Gig: Hap a Damwain – Gŵyl Matamorffosis, Prifysgol Bangor – 24/06/21
Oce, di’r gig yma ddim dros y penwythnos ond mae o’n digwydd ganol wythnos nesaf, ac yn actiwal gig go iawn fel rhan o ŵyl celf, miwsic, perfformio, dawns, ffilm, barddoniaeth…a sawl peth arall sy’n digwydd dros yr wythnos.
Mae holl weithgareddau amrywiol yn digwydd mewn lleoliadau gwahanol yn ardal Bangor, gan gynnwys gig byw cyntaf Hap a Damwain ym Mhrif Adeilad Prifysgol Bangor.
Rydan ni wedi rhoi tipyn o sylw i gynnyrch y ddeuawd gwych yma dros y deunaw mis a mwy diwethaf, ac yn methu aros i weld sut siâp sydd arnyn nhw’n fyw – ewch draw os ydach chi o fewn cyrraedd. Mae angen bwcio tocyn cofiwch, gyda manylion llawn ar wefan yr ŵyl.
Gyda llaw, mae’n debyg mai nifer fach iawn o gopïau CD o albwm cyntaf y grŵp sydd ar ôl felly bachwch un cyn bod hi’n rhy hwyr.
Cân: ‘Dewisiadau Negyddol’ – Shamoniks ac Eädyth
Un o bartneriaethau mwyaf cynhyrchiol y cwpl o flynyddoedd diwethaf ydy hwnnw rhwng Eädyth a’r cynhyrchydd Shamoniks, ac mae’r ddau wedi dod ynghyd unwaith eto i recordio a rhyddhau eu sengl newydd.
‘Dewisiadau Negyddol’ ydy enw’r trac newydd gan y ddau sydd allan ers dydd Gwener diwethaf.
Er eu bod nhw wedi rhyddhau llwyth o gerddoriaeth ar y cyd yn y gorffennol, dyma’r tro cyntaf i’r pâr gyd-weithio yn 2021, a’r tro cyntaf ers rhyddhau eu sengl ddwyieithog ‘Diogel / Safe’ ym mis Gorffennaf 2020.
Mae’r pâr yn dangos eu dylanwadau amrywiol trwy gymysgu curiadau a bas gydag UK Garage Shamoniks gyda synau cerddoriaeth y byd sydd wedyn yn cael eu cyfuno â chyflwyniad lleisiol RnB / neo soul cynnes Eädyth.
Er gwaethaf heriau’r flwyddyn a mwy sydd wedi bod, mae Shamoniks wedi bod yn fwy cynhyrchiol nag erioed – hon fydd y bedwaredd sengl ar ddeg iddo ryddhau ers Mawrth 2020 ar ôl ysgrifennu dros 70 o ddarnau o gerddoriaeth ers y clo cyntaf. Mae mwy ar y ffordd ganddo eleni hefyd!
Mae Eädyth hithau wedi bod un o gerddorion mwyaf cynhyrchiol y flwyddyn ddiwethaf hefyd gan ryddhau cerddoriaeth unigol yn ogystal â chydweithio gyda cherddorion fel Izzy Rabey ac Endaf.
Teg dweud bod hon yn dipyn o diwn gan y ddau unwaith eto.
Record: Bywydd Llonydd – Pys Melyn
Heb ormod o ffws na ffwdan, mae Pys Melyn wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf ddydd Gwener diwethaf.
Bywyd Llonydd ydy enw’r record hir sydd allan ar label Ski Whiff, sef y label recordiau sy’n cael ei redeg gan aelod Pys Melyn, Ceiri Humphreys.
Mae’r albwm yn cynnwys deg o draciau gan y prosiect a ddatblygodd o weddillion y grŵp Ffracas.
Ceiri Humpheys sy’n bennaf gyfrifol am Pys Melyn, ond mae’r band byw yn cynnwys aelodau eraill Ffracas sef Sion Adams, Jac Williams ac Owain Lloyd ynghyd â’r gantores ardderchog Magi Tudur.
Mae’r albwm wedi’i recordio yn stiwdio Ceiri ym Mhentreuchaf, ac ef sy’n gyfrifol am chwarae pob offeryn ar y recordiad, yn ogystal â chynhyrchu’r albwm.
Dyma fideo trac teitl yr albwm a ryddhawyd yn wreiddiol fel sengl yn Ebrill 2019:
Artist: Mr
Ar ôl bod yn aelod a phrif gyfansoddwr un o fandiau gorau a mwyaf llwyddiannus Cymru erioed, byddech chi’n maddau i rywun fel Mark Roberts am deimlo y gall segura rhywfaint wrth gyrraedd ei ganol oed.
Ond mae’r gwirionedd i’r gwrthwyneb – mae’n siŵr bod Mark ar ganol cyfnod mwyaf cynhyrchiol ei yrfa, ag yntau wedi rhyddhau tri albwm dros y tair blynedd ddiwethaf.
A wyddoch chi beth, mae pedwerydd record hir Mr ar y gweill – y caneuon wedi’u recordio ac yn disgwyl yn eiddgar i gael eu cymysgu!
“Mae’r albwm yn aros i gael ei gymysgu. Dafydd Ieuan yn ddyn prysur a methu micsio fo tan mis Awst” datgelodd Mark wrth Y Selar.
Ond y newyddion da ydy bod tamaid i aros pryd nes yr albwm yn glanio heddiw, sef y sengl ‘Dinesydd’ sydd allan yn ddigidol ar safle Bandcamp Mr.
“O’n i wedi pasio ‘Dinesydd’ ymlaen i Paul [Jones] gael chwarae bas arni hi a ddaru o bwyntio allan bod y trac yn swnio’n hafaidd iawn” eglura Mark.
“Felly nes i benderfynu rush releasio fo tra bod y tywydd yn boeth.
“Jyst cân bop fach syml, tafod yn y boch ydy hi. Rhyw fath o love letter i fywyd mewn dinas.”
Mae hi’n sicr yn hafaidd, a heb os yn drac bop fachog arall o stabal boi sy’n gwybod yn well na neb sut i greu un o’r rheiny.
Mae Mark yn gobeithio bydd pedwerydd albwm Mr allan rywdro yn yr hydref eleni – mwy o wybodaeth yn y man!
Tan hynny, dyma ‘Dinesydd’:
Un Peth Arall: Rhestr Fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn
Hot off the press: mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi eu rhestr fer o recordiau hir sydd â chyfle o gipio teitl ‘Albwm Cymraeg y Flwyddyn’ eleni.
Cyhoeddwyd y rhestr ar raglen Radio Cymru Huw Stephens neithiwr ac mae’n cynnwys deg o albyms Cymraeg digon amrywiol sydd wedi’u rhyddhau dros y cyfnod 31 Mai 2020 hyd ddiwedd Mai 2021.
Yn ôl y Steddfod, bwriad y wobr yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei ryddhau yng Nghymru ar hyn o bryd.
Er gwaetha’ heriau’r flwyddyn ddiwethaf I gerddorion, mae llwyth o gynnyrch da wedi ymddangos ac mae’n deg dweud bod hynny’n cael ei adlewyrchu ar y rhestr.
Panel o feirniaid sy’n rhan o’r diwydiant cerddoriaeth sy’n gyfrifol am ddewis y rhestr, ac mae’r panel eleni’n cynnwys Dylan Cernyw, Dylan Hughes, Dylan Jenkins, Eilir Owen Griffiths, Ifan Davies, Marged Gwenllian, Marged Rhys, Nia Mai Daniel, Rhiannon Lewis a Tegwen Bruce Deans.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod Eisteddfod AmGen 2021, a gynhelir o 31 Gorffennaf – 7 Awst.
Dyma’r 10 albwm sydd wedi cyrraedd y rhestr eleni:
- Carw – Maske
- Carwyn Ellis & Rio 18 – Mas
- Cwtsh – Gyda’n Gilydd
- Datblygu – Cwm Gwagle
- Elfed Saunders Jones – Gadewaist
- Jac Da Trippa – Kim Chong Hon
- Mared – Y Drefn
- Mr – Feiral
- Mr Phormula – Tiwns
- Tomos Williams – Cwmwl Tystion
Prif Lun: Mr – Clwb Ifor Bach 2019 (Llun: Celf Calon / Y Selar / Clwb Ifor Bach)