Pump i’r Penwythnos – 22 Hydref 2021

Gig: Llwyfan Menter Iaith, Gŵyl Ffrinj Abertawe – Tŷ Tawe – 23 Hydref 2021

Dipyn o bethau da yn digwydd ar lwyfannau byw Cymru penwythnos yma.

Mae gig gwych yng Nghlwb Ifor Bach heno, sef gig lansio swyddogol albwm cyntaf Papur Wal. Cefnogaeth gan Y Dail ac Ynys.

Un arall sy’n brysur penwythnos yma ydy‘r bytholwyrdd Geraint Løvgreen. Bydd Geraint a’i driawd yn chwarae yn y Cian Offis, Llangadfan heno am 8:30, ac yna nos fory yn y Wynnstay, Llansilin.

Bydd cyfle hefyd i weld Blodau Papur yn Saith Seren, Wrecsam heno  gyda chefnogaeth gan Morgan Elwy.

Ond Abertawe sy’n ennill y wobr am y lle prysura’r penwythnos o ran cerddoriaeth fyw wrth i’r Ŵyl Ffrinj boblogaidd ddychwelyd i’r ddinas.

Mae rhaglen yr ŵyl yn orlawn o gerddoriaeth fyw mewn lleoliadau amrywiol, ond fe wnawn ni roi sylw arbennig i lwyfan y Mentrau Iaith yn Nhŷ Tawe lle bydd cyfle i weld Kate Newnham, Papur Wal, Mari Mathias, SYBS, Sian Richards a Geraint Rhys yn perfformio ddydd Sadwrn.

Plyg bach hefyd i lwyfan Afanc heno yn Hangar 18 sy’n llwyfannu 3 Hwr Doeth, Mali Hâf a Roughion ymysg eraill.

 

Cân:  ‘Hwylio Gyda’r Lli’ – Lowri Evans

Mae sengl newydd Lowri Evans allan heddiw, ac mae neges glir yn y gân.

‘Hwylio Gyda’r Lli’ ydy enw’r sengl, ac mae’n trafod yr argyfwng tai sy’n bodoli mewn rhannau o Gymru ar hyn o bryd.

Un o’r llefydd amlwg yn hyn o beth ydy Sir Benfro, ac ardal magwraeth Lowri’n benodol, sef Trefdraeth.

Mae llawer o ganeuon Lowri’n trafod ei milltir sgwâr. Mae hynny’n wir am ‘Hwylio Gyda’r Lli’ ac mae’n lamsero iawn hefyd wrth iddi ryddhau’r sengl ar benwythnos rali Cymdeithas yr Iaith yn Y Parrog.

Ysgrifennwyd geiriau ‘Hwylio gyda’r lli’ gan Hedd Ladd-Lewis, un arall a fagwyd yn ardal Trefdraeth. Mae’r gân yn sôn am gymuned fach Y Parrog, sef y traeth a’r porthladd ger aber yr Afon Nyfer.

Roedd cymuned Y Parrog yn arfer bod yn un fywiog, ond bellach dim ond ychydig o dai sydd â goleuadau ynddynt, ac unig iawn yw hi i’r ychydig sy’n byw yno gydol y flwyddyn. Bellach mae’r olaf o’r trigolion ‘fel graean mân’ yn gyflym ddiflannu gyda llif yr afon.

Ymateb Lowri yw’r gân i ddiwedd y gymuned fywiog yn Y Parrog  mae’n cofio o’i phlentyndod.

Mae rali Cymdeithar yr Iaith Gymraeg yn Y Parrog fory, 23 Hydref, er mwyn codi ymwybyddiaeth am yr argyfwng tai a bydd Lowri’n perfformio’r gân yn ystod y rali.

Dyma Lowri’n perfformio’r gân yn ddiweddar ar Noson Lawen:

 

Record: Catatonia 1993/1994

Diolch i’r Welsh Music Podcast (welshmusicpod) am dynnu sylw’r wythnos hon at y ffaith ei bod hi’n 22 mlynedd ers rhyddhau’r record yma oedd yn cynnwys gwaith cynharaf Catatonia.

Hydref 1999 oedd hi, ac roedd Catatonia ar dop eu gêm ar ôl rhyddhau eu trydydd albwm gwych, Equally Cursed and Blessed, yn gynharach yn y flwyddyn gan gyrraedd rhif 1 yn y siartiau albyms Prydeinig yn ogystal â chael statws Platinwm o ran gwerthiant.

Penderfynodd label Recordiau Sain i fanteisio ar y cyfle i ryddhau casgliad o ganeuon cynnar y grŵp oedd wedi eu rhyddhau’n wreiddiol ar eu is-label, Crai, oedd yn cael ei redeg gan Rhys Mwyn.

Beth sydd yma yn y bôn ydy’r caneuon o’r ddau EP a ryddhawyd gan Catatonia ar y label, sef For Tinkerbell (Mai 1993) a Hooked (Mehefin 1994).

Er mai dyddiau cynnar oedd hi ym mywyd Catatonia pan ryddhawyd yr EPs, roedd yr addewid o’r hyn oedd i ddod yn amlwg iawn diolch i draciau gwych fel ‘Dimbran’, Difrycheulyd’ a’r ardderchog ‘Gyda Gwên’.

Ffilmiwyd fideo ar gyfer ‘Gyda Gwên’ gan gyfres deledu chwedlonol Fideo 9, a dyma fo:

Artist: Geth Tomos

Artist sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg dros y misoedd diweddar ydy Geth Tomos, ac mae ei sengl newydd, ‘Haws Deud Na Gwneud’, allan ers dydd Gwener diwethaf, 15 Hydref.

Mae Geth yn gerddor amryddawn ond mae’n siŵr ei fod yn fwyaf adnabyddus i ffans cerddoriaeth Gymraeg fel aelod o’r band roc Gwacamoli oedd yn amlwg iawn ar droad y mileniwm.

Mae cyfnod y pandemig wedi bod yn un digon prysur iddo wrth iddo gael ei ysbrydoli i droi nôl at y gitâr a chyfansoddi caneuon o’r newydd yn ystod y cyfnod clo.

Canlyniad hynny oedd rhyddhau’r traciau ‘Achub y Byd (efo roc a rôl)’ a ‘Byw mewn Harmoni’ ychydig fisoedd yn ôl.

Ers hynny mae wedi rhyddhau’r trac ‘Darn Ohonaf i’ gyda’r cerddor Neil Williams o’r grŵp Maffia Mr Huws, ynghyd â’r sengl ‘Hedfan i Ffwrdd’ gyda’r gantores o Waun-Cae Gurwen, Lisa Pedrick.

Y newyddion da ydy y gallwn ni ddisgwyl gweld tipyn mwy o gerddoriaeth yn ymddangos ganddo hefyd yn ôl pob golwg.

“Mae hon yn gyfres o senglau dwi’n rhyddhau efo’r bwriad o ryddhau un y mis am flwyddyn” meddai’r Geth wrth Y Selar.

“Mae hi’n gân am sut da ni’n byw mewn byd llawn addewidion gwag a sut, fel mae’r gân yn dwued, haws dweud na gneud…”

I atgyfnerthu’r ffaith ei fod am ddatblygu’r prosiect, mae Geth wedi datgelu i’r Selar ei fod wedi ffurfio band o’i gwmpas gydag ambell enw cyfarwydd ymysg yr aelodau.  Mae’r band yn cynnwys Robin Jones (o’r band Dan Lloyd a Mr Pinc) ar y bas, Rhys Edwards o Fleur de Lys ar y gitâr a Dei Elfryn ar y drymiau.

 

 

Un Peth Arall: Pobl bwysig Gŵyl Sŵn

Fel y gwyddoch, roedd hi’n benwythnos Gŵyl Sŵn wythnos diwethaf ac mae’r bobl dda hynny @ Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo sy’n ein cyflwyno i rai o’r bobl allweddol tu ôl i’r ŵyl…