Pump i’r Penwythnos – 20 Awst 2021

Gig: Gŵyl y Dyn Gwyrdd – Bannau Brycheiniog

Mae ‘na gwpl o bethau bach da mlaen penwythnos yma, gan gynnwys gig cloi Gŵyl Gongrit yn Pontio, Bangor gyda Band Pres Llareggub, Pys Melyn a Lily Beau.

Ond mae’n amhosib anwybyddu Gŵyl y Dyn Gwyrdd, sef gŵyl gerddoriaeth fwyaf Cymru, sydd digwydd yn y Bannau Brycheiniog.

Mae’r leinyp yn wych wrth gwrs, ond mae arwyddocâd y ffaith fod yr ŵyl yn digwydd o gwbl yn fawr ar ôl cyfnod hir y pandemig. Gobeithio bydd popeth yn mynd yn dda ac y gall agor y drws ar gyfer ail-gydio yn yr holl wyliau cerddorol eraill rydym yn eu colli’n fawr.

Ymysg y prif enwau rhyngwladol sy’n perfformio mae Caribou, Mogwai, Fontaines D.C., Teenage Fanclub a José Gonsález.

O safbwynt Cymreig a Chymraeg yn benodol mae cyfle i weld Gruff Rhys, Gwenno, H. Hawkline, Melin Melyn a Sister Wives ym ymysg yr arlwy gyfoethog.

 

Cân:  ‘Ble Pierre’ – Tacsidermi

Grêt i weld ail sengl y ddeuawd newydd o Gaerfyrddin, Tacsidermi yn gollwng wythnos diwethaf.

‘Ble Pierre’ ydy enw’r trac gan brosiect amgen Gwenllian Anthony o’r grŵp Adwaith. Ei phartner cerddorol ydy’r aml-offerynwr Matthew Kilgariff, sydd wedi perfformio fel cerddor sesiwn mewn gigs Adwaith yn y gorffennol.

Rhyddhawyd eu sengl gyntaf, ‘Gwir’, ym mis Rhagfyr ar ôl i’r  ddau  ffurfio swigen yn ystod y cyfnod clo llynedd gan fynd ati i jamio, cyfansoddi a recordio yn stiwdio Matthew yng Nghaerfyrddin.

Yn ôl Libertino, mae ‘Ble Pierre’ yn gân bop ysblennydd gyda phob nodyn yn cael eu chwarae gyda phŵer ac yn atseinio hafau di-hid a rhamantus.

Dyma’r fideo ar gyfer ‘Ble Pierre’ sydd wedi’i ffilmio gan aelod arall Adwaith, Hollie Singer:

 

 

Record: Stoppen Met Rocken – Kim Hon

Yn ddirybudd, mae’r grŵp o Ddyffryn Nantlle, Kim Hon, wedi rhyddhau EP newydd ers dydd Mercher diwethaf, 11 Awst.

‘Stoppen Met Rocken’ ydy enw’r EP sydd allan ar label Recordiau Libertino.

Mae chwech trac ar y casgliad, gan gynnwys y senglau sydd eisoes wedi’u rhyddhau gan y grŵp – ‘Twti Ffrwti’, ‘Bach o Flodyn’, ‘Parti Grwndi’ a ‘Nofio Efo’r Ffishis’ ynghyd â dau drac arall, sef ‘Daniel Aboagye’ a ‘Cadw’r Newid’.

Sylfaenwyr Kim Hon ydy’r ddau Iwan – Iwan Llŷr (gitâr, allweddellau) ac Iwan Fôn (prif ganwr). Ymunodd y tri aelod arall, Cai Gruffydd, Siôn Gwyn a Caleb Rhys yn ddiweddarach.

Doedd dim bwriad i ffurfio’r grŵp yn wreiddiol, Iwan Fôn glywodd demos roedd Iwan Llŷr wedi’u hysgrifennu yn ei dŷ yn Kenny, Lerpwl er mwyn diddori ei hun. Awgrymodd Iwan Fôn y dylid mynd a’r caneuon ymhellach ac o hynny y datblygodd Kim Hon.

Mae’r EP yn cloi pennod agoriadol taith Kim Hon yn ôl y grŵp, cyn mentro ar y daith nesaf sydd i ddilyn yn y dyfodol agos. Edrych ‘mlaen!

Dyma set diweddar Kim Hon yn Amgueddfa Lechi Llanberis ar gyfer Eisteddfod Gudd:

 

Artist: Pwdin Reis

Pwdin Reis ydy’r band Rockabily hwyliog sy’n rhyddhau eu sengl ddiweddaraf heddiw.

‘Styc Gyda Ti’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Rosser.

Er bod Pwdin Reis yn enw cymharol newydd, mae’r grŵp yn brolio pedwar o aelodau profiadol iawn sef Betsan Haf Evans (llais), Neil Rosser (gitâr), Rob Gillespie (Drymiau) a Norman Roberts (bas dwbl).

Mae Betsan yn enwedig yn llais a wyneb cyfarwydd i ddarllenwyr Y Selar ar ôl bod yn aelod o nifer o fandiau dros y blynyddoedd. Y bandiau mwyaf diweddar iddi fod gyda nhw ydy Kookamunga a Cwtsh.

Go brin bod angen llawer o gyflwyniad ar Neil Rosser chwaith achos, wel, fo ydy Neil Rosser!

Mae Bets a Neil wedi cyd-weithio tipyn dros y blynyddoedd diwethaf a Pwdin Reis ydy eu prosiect diweddaraf.

‘Styc Gyda Ti’ fydd chweched sengl y band – y ddiweddaraf o’r rhain oedd ‘Galwa Fi’ a ryddhawyd fis Chwefror eleni. Y tro hwn mae’r grŵp wedi troi at y dylanwad pennaf arnynt sef rockabilly pur.

Mae yna elfennau amlwg o arddull gitâr Scotty Moore yn y gân yma yn ogystal â solo harmonica sy’n swnio fel yr hen arddull ‘railroad blues’ o chwarae.

Hon fydd y sengl olaf cyn rhyddhau albwm Pwdin Reis fis Medi ac mae’r band yn ysu am chwarae caneuon yr albwm yn fyw mewn cyfres o gigs sydd ar y gweill, gan gychwyn gyda gig yn Cwrw (Parrot gynt) yng Nghaerfyrddin ar 3 Medi.

 

Un Peth Arall: Fideo ‘Olá!’

Mae sengl ddiweddaraf prosiect Carwyn Ellis & Rio 18 allan ers wythnos diwethaf, ac yn flas o albwm nesaf y band.

‘Olá!’ ydy enw’r trac newydd ac mae’r sengl yn un gwirioneddol ryngwladol sy’n cynnwys cerddorion o Gymru, Brasil, Venezuela ac UDA.

Yn ôl Carwyn maer ‘Olá!’ yn neges o obaith, cyfeillgarwch a gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod dyddiau gwell i ddod.

Mae fideo wedi’i gyhoeddi i gyd-fynd â’r sengl, a hwnnw wedi’i gynhyrchu gan Tocavideos o Rio de Janiero. Fe ffilmiwyd hwn ar leoliad y Ysgol Samba Portela yn Rio – un o’r ysgolion samba sy’n cystadlu yn y carnifal – rhywle lle gan y gymuned ddysgu chwarae offerynnau, dawnsio, creu gwisgoedd a chelf a chrefft amrywiol.

Dyma’r fid: