Pump i’r Penwythnos – 14 Mai 2021

Set rithiol: Tafwyl

Mae’r dewis o gig wythnos yma’n un reit amlwg, ac yn pontio dau gyfnod mewn gwirionedd gan ei fod yn gig rhannol rithiol…ond hefyd rhannol yn y cnawd!

Rydym yn gwybod ers peth amser bod Tafwyl yn digwydd yn rhithiol unwaith eto eleni, gyda llwyth o artistiaid gwych yn perfformio, a chael eu gwe ddarlledu’n fyw o Gastell Caerdydd fory (Sadwrn 15 Mai). Ond y newyddion mwy diweddar, a hynod gyffrous, ydy bod cyfle i 500 o bobl fod yno, fel cynulleidfa yn y cnawd, rhwng  17:00 a 21:00.

Dyma’r arbrawf cyntaf o’r fath yng Nghymru ar gyfer digwyddiad fel hyn ac roedd modd i bobl wneud cais am docyn erbyn 19:00 nos Wener diwethaf, 7 Mai. Gobeithio bydd yr arbrawf yn llwyddo, ac y gwelwn ni gyfleoedd i ddigwyddiadau tebyg fwrw ymlaen dros yr wythnosau a misoedd nesaf.

Bydd cerddoriaeth yn cael ei ffrydio’n ddigidol o’r ŵyl rhwng 12:30 a 22:00 ar y diwrnod, gyda Plu, Thallo, Cowbois Rhos Botwnnog, Eädyth, Mared, Gwilym a Geraint Jarman ymysg yr enwau sy’n perfformio.

 

Cân:  ‘Olwen (Nate Williams Remix’) – Thallo

Rhywbeth sydd wedi bod yn hynod o boblogaidd trwy gydol y cyfnod clo, ac yn arbennig felly ers dechrau 2021 hyd yma ydy artistiaid Cymraeg yn rhyddhau ailgymysgiadau o’u caneuon.

Ac un ailgymysgwr amlyca’ dros yr wythnosau diwethaf ydy Nate Williams!

Ddiwedd mis Ebrill, rhyddhawyd fersiwn o’r gân Sŵnami, ‘Uno, Cydio, Tanio’, wedi’i hailgymysgu gan Nate, ac erbyn hyn mae hefyd wedi mynd i’r afael ag un o ganeuon Thallo.

Mae’r fersiwn newydd o’r trac ‘Olwen’ allan ers dydd Gwener diwethaf, 7 Mai, ac mae’r cynhyrchydd, offerynnwr a chyfansoddwr amryddawn wedi rhoi gwedd fach wahanol iawn arni.

Cafodd yr ailgymysgiad ei greu’n arbennig ar gyfer her ‘stems’ Siân Eleri ar ei rhaglen BBC Radio Cymru, ac mae Nate wedi dilyn llwybr minimalistaidd electronig gyda’i fersiwn o’r gân. Mae teimlad breuddwydiol i’w fersiwn diolch i’r elfennau jazz a ffynci nodweddiadol o gerddoriaeth Thallo.

 

 

Record: Teimlo’r Awen – Morgan Elwy

Un o’r cerddorion amlycaf o’r flwyddyn hyd yma ydy Morgan Elwy, ac mae’r gŵr o Ddyffryn Clwyd wedi rhyddhau ei albwm cyntaf ers dydd Gwener diwethaf. 

Mae Morgan wrth gwrs  yn gyfarwydd ers rhai blynyddoedd fel aelod o’r grŵp Trŵbz, ond ers dechrau 2021 mae wedi bod yn prysur greu argraff fel artist unigol hefyd diolch i gyfres o senglau.

Y ddiweddaraf o’r senglau hyn oedd ‘Curo ar y Drws’ a ryddhawyd ganol mis Ebrill ac ar y pryd cyhoeddodd bod ei albwm cyntaf, Teimlo’r Awen, ar y ffordd mewn ychydig wythnosau.

Cyn hynny roedd Morgan eisoes wedi rhyddhau dwy sengl sef ‘Aur Du a Gwyn’ ym mis Chwefror a ‘Bach o Hwne’ ym mis Mawrth.

Er bod sŵn ‘Curo ar y Drws’ fymryn yn wahanol, mae’r ddwy sengl flaenorol yn berwi o rythmau reggae cryf, ac ar y cyfan mae hyn yn gyson gyda gweddill caneuon yr albwm, er bod elfennau o gerddoriaeth werin, roc a phop yno hefyd.

Mae’r albwm yn cael ei ryddhau ar fformat CD yn ogystal ag yn ddigidol, ac mae cyfle i brynu copïau ar safle Bandcamp Morgan.

Dyma drydydd trac y casgliad, ‘Jericho’, sy’n tueddu’n fwy at y sŵn gwerinol:

Artist: Lastigband

Mae Lastigband yn brosiect sydd fel petai wedi cael rhyw adfywiad bach yn ystod 2021, a da o beth am hynny.

Daeth Lastigband i’r amlwg yn ystod 2016 fel band newydd dan arweiniad drymiwr y grŵp Sen Segur, Gethin Davies.

Fel y byddech chi’n disgwyl petai chi’n gyfarwydd â Sen Segur, roedd teimlad digon seicadelig i Lastigband, fel oedd i’r grŵp o Ddyffryn Conwy.

Cafodd Lastigband dipyn o sylw dros y flwyddyn neu ddwy ddilynol, gan ryddhau’r EP, Torpido, ym mis Ebrill 2017.

Ers hynny, maen nhw wedi tawelu rhywfaint nes dechrau’r flwyddyn eleni. Mae’n debyg bod y grŵp bellach wedi esblygu i fod yn fwy o brosiect unigol i Gethin, ac fe ryddhaodd EP newydd dan yr enw Diffyg ym mis Ionawr eleni.

Wel, bellach mae wedi rhyddhau ail EP sef Omega 6. Mae’r EP newydd yn cynnwys 4 trac, gydag un o’r rhain yn y Gymraeg, sef ‘Syth yn yr Awyr’.

Gobeithio y gwelwn ni’r gweithgarwch yma’n parhau, a bod llawer mwy i ddod gan Lastigband.

Am y tro, dyma ‘Syth yn yr Awyr’:

 

Un Peth Arall: Fideo Elis Derbyn @ Lŵp

Fideo fach newydd ar gyfer ei eitem olaf Pump i’r Penwythnos heddiw, ac un arall o’r fideos rheolaidd sy’n cael eu cyhoeddi ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C/

Y tro yma mae Lŵp yn cynnig  cip o gerddoriaeth newydd Elis Derby i ni.

Yn y fideo mae Elis yn perfformio cân newydd o’r enw ‘Gin, Tonic a Iâ’ – aidîal.

 

Prif Lun: Thallo (Anxious Film Club)