Set rhithiol: Jaffro – 14/01/21
Mae albwm newydd Jaffro allan heddiw, ac roedd cyfle cyntaf i chi glywed teitl drac y record hir, sef ‘Ffrog Las’, ar wefan Y Selar nos Fercher.
Ac ar ben hynny oll, roedd cyfle i weld ffrwd ohono’n perfformio caneuon yr albwm ar ei sianel YouTube neithiwr (nos Iau).
Bydd cyfweliad gyda’r cerddor amryddawn, a’r cymeriad difyr, ar wefan Y Selar yn fuan iawn hefyd felly cadwch olwg am hwnnw.
Cân: ‘50au’ – Gwilym
Roedd Gwilym yn sicr yn un o’r nifer o grwpiau a gafodd eu heffeithio’n fawr gan heriau 2020.
Perfformio’n fyw ydy bara menyn y grŵp poblogaidd o’r gogledd, ac wrth gwrs ychydig iawn o gyfleoedd fu i wneud hynny dros y flwyddyn ddiwethaf. A dweud y gwir, mae’n debyg mai eu gig mawr diwethaf oedd hwnnw ar nos Wener Gwobrau’r Selar ym mis Chwefror 2020, ac roedden nhw’n ardderchog bryd hynny.
Ond digon tawel oedd hi i Gwilym am weddill y flwyddyn gwaetha’r modd.
Er hynny, maen nhw wedi dechrau 2021 yn llawer mwy pwrpasol gydag ymddangosiad ganddynt yn y cyntaf o gyfres ‘Gigs Tŷ Nain’ ar Ddydd Calan, ac yna set fel rhan o’r olaf yn y gyfres o gigs ‘Stafell Fyw’ a ddarlledwyd ar lwyfannau Lŵp, S4C nos Fercher diwethaf, 6 Ionawr.
Ac ar ben y perfformiadau hynny, maen nhw hefyd wedi rhyddhau sengl newydd ddydd Gwener diwethaf, ac fel y byddech chi’n disgwyl, mae hi’n dipyn o diwn.
“Mae hi’n ryw fath o flas o’r hyn sydd i ddod ar yr ail albwm” meddai Llew Glyn, gitarydd Gwilym.
“Bydd y synths yn bendant yn amlycach ar hwn [yr albwm nesaf], a mi fyddwn ni’n trio bod yn fwy arbrofol ar adegau, ond heb wyro’n ormodol oddi wrth indie pop yr albwm cyntaf.”
‘50au’ ydy’r ail flas o’r albwm newydd mewn gwirionedd yn dilyn y sengl ‘\Neidia/’ a ryddhawyd ym mis Mai 2019 ac a gipiodd deitl y ‘Gân Orau’ yng Ngwobrau’r Selar llynedd.
Yn ôl Llew, maen nhw’n brysur yn recordio demos ac ati dros Zoom gyda Rich Roberts, gyda’r bwriad o ddychwelyd i Stiwdio Ferlas cyn gynted ag y bydd modd iddynt wneud hynny’n ddiogel.
Chi fydd y cyntaf i glywed pan fydd mwy o newyddion am yr albwm, ond am y tro mwynhewch ‘50au’:
Record: Bwca – Bwca
Mae albwm cyntaf Bwca allan ar ffurf CD ers mis Tachwedd, ond ddiwedd y mis bydd y casgliad hefyd allan ar lwyfannau digidol am y tro cyntaf.
Mae’r record yn rhannu enw’r grŵp, ac er gwaetha’r cyfnod clo mae Bwca wedi llwyddo i barhau’n rhyfeddol o weithgar dros y flwyddyn ddiwethaf gan ryddhau cynnyrch, perfformio gigs a gwneud ymddangosiadau teledu amrywiol.
Sylfaenydd Bwca ydy’r cerddor o Aberystwyth, Steff Rees, ac ef sydd wedi ysgrifennu caneuon yr albwm i gyd. Mae’r albwm yn nodi degawd ers i Steff symud i dref Aberystwyth, ac mae’n gasgliad o ganeuon llawn ystyr a dylanwadau cerddorol sy’n creu portread difyr o’i filltir sgwâr yn y dref ger y lli.
