Gig: Adwaith, Sybs a mwy – Le Pub – 17/07/21
Ambell gig go iawn, yn y cnawd, yn dechrau ymddangos erbyn hyn ac mae croeso mawr i hynny!
Un sydd ar y gweill penwythnos yma ydy Dafydd Hedd yn Poblado Coffi, Dyffryn Nantlle am 12:30 ddydd Sadwrn.
Un arall sy’n dod a dŵr i’r dannedd ydy hwnnw yn lleoliad amlwg Le Pub yng Nghasnewydd – lein-yp gwych yno nos Sadwrn sy’n cynnwys Adwaith, Sybs, Silent Forum a Murder Club.
Y drwg ydy bod tocynnau eisoes wedi eu gwerthu i gyd – dim syndod mewn gwirionedd!
Cân: ‘Balafô Douma’ – N’Famady Kouyaté
Rydan ni wrth ei bodd â’r cerddor hoffus N’Famady Kouyaté, ac yn falch o weld ei sengl newydd yn cael ei rhyddhau heddiw.
Daw N’Famady yn wreiddiol o Guinea Conakry, ond mae wedi hen sefydlu ei hun fel Cymro mabwysiedig erbyn hyn – mae’n siŵr y bydd llawer wedi ei weld yn cefnogi Gruff Rhys mewn gigs ac yn benodol sioeau’r albwm Pang!.
‘Balafô Douma’ ydy enw’r sengl newydd ac mae’n damaid i aros pryd nes rhyddhau ei EP, Aros i Fi Yna, sydd allan ar 30 Gorffennaf ar label Recordiau Libertino.
Mae cerddoriaeth N’Famady wedi’i wreiddio yn nhraddodiadau Mandingue ei famwlad yng Ngorllewin Affrica, gyda dehongliadau newydd o fywyd ac egni yn deillio o ddylanwadau indi, pop a jazz ei gartref newydd yng Nghymru.
Cyfieithiad Cymraeg teitl y sengl ydy yw ‘mae’n wych cael chwarae’r balafon’, ac mae’n cynrychioli taith gerddorol N’Famady, o bŵer a chryfder ei etifeddiaeth deuluol i fod yn swyno cynulleidfaoedd yn y DU ac Iwerddon ar daith gyda Gruff Rhys.
Dysgodd N’Famady sut i chwarae’r balofon, sef xylophone traddodiadol Affricanaidd, yn blentyn ac os ydach chi wedi gweld ei sioeau byw, byddwch yn gwybod ei fod wir wrth ei fodd yn chwarae’r offeryn!
Record: ‘Wyt Ti’n Medwl Bod o Wedi Darfod?’ – Ciwb
Er ei bod hi wedi bod yn gyfnod heriol i bawb, mae deg dweud bod sawl peth da wedi dod o’r cyfnod clo hefyd.
Un o’r pethau cerddorol mwy cadarnhaol ydy ffurfio’r grŵp Ciwb, sy’n ryw fath o siwpyr grŵp gallech chi ddweud, sy’n gwneud cyfyrs gwych o ganeuon o’r archif bop Gymraeg…ac mae eu halbwm cyntaf allan heddiw!
Aelodau Ciwb ydy Elis Derby, Gethin Griffiths, Marged Gwenllian a Carwyn Williams, ac enw eu halbwm cyntaf ydy Wyt Ti’n Medwl Bod o Wedi Darfod?
Os nad ydy’r pedwarawd yna’n ddigon ‘siwpyr’ i chi, wel maen nhw wedi mynd ati i weithio gyda 9 o artistiaid amlycaf y sin Gymraeg ar gyfer yr albwm newydd. Mae’r enwau’n cynnwys Alys Williams, Mared Williams, Iwan Fôn ac Osian Huw Williams i enwi dim ond rhai.
Gyda chymorth yr artistiaid yma maen nhw wedi mynd ati i roi gwedd newydd ar ddeg o ganeuon o grombil catalog label Recordiau Sain, ac albwm sydd hefyd yn ddathliad o gyfraniad yr artistiaid gwreiddiol a’r cyfansoddwyr i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.
Mae’r artistiaid yn amrywiol, ac mae’r caneuon sy’n cael eu trin yn amrywiol hefyd o glasuron o’r 1970au – ‘Nos Ddu’ (Heather Jones), ‘Methu Dal y Pwysa’ (Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr) a ‘Ble’r Aeth yr Haul?’ (Huw Jones); i anthemau o’r 80au fel ‘Da ni’m yn rhan’ (Maffia Mr Huws), ‘Ofergoelion’ (Tecwyn Ifan) a’r ffynci ‘Gwawr Tequila’ (Bando).
Mae ‘na hefyd ambell drac mwy diweddar o’r 1990au – ‘Dagrau o Waed’ gan Sobin a’r Smaeliaid, ‘Rhydd’ gan Hanner Pei a fersiwn wahanol o’r ffefryn gwerinol gan Siân James, ‘Pan ddo’i adre’n ôl’.
Mae’r casgliad yn cloi gyda Rhys Gwynfor sy’n canu fersiwn newydd o gân Meic Stevens ‘Mynd i ffwrdd fel hyn’, sef y gân sy’n cynnwys teitl yr albwm yn ei chytgan cofiadwy.
Dyma’r fersiwn ardderchog o ‘Pan ddo’i adre’n ôl’ yn cael ei chanu gan Lily Beau:
Artist: Hywel Ffiaidd
Bydd y mwyafrif helaeth ohonoch sy’n darllen hwn yn gofyn, ‘pwy yn y byd ydy Hywel Ffiaidd?’
Ac mae o’n gwestiwn digon teg hefyd. Fe wnawn ni geisio egluro.
Cymeriad dychmygol oedd Dr Hywel Ffiaidd oedd yn cael ei bortreadu gan yr actor amlwg Dyfed Tomos, ac oedd yn ffryntman band a greodd dipyn o argraff ar ddiwedd y 1970au a dechrau’r 1980au.
Roedd Dyfed Tomos yn dod o Rosllanerchrugog ger Wrecsam, ac fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel Hywel Ffiaidd ar gyfer cyflwyniad mewn sioe gerdd pan ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol â Wrecsam ym 1977.
Roedd y cymeriad pync roc yn amlwg yn boblogaidd gan i Dr Hywel Ffiaidd fynd ati i berfformio gigs rheolaidd ledled Cymru am rai blynyddoedd wedi hynny.
Doedd Dyfed Tomos yn sicr ddim yn ofni tynnu blewyn o drwyn gyda’i gymeriad, ac mae un stori am ddarllediad rhaglen deledu Twmdish yn gorfod cael ei ohirio oherwydd defnydd o iaith anweddus gan Hywel.
Er bod y cymeriad yn un digon anghynnes, roedd cerddoriaeth Hywel Ffiaidd yn ddigon hygyrch – yn swnio’n fwy fel roc meddal erbyn heddiw na phync go iawn.
Pam trafod Hywel Ffiaidd penwythnos yma? Wel gan fod y label fu’n gyfrifol am ryddhau cynnyrch y band, Recordiau 123, wedi cyhoeddi eu catalog yn ddigidol am y tro cyntaf, gan gynnwys cynnyrch Hywel Ffiaidd.
Cân enwocaf y band efallai oedd ‘Gwneud Dim’:
Un Peth Arall: Fideo sesiwn Crinc @ Lŵp
Mae cyfres Lŵp, S4C wedi cyhoedd fideo sesiwn o’r grŵp Crinc yn perfformio’r gân ‘Crachach’ ar eu llwyfannau digidol.
Crinc ydi band yr artist o Fangor, Llŷr Alun ac mae ei fand hefyd yn cynnwys Sion Land, Llyr Jones, Alex Morrison a Guto Gwyn Evans.
Llŷr sydd hefyd yn gyfrifol am y label Recordiau Noddfa, sy’n rhyddhau cerddoriaeth Crinc ynghyd â grwpiau fel 3 Hwr Doeth a Pasta Hull.
Cafodd y sesiwn Lŵp yma ei recordio yn stiwdio gelf Llyr ym Mangor.