Pump i’r Penwythnos – 13 Awst 2021

Gig: Hyll, Papur Wal, Hana Lili – Clwb Ifor Bach, Caerdydd – 13/08/21

 Gigs. Gigs go iawn! Oes, mae mwy ohonyn nhw ar y gweill ac mae un arwyddocaol heno wrth i un o ganolfannau cerddoriaeth amlycaf Cymru ail-agor ei drysau’r wythnos hon am y tro cyntaf ers y pandemig.

Roedd parti ail-agor Clwb Ifor Bach neithiwr, a heno mae gig sydd â lein-yp o dri artist Cymraeg arddechog.

Hyll sy’n hedleinio, a dyma fydd gig lansio swyddogol eu EP newydd, Mymryn sydd allan ers ychydig o wythnosau.

Mae gan y grŵp o Gaerdydd berthynas glos iawn gyda Chlwb Ifor, felly mae’n briodol mai nhw sy’n hedleinio’r gig cyntaf nôl.

Mae’r gefnogaeth yn gref hefyd gyda Hana Lili, a Papur Wal, sydd hefyd newydd ryddhau sengl newydd ardderchog, ‘Llyn Llawenydd’.

Dyma ‘Ar Draws y Bydysawd’ o EP diweddaraf Hyll:

Cân:  ‘Diflanu’ – Efa Supertramp x Cerys Hafana x Nick Ronin

Trac sy’n ffrwyth cyd-weithio rhwng dwy gantores dalentog ond gwahanol iawn, a chynhyrchydd uchel ei barch, ydy ein dewis o gân yr wythnos hon.

Rhyddhawyd ‘Diflanu’ ddydd Gwener diwethaf ac mae’n sengl gan Efa Supertramp a Cerys Hafana – mae Efa yn fwyaf cyfarwydd am ei cherddoriaeth pync a roc, tra bod Cerys yn delynores ifanc  o ganolbarth Cymru sy’n prysur wneud enw i’w hun.

Mae’r sengl newydd yn wahanol iawn i’r hyn mae Efa’n arbennig wedi gwneud yn y gorffennol.

“Roedd y synau yn y gân hon wedi caniatáu i mi ddychmygu y gallwn ddianc a chloi fy hun mewn i fyd arall trwy fy ngeiriau” meddai Efa.

“Roedd yn brofiad gwych gweithio gyda dau gerddor cwbl wahanol i mi fy hun.”

Mae’r trac yn cynnwys riffs ar delyn a gitâr gan Cerys Hafana, wedi’u cyflymu ynghyd â churiadau toredig y cynhyrchydd Nick Ronin.

Does dim amheuaeth ein bod wedi gweld llawer mwy o gyd-weithio rhwng artistiaid amrywiol o ganlyniad i’r pandemig, ac mae Cerys o blaid hynny.

“Un peth da am y pandemig hwn yw ei fod wedi agor cyfleoedd i gerddorion gydweithio mewn rhith-realiti” meddai Cerys.

“Gan dyfu i fyny yng nghefn gwlad, mae hi bob amser wedi bod yn anodd dod o hyd i gerddorion i weithio gyda nhw yn y cnawd, felly roedd creu hyn gydag Efa yn fraint wirioneddol. Rwy’n mwynhau rhoi cynnig ar y delyn mewn ffordd annisgwyl, a thorri allan o’r holl ddisgwyliadau sy’n ymwneud â’r offeryn”

Dyma ‘Diflanu’:

 

Record: Y Gwir yn Erbyn y Byd – Mei Gwynedd

Mae cwpl o recordiau wedi gollwng yn annisgwyl wythnos yma, ac un o’r rheiny ydy ail albwm Mei Gwynydd, Y Gwir yn Erbyn y Byd.

Heb rybudd, fe benderfynodd Mei ryddhau’r albwm ddydd Mercher, ac mae’n record sy’n cyffwrdd ar sawl thema sensitif i godi ysbryd pobl yn dilyn y flwyddyn a hanner heriol rydym wedi profi.

“Yn wreiddiol, nes i ddarfod yr LP yn Nadolig 2019” eglura Mei.

“…ond wedi i mi adlewyrchu ar yr LP dros y 6 mis cyntaf y cyfnod clo, es i nôl ati i ysgrifennu mwy o ganeuon i roi gwir ystyr i’r LP, ond hefyd i’w gyfleu fel caneuon fyddai yn edrych ymlaen at ei pherfformio yn y dyfodol.

“Mae gigs byw i fi yn meddwl hwyl,  rhywbeth sy’n gallu codi ysbryd, a rhywle all bobol anghofio eu problemau, a dwi’n gobeithio bydd y teimlad yma yn dod drosodd ar y record newydd. Dipyn o destunau dwys a difrifol wedi eu cuddio mewn caneuon hafaidd a dyrchafol!”

Er bod gweld yr albwm yn glanio ddydd Mercher yn sypreis, roedd yn hysbys bod casgliad hir ar y ffordd gan y cerddor profiadol gan ei fod eisoes wedi rhyddhau cyfres o dair sengl i roi blas i ni dros y flwyddyn ddiwethaf. Y ddiweddaraf o’r rhain oedd ‘Dyddiau Gwell i Ddod’ a ryddhawyd fis Mai.

Mae enw’r albwm yn un cyfarwydd, ac yn ddywediad sydd wedi’i ddefnyddio dros yr oesoedd gan fawrion y genedl megis Owain Glyndŵr, Buddug a Iolo Morgannwg…ac mae Mei Gwynedd, un o fawrion y sin gerddoriaeth Gymraeg, bellach yn eu mysg.

