Connor (drymiau), Simon Proffitt (celf weledol).
Ac mae’n ymddangos bod gwaith un o feirdd enwocaf Cymru, Waldo Williams, wedi dylanwadu’n drwm ar y grŵp a’r albwm.
Daw’r teitl ‘Cwmwl Tystion’ o’r Beibl yn wreiddiol, ond mae’n cael ei ddyfynu hefyd yng ngherdd Waldo Williams, Pa Beth yw Dyn? Yn yn gerdd honno mae Waldo’n gofyn rhai o gwestiynau mawr ein bod.
“Cefais fy ysbrydoli gan gerddoriaeth pobl fel Wadada Leo Smith, Ambrose Akinmusire a Matana Roberts a theimlo ei bod yn bryd cynnig darn a fyddai’n gyfraniad at y llinach honno o safbwynt Cymreig” meddai Tomos Williams.
“Y bwriad oedd creu gwaith newydd a fyddai’n dathlu ac yn cwestiynu’r hyn y mae’n ei olygu i uniaethu fel Cymro/Cymraes drwy gyfeirio at a chodi ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau hanesyddol.”
Er mai dyma gynnyrch cyntaf Cwmwl Tystion, teithiodd y band o amgylch Cymru yn 2019, a pherfformio yn Llundain ym mis Mehefin y flwyddyn honno. Recordiwyd y CD yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe ac yng Nghafe OTO, Llundain. Fe ategwyd pob perfformiad gan gelfyddyd weledol fyw Simon Proffitt.
Mae’r record yn cael ei ryddhau gan Tŷ Cerdd ac ar gael yn ddigidol ac ar ffurf CD.
Dyma Tomos yn sôn mwy am y prosiect adeg eu gigs yn 2019:
Artist: Sŵnami
Maen nhw wedi bod yn dawel dros y dair neu bedair blynedd ddiwethaf, ond mae’n ymddangos bod un o grwpiau mwyaf poblogaidd Cymru dros y ddegawd a fu, Sŵnami, yn ôl!
Heddiw mae’r grŵp o Feirionydd yn rhyddhau eu sengl ddwbl newydd sef ‘Theatr / Uno, Cydio, Tanio’ a hynny ar label Recordiau Côsh.
Dyma gynnyrch cyntaf Sŵnami ers rhyddhau’r sengl ‘Dihoeni’ dros dair blynedd yn ôl.
Ac os nad ydy hynny’n ddigon, maent hefyd yn cyhoeddi fideo arbennig ar gyfer y trac ‘Theatr’ sydd wedi’i gyfarwyddo gan Sam Kinsella, ac sy’n serennu’r actor Tom Rhys Harries sy’n adnabyddus am ei ran yn y gyfres ‘White Lines’ ar Netflix.
Am resymau amrywiol, bu’r band yn dawel ers rhyddhau ‘Dihoeni’ yn 2017, ond yn ôl yr aelodau mae’r awch ar gyfer creu cerddoriaeth newydd yn gryfach nag erioed erbyn hyn. Yn ôl Sŵnami mae’r sengl ddwbl yn ddatganiad o’u bwriad i ymestyn eu cerddoriaeth i gynulleidfa ehangach.
Roedd cyfle cyntaf i glywed ‘Theatr’ ar raglan Lisa Gwilym ar Radio Cymru nos Fercher, ac yna ‘Uno, Cydio, Tanio’ y noson ganlynol ar raglan Huw Stephens.
Mae ganddyn nhw hefyd wefan newydd swanc, a siwtiau porffor newydd hyd yn oed mwy swanc – neis iawn bois!
Un Peth Arall: Rhaglen Curadur Mared
Os na welsoch chi bennod ddiweddaraf cyfres ‘Curadur’ gan Lŵp ar S4C wythnos diwethaf, yna gallwn argymell yn gryf eich bod yn achub ar y cyfle i wylio eto’n fuan.
Y gantores o Ddyffryn Clwyd, ac enillwydd dwy o Wobrau’r Selar eleni, Mared ydy canolbwynt y bennod wirioneddol hyfryd yma.
Darlledwyd y bennod ar yr hen sgrin deledu hen ffasiwn nos Iau diwethaf, 4 Mawrth ac mae’n cynnwys cyfraniadau gan Morgan Elwy, Gwenno Morgan, Osian Williams, Aled Hughes a Gwyn Owen.
Diolch byth, mae modd gwylio eto ar alw ar BBC iPlayer ar hyn o bryd.
Dyma un o berfformiadau’r rhaglen, sef Mared yn canu ‘Hapus Fan Hyn’ gyda Jacob Elwy:
Lluniau Sŵnami: Arabella Itani