Pump i’r Penwythnos – 22 Ionawr 2021

Set rhithiol: Dafydd Hedd, Iesyn Gwyn Jones – 14/01/21

Dipyn o gigs rhithiol bach neis wythnos yma gan gynnwys un neithiwr a dau heno.

Neithiwr, roedd cyfle i weld Mr Phormula yn perfformio set Facebook Live ar gyfer Gwynedd Greadigol (isod).

Heno, Mellt sy’n chwarae yn y diweddaraf o gyfres o gigs Yn Fyw o’r Ffwrnes, yn Theatr Ffwrnes Llanelli. Ma’r gig yn ffrydio am 20:00 ar Facebook a YouTube, gyda chyfle i gofrestru ar wefan Theatrau Sir Gâr.

Un boi arall sydd heb fod yn brin o gigs rhithiol yn ddiweddar ydy Dafydd Hedd. Mae’r cerddor ifanc o Fethesda wedi bod yn cynnal setiau ar-lein trwy gydol y cyfnod clo, a heno mae’n cyd-weithio gyda cherddor addawol arall o Gaerdydd, Iestyn Gwyn Jones, i gynnal gig ar gyfrif Instagram Dafydd (@dafyddhedd) am 19:00. Tiwniwch mewn.

 

Cân:  ‘Tyfu’ gan Eädyth

Does dim amheuaeth mai Eädyth oedd un o artistiaid mwyaf gweithgar 2020, a hyd yma mae hynny wedi parhau yn 2021.

Y gantores electroneg o Ferthyr oedd yn gyfrifol am guradu rhaglen ddiweddaraf ‘Curadur’ ar Lŵp, S4C gyda’r artistiaid Shamoniks, Ladies of Rage, Izzy Rabey ac Endaf yn serennu. Dyma gerddorion mae Eädyth wedi cyd-weithio â nhw i gyd dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ryddhau cynnyrch bron pob un.

Ond, mi wnaeth hi hefyd ryddhau cerddoriaeth unigol yn yn 2020 ar ffurf cwpl o senglau, gan gynnwys ‘Tyfu / Grow’ ym mis Awst.

Fel rhan o’r bennod Curadur roedd fideo arbennig o’r trac, ac roedd rhaid rhannu hwnnw gyda chi wythnos yma: ‘chos mae o’n class:

 

 

Record: Ffrog Las – Jaffro

Mae’r cerddor electronig amgen, Jaffro, wedi rhyddhau ei albwm newydd ers dydd Gwener 15 Ionawr.

Ffrog Las ydy enw’r casgliad hir newydd gan y cerddor sy’n dod yn wreiddiol o Gaerfyrddin, ond sydd bellach wedi’i leoli’n Llundain.

Efallai bydd enw Jaffro yn un anghyfarwydd i rai, ond mae wedi bod yn creu cerddoriaeth arbrofol yn gyson ers tua degawd bellach ac mae unrhyw un sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth yn ardal Caerfyrddin yn siŵr o wybod digon amdano.

I’r rhai sy’n gwybod llai, fe gyhoeddwyd darn arbennig ar wefan Y Selar ddechrau’r wythnos yn trafod hanes y cerddor, ynghyd â’i record hir newydd.

Roedden ni hefyd yn falch iawn o’r cyfle i gynnig y cyfle cyntaf i gynulleidfa’r Selar glywed teitl drac yr albwm newydd gwpl o ddyddiau cyn y dyddiad rhyddhau swyddogol, a dyma rannu ‘Ffrog Las’ gyda chi eto isod.

Mae modd prynu’r albwm yn ddigidol ar safle Bandcamp Jaffro, ynghyd â nifer cyfyngedig iawn, dim ond 15 copi, o’r albwm ar fformat CD. Mae ambell un ar ôl wrth i ni deipio!

Artist: Geraint Jarman

 

Fel arfer wrth ddewis ‘artist’ ar gyfer Pump i’r Penwythnos byddwn ni’n trio rhoi ychydig o gyflwyniad a chefndir i’r cerddor dan sylw.

Ond go brin fod angen llawer o gyflwyniad ar Geraint Jarman – digon ydy dweud ei fod o’n un o gerddorion amlycaf, a mwyaf dylanwadol yr hanner canrif diwethaf.

Er hynny, mae esgus da dros roi rhywfaint o sylw i Jarman wythnos yma gan fod saith o’i albyms eiconig allan yn ddigidol am y tro cyntaf heddiw.

Y saith record hir dan sylw ydy Gobaith Mawr y Ganrif, Hen Wlad fy Nhadau, Gwesty Cymru, Fflamau’r Ddraig, Diwrnod i’r Brenin, Macsen ac Enka.

Mae’n debyg bydd rhai yn cofio mai Geraint Jarman oedd enillydd Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar bedair blynedd yn ôl, ac fe berfformiodd mewn gig bythgofiadwy yn Neuadd Pantycelyn i agor penwythnos Gwobrau’r Selar.

Mae’n werth atgyfodi cwpl o erthyglau yn dathlu gwaith Jarman a gyhoeddwyd o gwmpas cyfnod y Gwobrau yn 2017, yn benodol felly y darn lle dewisodd tri o ffans mwyaf y cerddor, sef Dewi Prysor, Gorwel Roberts a Griff Lynch, eu hoff albyms Jarman.

Bu darllenwyr Y Selar hefyd pleidleisio yn ein pôl piniwn i ddewis 10 Uchaf Caneuon Jarman – ydach chi’n cofio pa diwn ddaeth i’r brig?

Gobaith Mawr y Ganrif oedd albwm cyntaf Jarman ym 1976, pam ddim eistedd nôl a mwynhau’r casgliad ar nos Wener?

 

Un Peth Arall: Rhifyn newydd zine Merched yn Gwneud Miwsig 

Gwych i weld fod trydydd rhifyn y zine Merched yn Gwneud Miwsig wedi’i gyhoeddi’n ddigidol.

Prosiect sy’n cael ei redeg gan Maes B ydy Merched yn Gwneud Miwsig er mwyn hybu ac annog gweithgarwch merched yn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.

Y gyflwynwraig radio  Sian Eleri sydd wedi curadu’r rhifyn newydd ac mae amrywiaeth o gelfyddydau’n cael eu harddangos rhwng y cloriau, yn ogystal â cherddoriaeth.

Mae’r erthyglau cerddorol yn cynnwys darn am y trac ‘I Dy Boced’ gan Thallo,  a chân newydd sbon ar gyfer y rhifyn gan Eädyth.

Mae’r rhifyn hefyd yn cynnwys ryseit gan Megg Lloyd, cerdd gan Llio Elain Maddocks, a chyfweliad gyda’r podledwraig Seren Jones.

Darlleniad da heb os!