Gig: Y Cledrau, skylrk., Cai – Neuadd Ogwen – 12/11/21
Ambell gig fach neis yn digwydd penwythnos yma mewn gwahanol rannau o’r wlad.
Ein prif ddewis ni’r wythnos hon ydy’r gig yn Neuadd Ogwen, Bethesda heno sy’n rhyw fath o ddathliad bach o gystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn.
Mae dau o’r bandiau oedd yn y rownd derfynol yn perfformio sef Cai, a’r artist gipiodd y teitl eleni, skylrk. Ac os nad ydy hynny’n ddigon i chi, yna mae Y Cledrau yn hedleinio hefyd.
Yn anffodus mae’r gig neis iawn yn Nhŷ Tawe, Abertawe oedd i fod i ddigwydd heno gyda The Gentle Good a Georgia Ruth wedi’i ohirio oherwydd bod Georgia wedi bod yn dioddef o salwch. Brysia wella Georgia gan bawb yn Y Selar x
Nos fory, mae ‘na glamp o gig da yn The Flora, Cathays, Caerdydd – ‘Noson Cont o Beth’ ydy enw’r digwyddiad sy’n croesawu Hap a Damwain, Twmffat a 3 Hwr Doeth.
Yn nos Sul, mae cyfle i weld Eädyth yn chwarae yng Nghlwb Ifor Bach wrth iddi gefnogi Joel Culpepper.
Cân: ‘Boddi’ – Geraint Rhys
Roedd cyfle cyntaf i weld y fideo ar gyfer sengl ddiweddaraf Geraint Rhys nos Fercher yma ar wefan Y Selar.
Rhyddhawyd ‘Boddi’ ddydd Gwener diwethaf, a dyma ydy pumed sengl Geraint Rhys o’r flwyddyn, sydd wedi bod yn un prysur arall i’r cerddor o Abertawe.
Ar ‘Boddi’ mae Geraint yn defnyddio sŵn uniongyrchol, llawn egni ac angerdd sy’n adlewyrchu themâu tywyll y trac.
“Dros y cyfnod clo wnes i recordio lot o syniadau cerddorol yn y tŷ” eglura Geraint.
“Oherwydd bod ymweld â’r stiwdio yn amhosib roedd hyn yn golygu fod rhaid cadw pethau yn eithaf syml.
“Felly dwi wedi ysgrifennu lot o demos gyda jyst y gitâr a bass, gyda’r ddau offeryn yna yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith.”
Fel ei sengl flaenorol, ‘Gyda Ni’, mae’r môr yn ddylanwad mawr ar y trac ond yn cael ei ddefnyddio i archwilio teimladau tywyllach y geiriau.
Dyma’r fideo i chi eto:
Record: Swimming Limbs – Jen Jeniro
Does dim albyms nac EPs newydd allan penwythnos yma’n ôl pob golwg felly cyfle perffaith i neidio nôl mewn amser a rhoi sylw i record o’r archif.
Ac rydan ni’n neidio nôl ddeng blynedd i 2011, a’r EP Swimming Limbs gan y grŵp seicadelig o Ddyffryn Conwy, Jen Jeniro.
Mae’n anodd credu bod degawd wedi pasio ers rhyddhau’r record yma, sef y cynnyrch olaf i’w ryddhau gan Jen Jeniro. Mae dylanwad y grŵp yn dal i’w glywed yn atsain trwy gerddoriaeth bandiau ifanc sydd o gwmpas heddiw, a hynny’n rhannol diolch i grwpiau eraill Dyffryn Conwy fel Sen Segur, Omaloma a Lastigband, a gafodd eu dylanwadu arnynt gan Jen Jeniro.
Ymddangosodd Jen Jeniro gyntaf yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 2005, gan ennill eu rhagbrawf, yn eu gig cyntaf erioed, a chyrraedd y ffeinal yn Eisteddfod Bangor y flwyddyn honno. Derwyddon Dr Gonzo enillodd y gystadleuaeth o drwch blewyn gyda’r grŵp o Ddyffryn Conwy’n ail agos.
Dros y chwe blynedd a mwy canlynol aeth y band o nerth i nerth gan ddatblygu sŵn unigryw i’w hunain oedd yn eu gwneud yn ffefrynnau gyda miwsôs ac aelodau bandiau Cymru, er efallai ddim yn llwyddo i gyrraedd y brig o ran poblogrwydd gyda’r cynulleidfaoedd mae’n deg dweud. Ond doedd hynny ddim petai’n poeni’n ormodol ar y band.
Bu iddynt ryddhau’r EP Tallahasse yn 2006, ac yna eu hunig albwm llawn, Geleniaeth, yn 2008. Daeth y sengl boblogaidd ‘Dolffin Pinc a Melyn’ ar gasét retro wedi hynny yn 2010 cyn eu record olaf, Swimming Limbs, ar feinyl y flwyddyn ganlynol.
Pump trac sydd ar yr EP yma sef ‘Ebeneezer’, ‘Madfall’, ‘Mewn Encyd’, ‘Powys’ a ‘Take Your Time’.
Yn ei hadolygiad o’r EP ar gyfer rhifyn Awst 2011 o’r Selar fe ddisgrifiodd Leusa Fflur y record fel “EP perffaith ar gyfer road trips yr haf” a gyda’r sŵn pop seicadelig cŵl sy’n llifo trwy’r caneuon, mae’n anodd dadlau gyda hynny.
Mae ‘na hanes difyr i waith celf a chlawr y record hefyd, a gallwch ddarllen yr hanes yn iawn yn eitem ‘O Glawr i Glawr’ rhifyn Rhagfyr 2011 o’r Selar.
Mae’n werth i chi hefyd fwrw golwg nôl ar gyfweliad Y Selar gyda Jen Jeniro yn rhifyn Mehefin 2010 o’r cylchgrawn.
Dyma nhw’n perfformio ‘Powys’ yn fyw ar gyfer sesiwn i raglen Huw Stephens ar Radio Cymru yn 2011:
Artist: Mr Phormula
Bach o sylw i rapiwr gorau Cymru penwythnos yma ar ôl i Mr Phormula, gyhoeddi ei fod wedi ymuno â label newydd.
Mr Phormula wrth gwrs ydy enw llwyfan Ed Holden, gynt o grwpiau Pep Le Pew, Y Diwygiad a Genod Droog ymysg eraill.
Cyhoeddodd y cerddor a chynhyrchydd gwych penwythnos diwethaf ei fod yn falch iawn i fod yn ymuno â label Bard Picasso Records, a’i fod yn edrych ymlaen at gyd-weithio gyda nhw.
Mae Bard Picasso yn label sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, ac yn canolbwyntion ar gerddoriaeth hip-hop felly mae Ed yn siŵr o fod yn gartrefol iawn yno.
Yn dilyn rhyddhau ei albwm diweddaraf, Tiwns, ym mis Tachwedd 2020, mae wedi bod yn flwyddyn dawelach i Mr Phormula o ran cynnyrch newydd.
Er hynny mae’r ysbryd cydweithredol wedi bod yn gryf ynddo wrth iddo bartneriaethu gyda nifer o artistiaid eraill yn ystod y flwyddyn. Mae hynny wedi cynnwys cyd-weithio gyda’r grŵp Ystyr ar y trac ‘Noson Arall yn y Ffair’ a ryddhawyd ym mis Mawrth, a gyda’r rapiwr o Lundain Micall Parksun ar y sengl ‘True To Self’ a ryddhawyd fis Ebrill.
Mae’r rapiwr hefyd wedi cyd-weithio â’r ddawnswraig Elan Elidyr ar gywaith rap a dawns ‘Plethu/Wave’ a gafodd ei gyhoeddi ddechrau mis Ebrill.
Ei gynnyrch diweddaraf oedd sengl unigol o’r enw ‘Cell’ a ryddhawyd ar 1 Hydref.
Dyma deitl drac ardderchog ei albwm diwethaf, Tiwns:
Un Peth Arall: Cyfle i artistiaid chwarae yn FOCUS Wales
Mae gŵyl FOCUS Wales yn Wrecsam wedi agor y cyfle i artistiaid berfformio yn y digwyddiad yn 2022.
Go brin fod angen cyflwyniad i FOCUS Wales – mae’r ŵyl showcase ryngwladol wedi datblygu i fod yn un o uchafbwyntiau’r calendr diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Bu’n rhaid gohirio’r ŵyl yn 2020 o ganlyniad i’r pandemig, ond roedd yn ôl mewn lleoliadau amrywiol yn nhref Wrecsam ar ddechrau mis Hydref eleni.
Bydd yr ŵyl yn symud yn ôl i’w dyddiad arferol ym mis Mai yn 2022, a hynny ar benwythnos 5-7 Mai.
I gyd-fynd â hynny mae’r trefnwyr yn gwahodd artistiaid i wneud cais am un o’r 250 o slotiau perfformio yn yr ŵyl, gyda chroeso i unrhyw un o unrhyw genre cerddorol, o unrhyw ran o’r byd ymgeisio.
Gall artistiaid wneud hynny trwy gwblhau ffurflen gais ar wefan FOCUS Wales erbyn 17 Ionawr 2022. Amdani!