Mae’r casgliad o ganeuon yn trafod y drwg a’r da o fywyd yn yr ardal, gyda detholiad o ganeuon sy’n amrywio rhwng y dwys a’r dychanol, o ganu protest i ganu gwlad.
Y cerddorion eraill sydd wedi cyfrannu at yr albwm ydy aelodau eraill parhaol y grŵp Rhydian Meilir Pughe, Kristian Jones, Nick Davalan, Ffion Evans ac Iwan Hughes, gydag Ifan Jones a Dilwyn Roberts-Young hefyd yn ymuno ar ambell gân.
Dyma berfformiad byw o’r trac ‘Cno Dy Dafod’ gan Bwca yn Eisteddfod yr Urdd Bae Caerdydd llynedd:
Artist: Ffrancon
Mae ‘na rywbeth dirgel a chyfrin am y cerddor electronig Geraint Ffrancon.
Dros y blynyddoedd mae wedi bod yn gyfrifol am lwyth o brosiectau amgen diddorol gan gynnwys Ap Duw, Blodyn Tatws, Seindorff a Stabmaster Vinyl.
Yn fwy diweddar mae wedi canolbwyntio’n bennaf ar brosiect Machynlleth Sound Machine, a ryddhaodd albwm ym mis Mai llynedd, a Ffrancon.
Ymddangosodd albwm epig 27 trac Ffrancon, Ewropa, ym mis Mai 2019 – teyrnged bersonol i bob un o 27 gwlad yr Undeb Ewropeaidd wrth i Brydain baratoi i ymadael.
Nawr mae dilyniant i’r record hir ar ffurf yr EP EWROPA 2034 a ryddhawyd ar ddiwrnod olaf 2020.
Mae’r EP newydd yn edrych ymlaen at y flwyddyn 2034 pan fydd “nanobots yn rheoli’r byd a’r holl wledydd wedi eu dymchwel” yn ôl y cerddor.
Gallwn ddyfalu mai nid cyd-ddigwyddiad oedd rhyddhau’r EP am hanner nos ar 31 Rhagfyr wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd yn swyddogol!
Pedwar trac sydd ar y casgliad byr, gyda sêr (eto’n cynrychioli’r Undeb Ewropeaidd mae’n debyg) yn hytrach nag enwau. Dyma’r trac olaf, ‘****”:
Un Peth Arall: Ffredi Blino
Rydan ni wedi dod ar draws y prosiect/cerddor diddorol iawn yma’n ddiweddar, ac yn awyddus i’w gyflwyno i chi.
Ychydig iawn ydan ni wir yn gwybod am Ffredi Blino ar hyn o bryd, ar wahan i’r ffaith ei fod yn dod o ganolbarth Cymru, ac wedi perfformio mewn nifer o grwpiau dros y blynyddoedd.
Mae ei brosiect diweddaraf yn gyfuniad o alwon bachog a themau digon swreal. Nid yw’n syndod gweld enw Gruff Rhys ymysg ei ddylanwadau, sydd hefyd yn cynnwys Lou Reed, Princ a Joni Mitchell.
Yn ystod misoedd Medi a Hydref 2020 aeth ati i recordio albwm yn ei gartref gydag adnoddau cyfyngedig, a’r canlyniad oedd casgliad o’r enw The Dishwasher Tapes.
Nid dim ond sylw Y Selar mae Ffredi wedi’i ddal, mae’n ymddangos bod enwogion cerddorol fel Badly Drawn Boy yn dipyn o ffans hefyd….
I got lost in this for a minute.. Great escapism ! Lovely tune https://t.co/J3dInmQHj1
— Badly Drawn Boy (@badly_drawn_boy) January 13, 2021
Mae’r fideo ar gyfer ‘Honolulu’ yn rhoi’r syniad i chi mae’n siŵr.
Mwy am Ffredi Blino yn y man, ond am y tro dyma ‘Dwwwi (Tune IV) ganddo: