Gig: Y Cledrau, Elis Derby – Bar Patricks, Bangor Ucha’ – 17/09/21
Ydyn, mae gigs byw yn dechrau nôl o ddifrif rŵan ac mae calendr gigs gwefan Y Selar yn dechrau llenwi unwaith eto. Cofiwch, os ydach chi’n trefnu neu’n gwybod am unrhyw gig sy’n digwydd, gyrrwch y manylion i ni gael ei ychwanegu i’r calendr.
Ac mae ‘na gig bach da ym Mangor Ucha’ heno, a hynny ym Mar Patricks. Y Cledrau ac Elis Derby sy’n perfformio gyda’r noson yn dechrau am 20:30. Cofiwch ni at yr hen Paddy os ydach chi’n mynd draw.
Cyfle da felly i plygio rhifyn diweddaraf Y Selar sy’n cynnwys Sgwrs Sydyn gyda’r Cledrau. Mae’r artist Sion Tomos Owen hefyd wedi creu darluniad arbennig o’r grŵp i gyd-fynd â’r rhifyn (gweler prif lun y darn yma) – copi print nifer cyfyngedig ar y ffordd i bob un o aelodau premiwm Clwb Selar.
Dyma’r Cledrau yng Ngwobrau’r Selar (chwefror 2019) i’ch hatgoffa o ba mor dda ydyn nhw’n fyw:
Cân: ‘Aros i Fi Yna’ – N’famady Koyaté
Mae N’famady Koyaté wedi bod yn enw amlwg iawn dros o cwpl o fisoedd diwethaf, ac mae rheswm da am hynny ar ôl iddo ryddhau ei EP gwych, Aros i Fi Yna ddiwedd Gorffennaf.
Er mwyn cynnal y momentwm mae wedi’i greu, mae’r cerddor dawnus a ddaw’n wreiddiol o Guinea Conakry wedi penderfynu rhyddhau teitl-drac ei record fer fel sengl heddiw.
Mae’r sengl ‘Aros i Fi Yna’ allan yn ddigidol ar label Recordiau Libertino heddiw, ac yn ddilyniant i’w sengl flaenorol ‘Balafô Douma’ oedd yn damaid i aros pryd cyn rhyddhau’r EP.
Mae N’famady wedi sefydlu ei hun yng Nghaerdydd ers tro bellach a bydd yn gyfarwydd i lawer o bobl sydd wedi bod i gigs Gruff Rhys dros y blynyddoedd diwethaf wrth i’r cerddor ei gefnogi’n rheolaidd, a pherfformio fel aelod o fand cyn ganwr y Super Furry Animals ar daith hyrwyddo’r albwm ‘Pang!’.
Yn wir, mae N’Famady wrthi’n teithio gyda Gruff Rhys eto ar hyn o bryd wrth i Gruff hyrwyddo ei albwm diweddaraf, Seeking New Gods.
Mae’r brif sengl oddi ar EP cyntaf N’famady Koyaté yn teimlo fel heulwen braf yr haf bach Mihangel yn ein cofleidio. Gyda pherfformiad gwadd gan Lisa Jên Brown (9Bach), mae’n gân serch sy’n estyn dros gyfandiroedd ac sy’n cael ei fynegi drwy gerddoriaeth afieithus a chywrain N’famady.
“Esblygodd ‘Aros i Fi Yna’ o fy nghân wreiddiol ‘Dianamô’, yna addaswyd i’r Gymraeg” eglura N’famady Kouyaté.
“Mae’n gân serch am hiraeth a gwahanu; wedi’i ysbrydoli gan yr amser y bûm i’n byw mewn cyfandir gwahanol i’m cariad, fe drefnon ni gwrdd â’n gilydd hanner ffordd”.
Record: Ni Yw Y Morgrug – Y Morgrug
Dim EPs neu albyms newydd allan wythnos yma, felly cyfle da i dyrchu yn yr archif am ein dewis o record heddiw.
Ac rydan ni am wibio nôl unarddeg blynedd i 2010 er mwyn ail-ymweld â record a ryddhawyd gan grŵp eithaf anarferol, ac a gafodd gryn dipyn o sylw o’r herwydd.
