Pump i’r Penwythnos – 15 Hydref 2021

Gig: Gŵyl UMCB – Bangor – 15 a 16 Hydref

Cwpl o gigs bach da penwythnos yma gan gynnwys Llwybr Llaethog a Pys Melyn yn Nŷ Tawe.

Mae hefyd yn benwythnos mawr yng Nghaerdydd hefyd, neu mewn un rhan o’r brifddinas o leiaf wrth i Ŵyl Sŵn ddychwelyd i Stryd y Fuwch Goch. Mae’r lein-yp eleni’n cynnwys nifer o enwau cyfarwydd i gynulleidfa’r Selar gan gynnwys Sister Wives, Papur Wal, Eädyth, Hyll a SYBS i enwi rhai.

Ond ein prif ddewis ni o gig ar gyfer y penwythnos ydy gŵyl arall sy’n digwydd yn y Gogledd – Gŵyl UMCB. Criw Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor sy’n trefnu’r digwyddiad i gyd-fynd â diwrnod ‘Shwmae Su’mae’ gyda pherfformiadau mewn lleoliadau amrywiol ym Mangor.

Mae’r arlwy’n agor heno gyda gigs yn Paddys a’r Glôb ym Mangor Ucha’, ac yna setiau gan Elis Derby a Dienw yn Academi yn hwyrach mlaen.

Yna, Pontio ydy’r lleoliad ar gyfer cracar o lein-yp sy’n cynnwys Kim Hon, Mali Hâf, 3 Hŵr Doeth, Y Cledrau, Alffa ac Yr Eira.

 

Cân:  ‘Y Bywyd Llonydd’ – Carwyn Ellis & Rio 18

Does ‘na ddim llawer o gerddorion Cymreig mwy cynhyrchiol na Carwyn Ellis.

Boed gyda’i fand Colorama, fel artist unigol, neu gyda thriawd Plu yn y grŵp Bendith, mae Carwyn fel petai’n brysur yn creu cerddoriaeth newydd trwy’r amser.

Ei brosiect diweddaraf ydy Rio 18 ac rydym bellach yn paratoi at ddyddiad rhyddhau trydydd albwm y prosiect.

Bydd yr LP, Yn Rio, allan yn swyddogol ar 22 Hydref ac wythnos diwethaf fe gafwyd blas pellach o’r casgliad fel tamaid i aros pryd.

‘Y Bywyd Llonydd’ ydy enw’r ail sengl i’w rhyddhau o’r gan ddilyn ‘Olá’ a ryddhawyd ym mis Awst.

Mae’r albwm newydd wedi’i recordio gyda Cherddorfa Genedlaethol BBC Cymru, ac mae modd rhag archebu’r albwm, gan gynnwys fersiwn feinyl hyfryd, ar safle Bandcamp y prosiect.

Record: Llwyth – Mr

Nid yw’n gyfrinach ein bod ni’n ffans mawr o Mr, yma’n Selar HQ.

Sôn ydan ni wrth gwrs am brosiect unigol Mark Roberts, gynt o’r Cyrff, Y Ffyrc a Catatonia – un o gerddorion mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth heb os.

Diwrnod hapus felly ydy diwrnod rhyddhau albwm diweddaraf Mr…heddiw ydy’r diwrnod dan sylw gyda llaw!

Llwyth ydy enw pedwerydd albwm Mr ac mae Mark eisoes wedi gollwng dau drac o’r record hir i gynnig blas i’w ffans triw. Daeth ‘Dinesydd’r i’r golwg ym mis Mehefin, ac yna daeth y sengl ‘Dim Byd yn Brifo Fel Cariad’ fel dilyniant ychydig wythnosau yn ôl.

Llwyth ydy’r bedwaredd record hir gan Mr mewn pedair blynedd gan ddilyn Oesoedd (2018), ‘Amen’(2019) a ‘Feiral’ (2020) – tybed pa mor hir all y rhediad barhau?!

Mae modd cael gafael ar fersiwn ddigidol y record, ac archebu’r fersiwn CD, ar safle Bandcamp Mr. Rydan ni wedi cael gwrandawiad cyflym, ac fel y byddech chi’n disgwyl, mae’r record yn llawn dop o diwns bachog a chofiadwy – ardderchog wir.

Dyma ‘Stryglo’:

Artist: Osian Huw Williams

Ydy, mae Osian yn enw, wyneb a llais cyfarwydd ac yn bennaf felly fel ffryntman gwych Candelas, ond wythnos diwethaf bu iddo ryddhau sengl unigol am y tro cyntaf.

‘Llawn Iawn o Gariad’ ydy enw’r trac sy’n cael ei ryddhau mewn cydweithrediad â Radio Cymru.

Mae’r gân yn deillio o’r prosiect ‘Her Cerdd Dant’ a osodwyd gan BBC Radio Cymru nôl yn Nhachwedd 2020 fel rhan o’r arlwy i gymryd lle yr Ŵyl Gerdd Dant oedd wedi’i ohirio.

Heriwyd Osian i berfformio’r fersiwn wreiddiol o ‘Llawn Iawn o Gariad’ o dan lygad barcud y cyfansoddwr, Gwennant Pyrs.

Gwennant gyfansoddodd y gainc a’r gosodiad o eiriau hen benillion traddodiadol, ond aeth Osian ati wedyn i gymryd y gainc a’r alaw a’i threfnu fel yr hoffai.

“Roedd yr alaw, a’r rhythmau o fewn yr alaw yn taro deuddeg hefo fi o’r dechrau,” meddai Osian.

“Be wnes i wedyn oedd trefnu cyfeiliant eithaf ‘country’ a dwyn ysbrydoliaeth o fandiau fel Pink Floyd, Bright Eyes a chydig o Cowbois Rhos Botwnnog.”

Nid dim fel canwr a gitarydd Candelas mae Osian wedi gwneud ei enw – mae hefyd wedi gweithio gyda’i chwaer, Branwen, ar gerddoriaeth y grŵp Siddi yn ogystal â bod yn aelod achlysurol o grwpiau fel Cowbois Rho Botwnnog a Palenco ymysg eraill.

Ym mis Rhagfyr llynedd bu iddo hefyd ryddhau sengl Nadolig ar y cyd â’i gyfaill bore oes, Rhys Gwynfor, ‘Mae ‘ne Rwbeth am Y Dolig’. Tybed a welwn ni fwy o gerddoriaeth solo gan Osian yn y dyfodol agos?

Dyma’r fideo ar gyfer ‘Llawn Iawn o Gariad’:

 

Un Peth Arall: Agor Cronfa Lansio Gorwelion

Un fach i’r cerddorion yn ein mysg i gloi heddiw…

Mae cynllun Gorwelion BBC Cymru wedi agor eu Cronfa Lansio, sy’n cynnig cymorth  ariannol i artistiaid yng Nghymru.

Fel mae’r enw’n awgrymu, mae’r gronfa’n benodol ar gyfer artistiaid a bandiau sy’n dechrau ar eu gyrfa gerddorol, gan hefyd eu helpu i gyflawni eu potensial cerddorol. Y nod ydy cynnig cymorth i artistiaid gyrraedd cynulleidfaoedd newydd neu ehangach.

Gall artistiaid, bandiau neu labeli yng Nghymru wneud cais i’r gronfa ond bod rhaid i’r prosiect dan sylw fod yn canolbwyntio ar weithgarwch yr artist.

Mae modd gwneud cais am gyllid hyd at £2000 ar gyfer prosiect, felly ewch amdani.

Gallwch ddysgu mwy am y gronfa a sut i wneud cais ar wefan Gorwelion.