Gig: Breichiau Hir – Clwb Ifor Bach – 20/11/21
Hir yw pob ymaros medde nhw, ac mae’n teimlo fel petai ni wedi aros oes hyd nes gweld Breichiau Hir ar lwyfan byw unwaith eto. Wel, fe ddaeth yr awr o’r diwedd wrth i’r band roc o Gaerdydd gamu i lwyfan eu cartref ysbrydol yng Nghlwb Ifor Bach nos fory.
Ac mae’n gig arwyddocaol am reswm arall, sef mai dyma lansiad swyddogol eu halbwm cyntaf, Hir Oes i’r Cof, sydd allan ar label Libertino heddiw – mwy am hwn isod!
Bydd cefnogaeth gan False Hope For the Savaga a Patryma.
Mae cyfle hefyd i weld Pwdin Reis yn Nhŷ Tawe, Abertawe heno – sicr o fod yn lot o hwyl.
Ond, mae’r wobr am gig mwyaf randym y penwythnos yn mynd i Gig Radio Ysbyty Gwynedd fory. Mae’r leinyp yn cynnwys Elin Fflur, Dylan a Neil a Dylan Morris…ac yn digwydd yn Morrison Bangor o bobman!
Cân: ‘Galaxy’ – Lastigband
Bach o sŵn low-fi o Ddyffryn Conwy i chi wythnos yma, a thiwn diweddaraf Lastigband.
Mae Lastigband yn un o’r grwpiau sydd wedi tyfu o lwch yr anhygoel Sen Segur – dyma brosiect y drymiwr, Gethin Davies. Roedd Lastigband yn fand am gyfnod, ond bellach mae fwy o brosiect unigol gan Gethin, ac mae o wedi symud i gyfeiriad mwy electronig yn ddiweddar.
‘Galaxy’ ydy sengl nesaf y prosiect – trac offerynnol fydd allan ar label Recordiau Cae Gwyn ar 3 Rhagfyr.
Record: Hir Oes i’r Cof – Breichiau Hir
Rydan ni’n plygu’r rheolau rhywfaint wythnos yma trwy roi sylw dwbl i Breichiau Hir, ond mae cyfiawnhad da dros wneud hynny.
Mae’r Selar wedi bod yn dilyn hynt a helynt y grŵp roc trwm ers blynyddoedd maith wrth iddynt amrywio tipyn rhwng bod yn hynod o weithgar a bod yn hynod o dawel! Ond all neb wadu nad ydyn nhw wedi llwyddo i greu argraff yn eu cyfnodau gweithgar – dyma fand sydd wastad yn hoelio’r sylw.
Gwych felly ydy gweld dyddiad rhyddhau eu halbwm llawn cyntaf yn cyrraedd. Anodd credu mai Hir Oes i’r Cof ydy eu record hir gyntaf, ond mae’n wir! Maen nhw wedi rhyddhau nifer o senglau dros y blynyddoedd wrth gwrs, ynghyd â’r EP gwych Mae’r Angerdd Yma yn Troi yn Gas.
Mae’r albwm newydd yn cynnwys y casgliad o senglau sydd wedi eu rhyddhau gan y grŵp dros y misoedd diwethaf i roi blas o’r hyn oedd i ddod.
Mae hynny’n cynnwys y sengl ddiweddaraf, ‘Beth Bynnag sydd Ar Ôl’ a ryddhawyd wythnos diwethaf.
Artist: Kizzy Crawford
Un o bytiau newyddion cyffrous yr wythnos ydy’r cyhoeddiad y bydd albwm newydd Kizzy Crawford yn gollwng cyn diwedd mis Tachwedd.
Roedd Kizzy eisoes wedi datgelu ar ei chyfryngau cymdeithasol gwpl o wythnos yn ôl bod albwm newydd ar y ffordd ganddi cyn y Nadolig, ond bellach rydym yn gwybod mai 26 Tachwedd ydy’r dyddiad rhyddhau.
Enw’r albwm ydy Rhydd, ac mae’n ddilyniant i’w halbwm cyntaf, The Way I Dream, a ryddhawyd yn Hydref 2019.
Mae’r gantores hefyd wedi rhyddhau nifer o senglau ac EPs dros y blynyddoedd diwethaf, ond bydd llawer o gyffro am ei record hir newydd.
Label Recordiau Sain sy’n rhyddhau’r casgliad newydd o ganeuon ganddi ac fel tamaid i aros pryd maent wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y trac ‘Deifio’ ar eu safle Facebook ddydd Gwener diwethaf.
“Nes i ryddhau ‘Dive’ ar fy albwm cyntaf ‘The Way I Dream’ ond o’n i byth yn hollol hapus gyda’r cynhyrchiad” eglura Kizzy.
“Felly cynhyrchais hwn ar gyfer ‘Rhydd’ a dyma yn union sut o’n i isie iddo fe swnio o’r dechre.”
Un Peth Arall: Fideo ‘Gwenyn’
Rydan ni’n ffans mawr o waith Kathod yma yn Y Selar, a felly wrth ein bod i weld fideo newydd ar gyfer eu sengl ddiweddaraf yn ymddangos ar lwyfannau Lŵp.
Rhyddhawyd ‘Gwenyn’ ddiwedd mis Awst , a’r tro hwn, yr artistiaid sy’n rhan o’r sengl newydd ydy Bethan Mai (Rogue Jones), Catrin Morris, Gwenno Morgan, Heledd Watkins (HMS Morris) a Tegwen Bruce-Deans.
Mae Kathod yn grŵp unigryw yn yr ystyr bod y lein-yp aelodaeth yn ‘ddi-ddiffiniad’ i ddefnyddio eu disgrifiad eu hunain. Hynny ydy bod yr aelodau’n newid yn gyson wrth weithio ar ganeuon newydd.
Mae’r fideo ar gyfer Lŵp wedi’i ffilmio, cyfarwyddo, a golygu gan Gwenno Llwyd Till.