Beth oedd yn anarferol am Y Morgrug felly? Wel, dim llawer yn gerddorol mewn gwirionedd – sŵn roc ysgafn digon amrwd, a digon arferol i fand ysgol Cymraeg. Yr hyn oedd yn anarferol am Y Morgrug oedd mai dim ond 12 oed oedden nhw pan ddaethon nhw i sylw, gan chwarae un o’u gigs cyntaf yng Ngŵyl Sŵn 2011.
Oedd, roedd Huw Stephens yn ffan mawr o’r pedwarawd ifanc o Fangor oedd wedi ffurfio yn Ysgol Tryfan. Yn ôl y chwedl, fe ddaeth Huw ar draws Y Morgrug wrth i’r grŵp gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, gan chwarae un o’u traciau ar ei raglen radio’n fuan wedyn.
Ar y pryd roedd Huw yn un o drefnwyr Gŵyl Sŵn wrth gwrs, ac yn fuan iawn daeth cyfle i’r Morgrug berfformio yn yr ŵyl ddinesig. Mae Hefin Jones yn adrodd rhywfaint o hanes y gig enwog hwnnw yn y Model Inn yn ei adolygiad o unig record Y Morgrug yn rhifyn Y Selar Awst 2010.
EP pum trac ydy Ni Yw y Morgrug ac y traciau a gafodd y fwyaf o sylw ar y pryd oedd ‘1-2-3-4-5’ a ‘Motowei’, ond ein hoff drac ni ydy ‘Bywyd Gwych’ isod.
Alawon syml, geiriau gonest gan griw o hogiau oedd newydd ddechrau yn yr ysgol uwchradd.
Os ydy’n syms ni’n gywir, fe ddylai Meilyr, Osian, Rhun a Gruff fod tua 23 oed…felly be sydd mlaen efo’r aelodau erbyn hyn tybed? Rhowch waedd os ydach chi’n gwybod eu hanes nhw!
Artist: Daniel Lloyd
Mae ‘na dipyn o buzz ynghylch CPD Wrecsam ar hyn o bryd ac mae’r cerddor lleol, Daniel Lloyd wedi penderfynu ychwanegu at yr hwyl wrth ryddhau fersiwn newydd o glasur o gân sy’n perthyn yn agos i’r clwb.
‘I Mewn i’r Gôl’ ydy’r gân dan sylw, ac mae fersiwn Dan allan yn swyddogol heddiw.
Mae Daniel Lloyd, yn gerddor adnabyddus iawn bellach ar ôl dechrau ei yrfa gyda’r band Dan Lloyd a Mr Pinc ar ddechrau’r mileniwm.
Yn ganwr a gitarydd dawnus, fe ddaw Dan yn wreiddio o Rhosllannerchrugog ger Wrecsam felly mae wedi’i fagu bron yng nghysgod y Cae Ras, cartref tîm pêl-droed hyna’ Cymru. Mae Daniel hefyd wrth gwrs yn actor llwyfan adnabyddus, sydd wedi serennu mewn sawl panto dros y blynyddoedd, ac mae hefyd wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar gyfres deledu Rownd a Rownd yn ddiweddar gan chwarae rhan Aled Campbell.
Mae’n amser cyffrous i glwb pêl-droed Wrecsam ar hyn o bryd ar ôl iddynt gael eu prynu gan y sêr Hollywood Rob McElhenney a Ryan Reynolds. Amser perffaith i Dan ryddhau ei ail-bobiad o’r glasur o anthem bêl-droed felly!
Un Peth Arall: Sesiynau Cwt Cerdd @ Lŵp
Mae cyfres Lŵp, S4C wedi cyhoeddi nifer o sesiynau ‘Cwt Cerdd’ yr Eisteddfod Genedlaethol ar eu sianel YouTube dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf.
Mae’r rhain yn cynnwys perfformiadau arbennig gan Lisa Angharad, Glain Rhys, Sioned Webb, Siân James, Dafydd Iwan a Mared.
Dyma fersiwn hyfryd o’r gân werin Lleuen Landeg gan Glain Rhys: