Gig: Gigs Tŷ Nain #2 – 23/06/21
Bydd llawer ohonoch yn cofio’r Gig Tŷ Nain cyntaf ar ddydd Calan eleni mae’n siŵr.
Wel, mae’r ail gig yn y gyfres wedi’i ddarlledu nos Sul diwethaf.
Prosiect gan griw o gerddorion ifanc ydy Gigs Tŷ Nain i drefnu gigs rhithiol (ar hyn o bryd) eu hunain o leoliadau diddorol.
Ar gyfer yr ail gig roedd Yr Eira, Y Cledrau a magi. yn perfformio ac roedd modd gwylio ar-lein ar YouTube.
Mae dal modd gwylio’r gig ar alw am gyfnod byr:
Cân: ‘Dim ond Dieithryn’ – Shamoniks x Lisa Pedrick
Mae’n teimlo fel petai rhywbeth newydd yn ymddangos bob wythnos gan Shamoniks ar hyn o bryd, ac mae wedi rhyddhau sengl newydd gyda Lisa Pedrick wythnos diwethaf.
Ailgymysgiad ydy’r sengl newydd o drac ‘Dim ond Dieithryn’ a ryddhawyd ar EP Lisa Pedrick llynedd.
Ar ôl cyfnod hir i ffwrdd o’r diwydiant cerddoriaeth, ffrwydrodd Lisa nôl i amlygrwydd yn ystod 2020 gan ryddhau cyfres o senglau’n arwain at yr EP, Dim ond Dieithryn a ryddhawyd fis Tachwedd.
Roedd yr EP yn boblogaidd iawn, gymaint felly nes cipio teitl y ‘Record Fer Orau’ yng Ngwobrau Selar ychydig fisoedd yn ddiweddarach ym mis Chwefror 2021.
Bwriad Lisa eleni ydy mynd ati i gydweithio gyda cherddorion y mae’n eu hedmygu, a’r cyfle cyntaf i wneud hynny ydy’r ailgymysgiad gan Shamoniks o’i hoff sengl, ‘Dim ond Dieithryn’.
“Dim ond Dieithryn yw fy hoff sengl” meddai Lisa.
“Rwy’n hynod o falch o gael cyfle i gydweithio gyda Shamoniks, mae’r fersiwn ddiweddaraf yn rhoi gwedd newidiad i’r trac ac yn cyrraedd cynulleidfa ehangach.”
‘Dim ond Dieithryn’ Lisa Pedrick x Shamoniks, yw’r gerddoriaeth gyntaf a ryddhawyd gan Lisa Pedrick yn 2021 gyda mwy i ddod yn ddiweddarach yn y flwyddyn wrth i’r pâr weithio ar fwy o ddeunydd.
Record: Cashews Blasus – Y Cledrau
Rydan ni wedi bod yn hynod gyffrous yma yn Selar HQ wrth weld Y Cledrau yn ail-ymddangos dros yr wythnosau diwethaf, a phenllanw hynny ydy eu halbwm newydd sydd allan heddiw!
Cashews Blasus ydy enw ail albwm y grŵp, sy’n ddilyniant i’r ardderchog Peiriant Ateb a ryddhawyd yn 2017. Roedd cyfweliad arbennig gyda’r grŵp am yr albwm hwnnw yn rhifyn cylchgrawn Y Selar ym mis Rhagfyr 2017.
Datgelodd Y Cledrau bod albwm newydd ar y gweill ganddynt beth amser nôl, ac arwyddion clir fod y dyddiad rhyddhau’n fuan wrth i’r pedwarawd ryddhau’r ddwy sengl ‘Hei Be Sy’ a ‘Cerdda Fi i’r Traeth’ dros yr wythnosau diwethaf.
Recordiwyd yr albwm mewn pytiau drwy gydol 2020-21 yn Stiwdio Sain, Llandwrog, gydag Ifan Emlyn Jones yn peiriannu a chynhyrchu gyda’r band.
Yn ôl y grŵp mae’n albwm sy’n mynd i fwy o eithafion na’r cyntaf gyda’r traciau trymaf yn drymach, a’r ysgafnaf yn ysgafnach.
Mae fideo ar gyfer trac cynta’r albwm, ‘Disgyn Ar Fy Mai’, yn cael ei ryddhau i gyd-fynd â’r albwm ac o’r gân hon y daw enw’r albwm diolch i’r llinell sy’n cyfeirio at ‘Cashews Blasus’.
Mae’r fideo’n gasgliad o fideos personol y pedwar aelod ac wedi’i olygu gan Rhys Grail. Mae’n gofnod o flwyddyn a hanner o anturiaethau gwirion a’r broses o roi syniadau a meddyliau at ei gilydd i greu un cyfanwaith lliwgar, blasus.
Artist: Gwenno Morgan
Mae Gwenno Morgan yn artist sydd wedi cael tipyn o sylw yma ar wefan Y Selar yn gynharach yn y flwyddyn, ac mae rheswm da dros roi bach mwy o sylw iddi eto’r wythnos hon.
Y rheswm hwnnw ydy gan fod ei label, sef Recordiau I KA CHING, wedi cyhoeddi fideo sesiwn arbennig o Gwenno’n perfformio tair cân oddi ar ei EP cyntaf, Cyfnos.
Rhyddhawyd yr EP ym mis Ebrill, ac yn y sesiwn mae’n perfformio’r traciau ‘T’, ‘Lloergan’ a ‘Gorwel’.
Er bod Gwenno’n fwy cyfarwydd fel pianydd clasurol, mae wedi magu cariad at gyfansoddi a chydweithio gydag artistiaid eraill. Dechreuodd gyfansoddi a hunan gynhyrchu ei cherddoriaeth i hun ar ddechrau 2020 ar ôl dychwelyd o flwyddyn dramor yn astudio yn Texas, UDA.
Drwy gydol 2020 bu’n cynhyrchu a rhyddhau traciau ar SoundCloud ac fe lwyddodd dau o draciau’r EP yn arbennig, sef ‘Gorwel’ a ‘Through the Space (Feat. Henry Weekes), i ddal sylw’r cyflwynwyr radio Sian Eleri a Georgia Ruth ar Radio Cymru, ac Adam Walton ar Radio Wales.
Mae ei dylanwadau cerddorol yn amrywiol, ond yn cynnwys enwau fel Brad Mehldau, Philip Glass, Bill Laurence, Jon Hopkins, Tom Misch a Four Tet.
Yn ogystal â rhyddhau cerddoriaeth ei hun, mae Gwenno hefyd wedi cydweithio gyda Mared a Sywel Nyw, gan ryddhau sengl yr un gyda’r ddau eleni.
Ffilmiwyd y sesiwn newydd yn yr Edd Mitchell Venue, Leeds. Y cerddorion sy’n perfformio gyda Gwenno ydy Lara Wassenberg ar y fiola, Scott Caldwell-Nichols ar y gitâr fas a George Topham ar y drymiau.
Mae’r gwaith ffilmio gan Tom Desré-Crouch a Katie Jackson.
Un Peth Arall: Fideo Sesiwn
Mae Lŵp wedi cyhoeddi fideo sesiwn newydd o Sywel Nyw yn perfformio ei sengl ddiweddaraf, ‘Bonsai’, gyda’i bartner cerddorol diweddaraf, Glyn Rhys-James o’r grŵp Mellt.
Fel y gwyddoch erbyn hyn maen siŵr, Sywel Nyw ydy prosiect unigol gitarydd a chanwr Yr Eira, Lewys Wyn ac mae’n rhyddhau sengl newydd bob mis eleni gan gydweithio gydag artist gwahanol bobl tro.
Sengl mis Mai oedd ‘Bonsai’, trac oedd wedi’i gyfansoddi a recordio ar y cyd gyda Glyn Mellt.
Mae’r fideo sesiwn wedi’i ffilmio a’i gyfarwyddo gan Sam Stevens a Siôn Teifi Rees, ac fe’i ffilmiwyd ar leoliad yng ngardd Lewys, ac mae coeden bonsai Glyn i’w weld yn y fideo.