Pump i’r Penwythnos – 19 Mawrth 2021

Set rhithiol: FOCUS Wales @ Gŵyl 2021

Bythefnos yn ôl fe wnaethon ni roi tipyn o sylw i Ŵyl 2021 yn yr adran hon o Pump i’r Penwythnos.

Roedd yr ŵyl rithiol honno’n gweld peair gŵyl Gymreig o bwys yn cydweithio i lwyfannu un ŵyl fawr ar lwyfannau digidol – FOCUS Wales, Gŵyl Gomedi Aberystwyth, Gŵyl y Llais a Gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi.

Bryd hynny fe wnaethon ni roi sylw arbennig i leinyp Lleisiau Eraill Aberteifi, ond yr wythnos hon rydan ni am fwrw golwg nôl ar y ddarpariaeth oedd yn cael ei lwyfannu gan FOCUS Wales.

Y rheswm dros hynny ydy gan eu bod nhw bellach wedi cyhoeddi fideo showcase arbennig yn crynhoi perfformiadau 10 o’r artistiaid oedd yn perfformio ar eu llwyfan Gŵyl 2021.

Roedd setiau llwyfan FOCUS Wales wedi’u ffilmio’n defnyddio technoleg ffilmio 360° arbennig oedd yn rhoi’r profiad o fod yn yr ystafell i’r gynulleidfa, ac mae o’n gweithi’n grêt.

Cyfle da i chi felly fwrw golwg nôl ar ganeuon gan 9Bach, Adwaith, Bandicoot a Gruff Rhys ymysg eraill. Mwynhewch…

 

Cân:  ‘I Fyny Af’ – Sister Wives

Un o grwpiau’r foment ar hyn o bryd heb os ydy Sister Wives. Rhag ofn eich bod chi wedi bod yn byw mewn ogof ers cwpl o fisoedd, Sister Wives ydy’r pedwarawd ôl-bync cyffrous o Sheffield.

Wrth gwrs, mae grŵp o Sheffield sy’n canu yn y Gymraeg yn beth ddigion unigryw, felly aeth Y Selar ati i ddysgu mwy mewn cyfweliad arbennig gyda Donna o’r grŵp fis diwethaf.

Bryd hynny, roedden nhw  newydd ryddhau fersiwn newydd o’r trac ‘Rwy’n Crwydro’ gyda label Recordiau Libertino, gydag awgrym cryf o gyd-weithio pellach gyda’r label o Gaerfyrddin yn y dyfodol agos.

Roedden nhw hefyd yn paratoi i ryddhau sengl ddwbl newydd o’r enw ‘Crags’ ar label Delicious Clam ac mae’r record honno bellach ar gael yn ddigidol ac ar ffurf feinyl hyfryd. Mae modd archebu rhain ar safle Bandcamp Delicious Clam.

‘Crags’ ydy’r trac Saesneg sy’n un hanner y record, a’r trac Cymraeg sy’n hanner arall ydy’r ardderchog ‘I Fyny Af’.

   

Record: Tân – Lleuwen

Rydan ni am neidio nôl deng mlynedd mewn hanes cerddoriaeth er mwyn cyrraedd ein dewis o record yr wythnos hon, sef yr albwm Tân gan Lleuwen.

Tân oedd trydydd albwm unigol y gantores o Riwlas yn dilyn Duw a Ŵyr yn 2005 a Penmon yn 2011, ac yn wir fe’i rhyddhawyd union ddegawd yn ôl ym mis Mawrth 2011 ar label Gwymon, sef un o is labeli Sain ar y pryd.

Ffurfiodd Lleuwen berthynas gerddorol ffrwythlon dros ben gyda’r cerddor o Lydaw, Vincent Guerin, ar gyfer recordio’r casgliad ac yn sicr mae blas Llydaweg i’r record – mae pedair o’r dwsin o ganeuon yn yr iaith Lydaweg. Lleuwen a Guerin sy’n chwarae pob offeryn ar yr albwm, a hwy hefyd oedd yn gyfrifol am y gwaith cynhyrchu.

Mae ‘Tân’ yn air cyffredin yn y ddwy iaith Geltaidd, a hynny’n briodol iawn wrth gwrs.

Yn sicr mae hon yn glamp o record, ac wedi cael cydnabyddiaeth deilwng dros y blynyddoedd. Roedd yn rhestr ‘10 Uchaf Albyms 2011’ Y Selar, ac fe dderbyniodd y wobr ‘Prizioù’ am yr albwm Llydaweg gorau yn 2012. Enillodd y trac ‘Ar Gouloù Bev’ gystadleuaeth Liet International yn 2013 hefyd. Dyma hi’n perfformio’r gân ar lwyfan Liet International:

Mae llwyth o ganeuon Cymraeg gwirioneddol wych ar yr albwm yma hefyd – ‘Lle Wyt Ti Heno Iesu Grist?’, ‘Cawell Fach y Galon’, ‘Paid a Sôn’ a ‘Mab y Môr’ i enwi rhai, ond hefyd ‘Mi Wela’i Efo Fy Llygad Bach i….” (isod, ar faes Steddfod Wrecsam 2011).

Os nad ydy’r record yma yn eich casgliad yn barod, yna rydan ni’n argymell ei ychwanegu mor fuan â phosib…a wyddoch chi be, mae hi ar wefan Sain am ddim ond £2.99 – bargen!

 

Artist: Bwncath

Er gwaethaf eu llwyddiant diweddar yng Ngwobrau’r Selar, yn rhyfedd iawn dydan ni heb roi sylw i Bwncath yn Pump i’r Penwythnos ers peth amser. Cyfle gwych i wneud hynny wythnos yma gyda bach llai o gynnyrch newydd allan.

Cipiodd y grŵp gwerin dair o Wobrau’r Selar ddechrau mis Chwefror, sef ‘Record Hir Orau’ am eu halbwm Bwncath II, ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ am ‘Dos yn Dy Flaen’, ac wrth gwrs teitl y ‘Band Gorau’.

Os oedd unrhyw amheuaeth cyn hynny, profodd pleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar fod Bwncath heb os yn un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru bellach.

Wrth gwrs, fel cymaint o fandiau eraill, mae wedi bod yn anodd iawn i Bwncath fanteisio ar y llwyddiant ers hynny gan ei bod yn amhosib i’r aelodau ddod ynghyd ar hyn o bryd, ond gobeithio bydd cyfleoedd i’w gweld yn perfformio’n fyw dros yr haf.

Dim cyfle i’w gweld yn perfformio yn y cnawd am y tro efallai, ond mae cyfle i weld fideo sesiwn newydd ganddynt wythnos yma diolch i gyfres Lŵp, S4C.

Mae’r sesiwn wedi’i ffilmio yn stiwdio Lŵp yng Nghaernarfon, ac wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau digidol Lŵp wythnos diwethaf, ac mae nhw’n perfformio ‘Haws i’w Ddweud’ sy’n dod o ail albwm y grŵp, ac albwm gorau 2020 yn ôl darllenwyr Y Selar – Bwncath II.

 

Un Peth Arall: Ffilm ddogfen ‘A Oes Pys?’

Mae albwm diweddar Twmffat, Oes Pys, allai ers ychydig wythnosau rŵan, ond bellach mae ‘na ffilm ddogfen arbennig i gyd-fynd â’r record hefyd.

Mae’r siwpyr grŵp gwallgof o’r gogledd wedi cyhoeddi ffilm ddogfen ar YouTube wythnos diwethaf fel cydymaith i’r albwm a ryddhawyd ar 26 Chwefror.

Phil Lee Bran o’r grŵp sydd wedi cyfarwyddo’r ffilm ac mae’n cynnwys casgliad o sgyrsiau a ffilmiau tu ôl i’r llen a wnaed yn ystod y broses recordio. Fel y byddech chi’n disgwyl mae o bach yn boncyrs…ac o ia, a rhybudd iaith gref cyn gwylio!