Pump i’r Penwythnos – 17 Rhagfyr 2021

Gig: Hosan Lawen – Neuadd Ogwen, Bethesda – 18/12/21

Mae ‘na stoncar o gig yn Neuadd Ogwen Bethesda nos Sadwrn yma gyda llu o fandiau gorau’r sin yn perfformio. 

Recordiau Noddfa sy’n cyflwyno gig Hosan Lawen sy’n llwyfannu 3 Hwr Doeth, Kim Hon, Papur Wal, Mellt, Pys Melyn a Crinc. Ardderchog wir. 

Yn anffodus mae Clwb Ifor Bach wedi gohirio’r gig Candelas a Dienw oedd i fod yno heno oherwydd y gofid am y nifer cynyddol o achosion Omicron o’r Coronafeirws ar hyn o bryd. Gobeithio bydd dyddiad newydd yn fuan ar gyfer y gig. 

Cwpl o gigs eraill da yn digwydd penwythnos yma hefyd, gan gynnwys Twmffat yn Selar Aberteifi heno,  a Los Blancos yn CWRW, Caerfyrddin nos Sadwrn. 

 

Cân:  ‘Gadael y Dref’ –  N’famady Kouyaté a Gruff Rhys

Sengl ddiweddaraf N’famady Kouyaté ydy ein dewis o gân yr wythnos yma.

Rydan ni wrth ein bodd â’r gŵr o Guinea Conakry ac wedi mwynhau ei EP ARos i Fi Yna a ryddhawyd yn gynharach yn y flwyddyn. 

Ar y sengl newydd, ‘Miniyamba / Gadael y Dref’, mae’n cyd-weithio gyda hen gyfaill iddo, Gruff Rhys.  

Mae’r ddau gerddor yn gyfarwydd iawn â’i gilydd gan fod N’famady wedi cefnogi Gruff, yn ogystal ag ymuno â’i fand ar gyfer ambell gân, ar sawl taith dros y blynyddoedd diwethaf. 

Tiwn fywiog a bendigedig arall gan y cerddor amryddawn

 

Record: ‘Gig y Pafiliwn 2021 – Recordiau I KA CHING yn 10 Oed’

Llond ceg o enw ar albwm efallai, ond mae rheswm da am hynny gan ei fod yn llawn dop o diwns gwych, a gwahanol i’w fersiynau gwreiddiol. 

Fel rhan o ddathliadau deng mlwyddiant y label recordiau eleni, daeth rhai o’u prif fandiau ac artistiaid dros y blynyddoedd ynghyd i berfformio trefniannau arbennig o’u caneuon gyda Cherddorfa’r Welsh Pops. 

Doedd dim Eisteddfod Genedlaethol yn ei ffurf arferol unwaith eto eleni wrth gwrs, felly roedd y perfformiad yn rhan o arlwy ar-lein yr Eisteddfod Amgen nôl ym mis Awst, gyda’r DJ Huw Stephens yn cyflwyno. Fe gafodd ei ddarlledu yn ei gyfanrwydd ar-lein, ac mewn sinemâu ledled y wlad. 

Roedd llwyth o artistiaid gwych I KA CHING dros y blynyddoedd yn perfformio gan gynnwys Alys Williams (Blodau Papur), Osian Huw (Candelas), Casi Wyn (Clwb Cariadon), Glain Rhys, Griff Lynch, Mared, Siddi, Ifan Davies (Sŵnami), Joseff Owen (Y Cledrau) a Lewys Wyn (Yr Eira).

Dan yr amgylchiadau a chyfyngiadau ar y pryd, heb os roedd yn ddathliad teilwng o ben-blwydd label arwyddocaol iawn sydd wedi gwneud eu stamp dros y degawd diwethaf. 

Mae dal modd gwylio’r cyngerdd yn ei gyfanrwydd ar sianel YouTube yr Eisteddfod Genedlaethol, ond, bellach mae’r traciau ar gael ar CD hefyd, yn ogystal ag ar y llwyfannau ffrydio cerddoriaeth arferol. Fysa ni’n argymell archebu ar safle Bandcamp I KA CHING

Dyma fersiwn AN-HYG-OEL Griff Lynch o ‘Hir Oes Dy Wên’:

Artist: Catrin Herbert

Grêt i weld Catrin Herbert yn ôl gyda sengl newydd wythnos diwethaf. 

‘Nadolig ‘Da Fi’ ydy enw ymgais Catrin ar sengl Nadolig eleni, sydd allan ar JigCal. 

Mae Catrin yn fwyaf cyfarwydd am ei chaneuon bachog ‘Disgyn Amdana Ti’, ‘Dere Fan Hyn’ ac ‘Ar Goll yng Nghaerdydd. Hi hefyd sy’n bennaf gyfrifol am un o diwns gorau 2021, sef ‘Cariad yw Cariad’  gan griw Mas ar y Maes i ddathlu hanes y gymuned LHDT yng Nghymru.

O ystyried poblogrwydd ei chaneuon blaenorol, nid yw’n syndod gweld Catrin yn rhoi tro ar drac Nadoligaidd, ac mae’n gwneud hynny gyda chymorth label Recordiau JigCal a’r cynhyrchydd Mei Gwynedd. 

Yn briodol iawn, dechreuodd Catrin gyfansoddi ‘Nadolig ‘Da Fi’ ar ddiwrnod crasboeth o fis Gorffennaf gwpl o flynyddoedd yn ôl. A gyda bach o hyd a lledrith y Nadolig, ychydig o glychau Siôn Corn a help llaw y ‘corrach bach’…neu’r cynhyrchydd Mei Gwynedd…yn stiwdio JigCal, dyma greu cân Nadolig i godi calon a chodi gwên. 

 

Un Peth Arall: Blwyddlyfr Y Selar 2021

Ydy wir, mae Blwyddlyfr cyntaf Y Selar wedi mynd i’r wasg heddiw!

Dyma ni syniad sydd wedi bod yng nghefn y meddwl ers sawl blwyddyn, sef i gyhoeddi blwyddlyfr sy’n edrych yn ôl ac yn crynhoi’r flwyddyn a fu yn y byd cerddoriaeth Cymraeg gyfoes. Tebyg iawn i’r annuals rydach chi’n eu gweld yn y siopau yr adeg yma o’r flwyddyn – rhywbeth bach perffaith i lenwi’r hoson Nadolig os cawn ni for mor hy a dweud!

Cip yn ôl dros y flwyddyn ydy’r blwyddlyfr, gyda thudalennau’n edrych ar newyddion a chynnyrch newydd pob mis yn 2021, yn ogystal ag ambell ddarn a chyfweliad estynedig sydd ddim ond wedi eu cyhoeddi ar-lein cyn hyn. 

Y catch ydy mai nifer cyfyngedig o gopïau sydd, a rhain yn ecsgliwsif i aelodau Basydd, Gitâr Blaen, Prif Ganwr a Rheolwr Clwb Selar. Ond, na phoener, tydi hi byth yn rhy hwyr i chi ymuno â’r Clwb, ac yn ogystal â’r blwyddlyfr fe gewch chi fanteisio ar yr holl fuddion eraill sy’n dod law yn llaw ac aelodaeth. 

Felly am beth ydach chi’n aros, ymaelodwch â’r Clwb