Yn ôl Mei mae’r neges yn y dywediad yr un mor berthnasol heddiw ag ydoedd ganrifoedd yn ôl.

Mae’r casgliad yn wledd o ganeuon roc gwych, gyda sŵn gitâr eiconig a llais meddal ac angerddol Mei yn atseinio drwy bob trac. Mae’r caneuon i gyd yn cyffwrdd ar sawl thema gyfarwydd fel cariad, gobaith a nostalgia.

Mae caneuon fel “Creda’n Dy Hun” ”Kwl Kidz” “Pryd Ddoith Hyn i Ben” “Dim Ffiniau” a “Milltir Sgwar” yn edrych ar unai unigolion, neu hyd yn oed cymunedau sydd ar yr ymylon a thrio rhoi llais iddynt” meddai Mei.

“Mae’r themâu yma hefyd wedi eu cuddio mewn caneuon serch, ond y neges yw bod pawb angen cariad i gario ni ar y daith.”

Dyma fideo swyddogol y sengl ddiwethaf, ‘Dyddiau Gwell i Dod’:

 

Artist: Plyci.

Rydyn ni wastad wedi bod yn ffans mawr o Plyci yma yn Y Selar ac yn ei ystyried fel un o lysgenhadon mwyaf cerddoriaeth electroneg Gymreig.

Roedden ni’n hynod o gyffrous felly i glywed ei fod wedi creu’r trac sain arbennig ar gyfer ffilm newydd gan Eddie Ladd a Lleucu Meinir.

‘Teifi’ ydy enw’r ffilm, ac fel mae’r enw’n awgrymu mae wedi’i seilio ar ardal Dyffryn Teifi.

Ffilm fer ydy ‘Teifi’ ac mae’n trafod yr afon Teifi, y gymuned leol yn ardal Llandysul a pherthynas agos yr afon a’r gymuned.

Roedd sawl dangosiad o’r ffilm mewn sinema feicro unigryw penwythnos diwethaf a ddydd Llun, ac mae arddull y dangosiadau hyn yn unigryw iawn. Mae’r ffilm yn cael ei thaflunio ar lyfr, ac mae’r gynulleidfa’n troi’r tudalennau i agor golygfa newydd.

“Ma Eddie a Lleucu wedi bod yn brysur yn ffilmio dros yr wythnosau diwethaf a dwi wedi bod yn cyfansoddi” meddai Gerallt Ruggiero, sy’n perfformio a rhyddhau cerddoriaeth electronig dan yr enw Plyci ers sawl blwyddyn bellach.

“Mae’r gerddoriaeth yn amlwg yn electroneg ond ma llawer o elfennau’r gerddoriaeth wedi’i greu allan o synau’r afon sydd wedi’i recordio gan bobl ifanc sydd â pherthynas gyda chlwb y ‘Padlers’, sef clwb rhwyfo Llandysul.”

Mae’r ffilm yn ran o brosiect ‘Plethu’ sydd dal ar y gweill nes y Nadolig, ac mae’r ffaith bod rhywun fel cyn gyflwynydd Fideo 9 yn ymwneud â’r cynllun yn sicr yn rhoi hygrededd artistig. Mae Lleucu Meinir hefyd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r sin gerddoriaeth yng Nghymru dros y blynyddoedd fel hyrwyddwr, gan gynnwys sefydlu gigs misol hynod lwyddiannus Abri yng Nghaerdydd rai blynyddoedd yn ôl.

“Fi wedi bod yn ffan [o Plyci] ers tua 2015 a noson nath Peski ei chynnal yng Nghaerdydd” meddai Eddie Ladd, sy’n amlwg yn falch o’r cyfle i gyd-weithio gyda Gerallt.

“Roedd cydweithio gyda chyfansoddwr yn un o ofynion prosiect Plethu, ac ro’n i’n gwybod o’r dechrau mai’r math yma o gerddoriaeth a sain o’n i’n moyn.

“O’n i’n lico’r cyfuniad o sain electroneg a chefen gwlad.”

Mae’r gerddoriaeth ar gael ar ffurf EP neu gryno albwm 6 trac ar safle Bandcamp Plyci, ac rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn buddsoddi rhyw hanner awr fach yn gwrando ar y casgliad. 

Un Peth Arall: Rhaglen ‘Maes B: Merched yn Gwneud Miwsig

Roedd ‘na sawl peth da wythnos diwethaf fel rhan o’r Eisteddfod Amgen, ond efallai mai un o’r pethau mwyaf trawiadol i ymddangos oedd darllediad gwych gan Lŵp, Maes B: Merched yn Gwneud Miwsig.

Rydyn ni wedi trafod prosiect pwysig Merched yn Gwneud Miwsig yn rheolaidd yma ar wefan Y Selar, a does dim amheuaeth ei fod yn gwneud gwaith da o ran hybu, ac annog merched i ymwneud â’r diwydiant cerddoriaeth yma yng Nghymru.

Nos Wener diwethaf roedd y darllediad ar S4C yn showcase o’r artistiaid benywaidd anhygoel sy’n creu cerddoriaeth yn y Gymraeg ar hyn o bryd, ac mae wir yn werth i chi ddarllen adolygiad Lois Gwenllian o’r rhaglen.

Mae modd gwylio’r rhaglen ar alw ar BBC Iplayer, ond dyma hefyd un o’r caneuon a berfformiwyd gan Thallo: