Pump i’r Penwythnos – 16 Ebrill 2021

Set rhithiol: Anweledig – Sesiwn Fawr Dolgellau 2003

Fe gyhoeddwyd wythnos diwethaf mai yn rhithiol fydd gŵyl flynyddol Sesiwn Fawr Dolgellau yn cael ei chynnal unwaith eto eleni. Dyna oedd y drefn llynedd hefyd wrth gwrs, a bydd yr ŵyl rithiol yn cael ei chynnal ar benwythnos 16-18 Gorffennaf eleni.

Er bod y digwyddiadau digidol llynedd ac eleni bach yn wahanol, mae Sesiwn Fawr yn hen gyfarwydd â bod ar sgrin gan fod yr ŵyl wedi’i darlledu’n fyw ar S4C sawl gwaith pan oedd yn ei hanterth.

Roedden ni’n meddwl felly ei bod yn gyfle da i ni fwrw golwg nôl ar un o berfformiadau mwyaf cofiadwy’r Sesiwn o’r gorffennol, sef hwnnw pan oedd y grŵp gwallgof lleol, Anweledig, yn hedleinio’r penwythnos yn 2003.

A hwythau o Ffestiniog, fe berfformiodd Anweledig yn Sesiwn Fawr sawl gwaith dros y blynyddoedd wrth gwrs, ond yn sicr roedd 2003 yn uchafbwynt.

 

Cân:  ‘Tyfu’ – magi.

Mae’r Selar wedi bod yn dilyn gyrfa Magi Tudur ers sawl blwyddyn bellach, ac felly’n falch iawn i’w gweld yn mynd o nerth i nerth dan ei henw llwyfan newydd, magi.

Fe ddaethon ni ar draws talentau Magi gyntaf fel aelod o’r grŵp ifanc o Arfon, Y Galw, a oedd yn un o’r grwpiau a ryddhaodd drac gyda ni fel rhan o gynllun Clwb Senglau’r Selar.

Yn fuan wedyn, doedd hi’n ddim syndod i ni ei gweld yn dechrau adeiladu gyrfa i’w hun fel artist unigol, gan berfformio a rhyddhau cerddoriaeth dan ei henw llawn, gan gynnwys yr EP, Gan Bwyll, yn 2016.

Ers llynedd mae wedi dechrau rhyddhau cerddoriaeth dan yr enw bachog, magi., gan ddechrau gyda’r sengl ‘Blaguro’ ym mis Awst.

Dilynwyd honno gan y trac ‘Golau’ a ryddhawyd ym mis Rhagfyr, a bellach mae wedi rhyddhau ei thrydedd sengl, ‘Tyfu’ ers dydd Gwener diwethaf.

Teg dweud bod hon yn diwn fach neis iawn arall gan magi. –  cân hamddenol hyfryd sy’n gweddu’n berffaith i ddyfodiad y gwanwyn, a’r rhyddid newydd sy’n dod i ni wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo diweddaraf ddechrau llacio.

I gyd-fynd â dyddiad rhyddhau’r sengl, fe gyhoeddwyd y fideo sesiwn yma o magi. yn perfformio ‘Tyfu’ ar lwyfannau digidol cyfres Lŵp, S4C, ddydd Gwener…

 

 

Record: Cyfnos – Gwenno Morgan

Mae heddiw yn ddiwrnod arwyddocaol yng ngyrfa’r cerddor Gwenno Morgan, er ei bod wedi bod yn enw amlwg iawn dros yr wythnosau diwethaf.

Mae enw Gwenno wedi bod ar wefusau pawb yn ddiweddar wrth iddi gyd-weithio’n gyntaf gyda Sywel Nyw ar y sengl ‘Dyfroedd Melys’, a ryddhawyd ddiwedd mis Mawrth, ac yna gyda Mared ar y sengl ‘Llif yr Awr’ sydd allan ers wythnos gyntaf mis Ebrill.

Yr wythnos yma, hi sy’n cael y sylw i gyd wrth iddi ryddhau ei chynnyrch unigol cyntaf ar ffurf yr EP, Cyfnos.

Cerddor a chynhyrchydd jazz amryddawn ydy Gwenno, ac mae’r casgliad byr newydd yn un offerynnol. Mae un o’r traciau, ‘T’ hefyd yn cael ei rhyddhau fel sengl a phrif drac yr EP heddiw.

Er mai dros y mis diwethaf mae Gwenno wedi dod i sylw’r mwyafrif o bobl mae’n siŵr, mae hi wedi bod ar radar y gwybodusion ers peth amser wrth iddi ddechrau cyhoeddi traciau ar Soundcloud yn ystod 2020.

Fe ddaliodd caneuon fel ‘Gorwel’ a ‘Through the Space’ sylw’r cyflwynwyr Radio dylanwadol Sian Eleri, Georgia Ruth ac Adam Walton.

Er bod Gwenno’n fwy cyfarwydd fel pianydd clasurol, mae wedi magu cariad at gyfansoddi a chydweithio gydag artistiaid eraill. Dechreuodd gyfansoddi a hunan gynhyrchu ei cherddoriaeth i hun ar ddechrau 2020 ar ôl dychwelyd o flwyddyn dramor yn astudio yn Texas, UDA.

Recordiau I KA CHING sy’n rhyddhau’r casgliad, ac yn ôl y label mae Cyfnos yn gyfuniad o draciau sinematig sy’n ennyn hiraeth am lefydd a phobl arbennig. Mae hyn yn cael ei amlygu’n bennaf ar y traciau ‘Jasper’ a ‘T’, drwy ddefnyddio ‘memos llais’ gafodd eu recordio dros gyfnod o amser.

Mae Gwenno wedi troi at gyfeillion talentog am gyfraniadau offerynnol ar rai o’r caneuon gan gynnwys Henry Weekes – sacsoffonydd sy’n byw yn Berlin, Yr Almaen ar ‘Through the Space, Lara Wassenberg ar y viola ar y trac ‘T’, a George Topham ar y drymiau hefyd ar  ‘Through the Space’.

Dyma’r sengl, ‘T’:

 

Artist: Rogue Jones

Mae’n bum mlynedd ers i Rogue Jones ryddhau eu halbwm cyntaf, V U, ac i nodi’r achlysur mae’r grŵp lliwgar yn rhyddhau fersiwn newydd o’r casgliad ar ddiwedd y mis.

Rydan ni wedi gweld tipyn o artistiaid Cymraeg yn cynnig eu caneuon i artistiaid eraill eu hail-gymysgu’r ddiweddar, ac mae hynny wedi cynnwys gweld pobl fel Georgia Ruth ac Ani Glass yn rhyddhau EPs o ail-gymysgiadau caneuon eu halbyms llwyddiannus.

Ond does dim cymaint o esiamplau o albyms llawn o ganeuon wedi’u hail-gymysgu eto, felly gellir dadlau bod Rogue Jones yn torri tir newydd gyda’r casgliad llawn yma o ganeuon V U sydd allan ar 30 Ebrill.

Ymysg yr artistiaid cyfarwydd sydd wedi mynd i’r afael â chaneuon V U mae Eädyth, 9Bach, Ani Glass a Pat Morgan o’r grŵp Datblygu.

“Er bod y prosiect wedi bod ar waith ers peth amser, mae’r flwyddyn ddiwetha’ wedi rhoi’r ffocws i’w gwblhau ac estyn allan at gerddorion eraill mewn cyfnod mor ynysig” meddai Ynyr Morgan Ifan o’r band wrth drafod y broses o guradu’r albwm.

“Ond nid proses gydweithredol oedd hon – penderfynwyd yn gynnar yn y broses ein bod am roi rhyddid creadigol llwyr i’r ail-gymysgwyr.”

Fel tamaid i aros pryd,  mae’r grŵp eisoes wedi rhyddhau fersiwn newydd y trac ‘Pysgota’ sydd wedi’i ail-gymysgu gan Anelog.

Y newyddion da pellach ydy bod albwm newydd sbon ar y gweill gan Rogue Jones hefyd, gyda gobaith o ryddhau’n fuan yn ôl Ynyr, sy’n ychwanegu eu bod wedi cyd-redeg sesiynau recordio ail albwm y band gyda’r prosiect ail-gymysgiadau.

Lot i edrych ymlaen ato gan Rogue Jones felly, ond am y tro beth am i ni fwynhau ail-gymysgiad ‘Pysgota’ gan Anelog:

 

Un Peth Arall: Lansio ail gyfres Merched yn Gwneud Miwsig

Mae ail gyfres o’r podlediad ‘Merched yn Gwneud Miwsig’ bellach wedi dechrau, a’r bennod gyntaf o’r gyfres wedi’i rhyddhau.

Elan Evans sy’n cyflwyno’r gyfres sy’n rhoi sylw arbennig i artistiaid cerddorol benywaidd ac fe gyhoeddwyd penodau’r gyfres gyntaf yn bennaf yn ystod yr hydref llynedd, gydag un yn ymddangos fis Chwefror eleni.

Roedd penodau’r gyrfes gyntaf yn cynnwys cyfweliadau gydag Y Gwefrau, Kizzy Crawford, Hana Lili, Calan ac Ani Glass.

Yn y bennod gyntaf o’r ail gyfres mae Elan yn sgwrsio gyda’r cerddor o Aberystwyth, Georgia Ruth.

Tanysgrifiwch ar eich app podlediadau o ddewis!