Pump i’r Penwythnos – 21 Mai 2021

Set rhithiol: Noson Cyfraniad Arbennig Gruff Rhys – 13/02/20

Mae albwm newydd Gruff Rhys, Seeking New Gods, allan ar label Rough Trade heddiw ac mae’n swnio’n wych.

Er mwyn nodi’r achlysur, a gan fod y tywydd mor uffernol, rydan ni wedi penderfynu rhyddhau fideo llawn o Noson Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar 2020, oedd yn dathlu gyrfa Gruff, am y penwythnos yma’n unig!

Cyn hyn, dim ond aelodau premiwm Clwb Selar sydd wedi bod â mynediad i’r fideo o’r gig felly ymunwch â’r Clwb os ydych chi eisiau manteisio ar gynnwys ecsgliwsif fel hyn yn y dyfodol. Ond yn y cyfamser, os nad ydych yn aelod, gwnewch y mwyaf o’r cyfle i wylio’r sgwrs gyda Huw Stephens, ynghyd â detholiad o ganeuon gan Gruff cyn nos Sul!

 

Cân:  ‘O’n i’n Meddwl Bod ti’n Mynd i Fod yn Wahanol’ – Y Dail

Rydan ni’n teimlo balchder mawr wrth ddarganfod talent cerddorol newydd yma yn Y Selar, a nôl ym mis Hydref roedden ni’n gyffrous iawn i ddod ar draws Y Dail.

Roedd yn bleser gallu cynnig cyfle cyntaf i glywed cerddoriaeth y grŵp ifanc o Bentre’r Eglwys ger Pontypridd, ac i weld y fideo ar gyfer eu sengl gyntaf ‘Y Tywysog a’r Teigr’.

Grêt felly ydy gweld prosiect y cerddor talentog, Huw Griffiths, yn dilyn hynny gydag ail sengl ‘O’n i’n Meddwl Bod ti’n Mynd i Fod yn Wahanol’ sydd allan heddiw.

Mae sŵn y sengl newydd, fel y gyntaf, yn hyfryd o retro ac yn adleisio rhai o ddylanwadau Y Dail.

“Recordion ni’r trac mewn dim lot o amser, ac efallai ei fod yn arddangos rhai o fy nylanwadau, fel gitâr glân Jonathan Richman, compressed piano y White Album, a fuzz y Super Furries” meddai Huw wrth Y Selar.

A’r newyddion da pellach ydy bod Y Dail wedi recordio mwy o draciau, ac y gallwn ddisgwyl gweld rhain y ymddangos yn fuan.

“Mae’r gân yn deillio o sesiynau cyn y Nadolig gyda’r cynhyrchydd Kris Jenkins yn ei stiwdio yn Grangetown” meddai Huw.

“Fe wnaethon ni bron cwblhau pedair neu bump cân.

“Roedd e’n rhwystredig peidio â gallu mynd i’r stiwdio yn ystod y cyfnod clo, ond fe fyddwn yn ail gychwyn y sesiynau ym Mehefin.”

Yn ôl Huw, yn ogystal â rhyddhau rhagor o senglau, mae albwm cyntaf Y Dail ar y gweill hefyd.

Dyma flas o’r sengl:

 

Record: Y Casgliad Cyflawn – Y Diliau

Mae label Recordiau Sain wedi bod yn brysur yn rhyddhau cynnyrch amrywiol o’u harchif dros y misoedd diwethaf, a’r esiampl ddiweddaraf ydy casgliad cyflawn o draciau Y Diliau, sydd allan yn ddigidol heddiw.

Triawd o ferched o Lanymddyfri oedd Y Diliau, sef Lynwen Jones, Mair Davies a Meleri Evans ac fe ffurfiodd y grŵp tua 1964 gan ryddhau eu record gyntaf ar label Cymreig enwog Qualiton ym 1965.

Roedd LP, neu albwm, yn beth cymharol anghyffredin i grwpiau pop ar y pryd, gyda recordiau byr – EPs – yn llawer mwy poblogaidd a fforddiadwy i labeli. EP pum trac oedd y record gyntaf dan yr enw Caneuon y Diliau, ac fe ryddhawyd cyfres o EPs eraill ganddynt dros y degawd canlynol ar labeli Qualiton, Dryw, Cambrian a Sain. Yna, ym 1978 daeth unig albwm y grŵp, sef Tân neu Haf, ar label Gwerin.

Gadawodd Lynwen y grŵp yn ddiweddarach, gyda Gaynor John yn ymuno ym 1968.

Roedd Y Diliau yn esiampl dda o ganu pop ar y pryd gyda repertoire o ganeuon gwreiddiol, caneuon gwerin Cymreig a rhyngwladol, caneuon Americanaidd wedi eu cyfieithu a chaneuon crefyddol. Ond roedden nhw hefyd yn ddigon arloesol o safbwynt canu yn y Gymraeg hefyd gydag agwedd broffesiynol at eu cerddoriaeth.

Gyda chymaint o drafod ynglŷn â denu mwy o ferched i ffurfio bandiau dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n werth nodi mai grwpiau o ferched oedd yn fwyaf cyffredin ar lwyfannau Cymru yn y 1960au, ac roedd Y Diliau yn sicr ar flaen y gad.

Er bod technegau recordio wedi datblygu’n eithriadol dros y degawdau ers hynny, mae’n deg dweud bod caneuon Y Diliau yn dal i swnio’n dda heddiw a bydd rhyddhau’r ôl gatalog yn ddigidol yn rhoi cyfle i gynulleidfa newydd eu darganfod.

Dyma’r ardderchog ‘Ffair Ynys Hir’ o’r EP ’72, a ryddhawyd ym 1972 credwch neu beidio, ond oedd hefyd wedi’i chynnwys ar y casgliad Welsh Rare Beat (Cyfrol 2) a luniwyd gan y DJ a chynhyrchydd gwych, Andy Votel, ynghyd â Gruff Rhys a Dom Thomas yn 2007.

 

 

Artist: Y Cledrau

A hithau’n bedair blynedd ers rhyddhau eu halbwm cyntaf, Peiriant Ateb, mae’n grêt i weld Y Cledrau yn ôl gyda sengl newydd.

Rhyddhawyd ‘Hei Be Sy’ ddydd Gwener diwethaf gan y pedwarawd hwyliog o’r Bala ac Ynys Môn.

Mae’r trac newydd yn cymysgu geiriau gorffwyll llif yr ymwybod gyda sain caled a riffs cofiadwy ar y gitâr. Mae’n gân sy’n llawn pytiau geiriol ffraeth, ynghyd a’r angst meloncolig sy’n amlwg trwy holl gynnyrch y grŵp.

“Mae’r geiriau’r penillion reit ffrantig, ‘llif yr ymwybod’ math o beth, yn neidio o un delwedd i’r llall” meddai Joseff Owen, ffryntman Y Cledrau, wrth Y Selar.

“Ma’ ‘ne rhyw deimlad nerfus yn y penillion, fel sefyll ar ymyl dibyn, ac oni’n hoffi’r syniad o gyrraedd ‘uchafbwynt’ dim ond i glywed dywediadau gwag, ffug-gysurlon y gytgan.

Mae fideo wedi’i gyhoeddi ar gyfer y trac hefyd sy’n cynnwys wyneb cyfarwydd yr actor Llyr Evans. Mae o’n dda ynddo fo hefyd! O, ac mae cameo bach gan Jo.

I KA CHING sy’n rhyddhau’r sengl, ac yn ôl t label gallwn ddisgwyl mwy o stwff gan Y Cledrau’n fuan.

Dima’r fid:

Un Peth Arall: Fideo sesiwn magi.

Rydan ni’n ffans mawr o sŵn a steil newydd magi. (Magi Tudur gynt) yna yn Y Selar, felly roedden ni wrth ein bodd i weld fideo sesiwn arall ganddi yn ymddangos ar lwyfannau Lŵp wythnos diwethaf.

Yn y fideo newydd mae’n perfformio’r trac ‘Cerrynt’, ac mae’n diiiiwn arall gan y cerddor talentog.

Mae magi. fel petai’n mynd o nerth i nerth ar hyn o bryd ac wedi rhyddhau cyfres o dair sengl yn ddiweddar, gyda’r ddiweddaraf, ‘Tyfu’ yn ymddangos fis Ebrill.