Pump i’r Penwythnos – 19 Chwefror 2021

Set rhithiol: Mared – 12/02/21

Dim llwyth o gigs rhithiol wedi digwydd dros yr wythnos diwethaf, ond roedd ‘na un bach neis iawn yn cael ei lwyfannu dan faner lleoliad Tŷ Pawb yn Wrecsam nos Wener diwethaf.

Neb llai nag enillydd dau o Wobrau’r Selar eleni, Mared oedd yn perfformio.

Cipiodd y gantores o Ddyffryn Clwyd wobrau Seren y Sin ac Artist Unigol Gorau wrth i ni gyhoeddi enillwyr y Gwobrau ar Radio Cymru wythnos diwethaf.

Os oedd angen prawf pellach ar unrhyw un pam ei bod mor boblogaidd gyda phleidleiswyr Gwobrau’r Selar, yna roedd set nos Wener yn dystiolaeth

 

Cân:  ‘Yn y Sŵn (Nijo)’ gan Adwaith a Massimo Silverio 

Mae sengl newydd wedi’i datgelu ddoe gan Adwaith sy’n eu gweld yn cyd-weithio gyda cherddor o’r Eidal, Massimo Silverio.

Mae’r trac yn nodi lansiad partneriaeth newydd rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl SUNS Europe – Gŵyl Ewropeaidd y Celfyddydau Perfformio mewn Ieithoedd Lleiafrifol.

Byddwch yn cofio efallai bod Adwaith wedi teithio i’r Eidal i berfformio yn yr ŵyl yma yn y gorffennol, ac maent wedi cyd-weithio gyda’r cerddor Massimo Silverio sy’n canu mewn Friulian, sef iaith gynhenid Fruli yng ngogledd Yr Eidal.

Cafodd y trac newydd ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Radio Cymru Huw Steohens neithiwr, ac mae fideo gan y gwneuthurwr ffilm, Jonny Reed, i’w ryddhau ar 25 Chwefror.

Mae dwy fersiwn o’r gân wedi’i recordio, sef y fersiwn Gymraeg, a’r un ddwyieithog yn y Gymraeg a’r iaith Friulian dan yr enw ‘Nijo’. Mae ‘Nijo’ yn air hynafol yn yr iaith honno sy’n golygu ‘unman’ neu ‘nunlle’. Mae hynny’n cyd-fynd â thema’r gân sy’n trafnod teimladau, geiriau ac ieithoedd sy’n cyrraedd ‘nijo’ yn y pendraw.

Bydd y sengl allan yn swyddogol ddydd Gwener nesaf, 26 Chwefror.

 

Record: Yr Unig Rai Sy’n Cofio – Derw

Heddiw ydy dyddiad rhyddhau swyddogol EP hir-ddisgwyliedig cyntaf y grŵp pop siambr newydd o Gaerdydd, Derw, sef Yr Unig Rai Sy’n Cofio.

Daeth Derw i’r amlwg gyntaf nôl ym mis Mai 2020 wrth ryddhau eu sengl gyntaf, ‘Dau Gam’. Yna daeth ail sengl, ‘Ble Cei Di Ddod i Lawr’ i ddilyn ym mis Awst gan roi blas pellach o’r hyn oedd i ddod. Mae’r ddwy gân ar yr EP, ynghyd â thair arall.

Mae’r EP yn un teuluol sydd wedi’i ysgrifennu gan y fam, Anna Georgina, a’i mab, Dafydd Dobson.

Bwriad gwreiddiol y grŵp oedd i ryddhau’r EP ym mis Medi, ond penderfynwyd i oedi nes gallu ymweld â Stiwdio Acapela ym Mhentyrch ble ffilmiwyd fersiynau byw o’r traciau, a bydd rhain yn cael eu defnyddio i hyrwyddo’r EP dros y cyfnod nesaf.

Mae fideo perfformiad byw ar gyfer y trac ‘Silver’ eisoes wedi ymddangos ychydig cyn y Nadolig a bydd rhai ar gyfer ‘Mikhail’ a ‘Dau Gam’ yn cael eu cyhoeddi hefyd.

“Gan fod ni’n fand sydd wedi cychwyn rhyddhau miwsig yn ystod y cyfnod clo, oeddan ni isio i bobl gael syniad o sut fysa ni’n edrych a swnio’n fyw, a gweld bod ni actually yn fand go iawn!” meddai Dafydd.

Rydan ni wedi bod yn edrych ymlaen cryn dipyn i weld yr EP yma’n glanio’n swyddogol, ac yn disgwyl mwy o bethau gwych i ddod gan Derw dros y misoedd nesaf.

Dyma’r trac hyfryd ‘Estyn Dy Law’:

 

Artist: Sister Wives

Grŵp rydan ni’n hynod gyffrous ynglŷn â nhw ar hyn o bryd ydy Sister Wives, ac fe wnaethon ni gyhoeddi cyfweliad estynedig gyda Donna o’r grŵp ar wefan Y Selar wythnos yma.

Mae sŵn ac agwedd Sister Wives yn dal eich sylw’n syth gan eich sugno i mewn fel petaech mewn rhyw drwmgwsg breuddwydiol. Rydych eisiau gwybod mwy am y grŵp yma, ac mae’r chwilfrydedd yn cynyddu wrth ddarganfod bod y pedwarawd wedi eu sefydlu yn Sheffield o bobman!

Donna [synth a chanu, a ddaw yn wreiddiol o Moelfre ar Ynys Môn ydy arweinydd y grŵp a’r prif reswm eu bod nhw’n canu yn y Gymraeg, yn ogystal â’r Saesneg. Ond mae gan y gitarydd, Liv, y basydd, Rose, a’r drymiwr, Lisa, ddiddordeb yn yr iaith hefyd.

Ffaith ddifyr arall ydy bod y grŵp heb berfformio yng Nghymru eto. Er hynny, mae eu caneuon Cymraeg wedi cael croeso mewn gigs yn Sheffield, Leeds a Manceinion.

“Rwy’n credu bod pobl yn Lloegr yn hoffi’r ffaith ein bod ni’n canu yn y Gymraeg, nid yw’n rhywbeth mae nhw’n ei ddisgwyl” meddai Donna.

“Mae gen i acen Sheffield cryf iawn er y ffaith mai Cymraeg yw fy iaith gyntaf, felly mae pobl yn aml yn synnu. Mae pobl yn mwynhau clywed y Gymraeg ac yn aml yn gofyn am y geiriau ar ôl y gig.”

Yn ei chyfweliad gyda’r Selar, mae Donna hefyd yn dweud ei bod yn gobeithio bydd yr aelodau’n dysgu Cymraeg yn y dyfodol agos.

O ran cynlluniau eraill, mae ganddyn nhw sengl AA newydd o’r enw ‘Crags’ allan ar feinyl ddiwedd y mis, gyda un o’r traciau’n gân Gymraeg, ‘I Fyny Af’.

Maen nhw hefyd wedi dechrau gweithio gyda Recordiau Libertino, ac yn ôl Donna mae albwm ar y gweill felly byddwn ni’n cadw golwg fanwl arnyn nhw dros y misoedd nesaf.

Dyma ‘I Fyny Af’:

 

Un Peth Arall: ‘Curadur’ Steffan Dafydd

 Fel y gwyddoch erbyn hyn mae’n siŵr rydan ni’n ffans mawr o Breichiau Hir yma yn Selar HQ, felly roedd hi’n grêt gweld pennod ddiweddaraf cyfres Curadur ar S4C yn serennu prif ganwr y grŵp, Steff Dafydd.

Mae Steff yn un o ddisgyblion y sin, a wir yn deall ei gerddoriaeth. Dim syndod felly gweld enwau da iawn yn ymddangos ar y bennod yma gan gynnwys yr anhygoel Chroma, a’r grŵp roc newydd o Arfon, Patryma.

I’r rhai mwy nostaljic yn ein mysg, mae ‘na hefyd sgwrs ddifyr gyda Donut o’r band gwych, Ashokan, oedd yn fwyaf amlwg yn hanner cyntaf y 2000au, gan ryddhau dau albwm ar label Dockrad.

Wrth gwrs, mae Breichiau Hir yn ymddangos hefyd a dyma eu perfformiad o ‘Mwynhau’ o’r bennod: