Pump i’r Penwythnos – 23 Ebrill 2021

Set rhithiol: Tafwyl 2021 2020

Wythnos diwethaf cyhoeddwyd manylion gŵyl rhithiol Tafwyl 2021.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, bydd yr ŵyl boblogaidd yng Nghaerdydd yn cael ei chynnal ar-lein, a hynny ar 15 Mai.

Bydd llwyth o weithgareddau amrywiol ar y dydd, ac wrth gwrs mae cerddoriaeth fyw yn ran ganolog o’r amserlen fel arfer.

Bydd 15 o artistiaid yn perfformio yn ystod y digwyddiad, a hynny ar ddau lwyfan sydd wedi’u curadu gan Glwb Ifor Bach. Ymysg yr enwau cyfarwydd sydd wedi eu cyhoeddi mae Geraint Jarman, Mared, Cowbois Rhos Botwnnog, Ani Glass, Gwilym a Breichiau Hir.

Gyda’r newyddion, roedd yn teimlo’n briodol i fwrw golwg nôl ar yr ŵyl llynedd, wnaeth godi gigs rhithiol Cymraeg i lefel arall ar y pryd.

Am resymau hawliau mae’n debyg, does dim llwyth o gynnwys cerddorol yr ŵyl ar-lein bellach, ond mae’r fideo yma yng nghwmni sain ‘Haul’ gan Adwaith yn adlewyrchiad bach da o ysbryd y digwyddiad:

 

Mae hon hefyd yn ffilm ddogfen fer dda gan Lŵp sy’n crynhoi profiadau Hana o berfformio llynedd:

 

Cân:  ‘Os Ti’n Teimlo’ – Griff Lynch

Mae wedi bod yn anodd iawn anwybyddu sengl newydd Griff Lynch, a ryddhawyd wythnos diwethaf.

‘Os Ti’n Teimlo’ ydy enw’r trac newydd, a dyma’i gynnyrch unigol cyntaf Griff ers 2018.

Mae’n dipyn o diwn chwarae teg, ond nid dyna’r prif reswm mae’r trac wedi denu cymaint o sylw, o nage! Y prif reswm mae’r trac wedi arwain at dipyn o drafod ydy gan mai dyma’r cynnyrch cerddorol Cymraeg cyntaf i’w ryddhau fel NFT.

Beth yn y byd ydy NFT? Wel ‘non-fungible token’ ydy’r enw llawn dros yr arfer o gyfnewid cryptocurrency am eitem ddigidol unigryw. Ydy, mae o gyd bach yn gymhleth – googlwch o, ac mae cwpl o fideos da sy’n egluro’n syml.

Er dal yn weddol newydd fel cysyniad, mae NFT wedi datblygu i fod yn ffurf newydd poblogaidd i un person brynu a pherchnogi celf ac eitemau digidol ar-lein, gan ddefnyddio cryptocurrency i dalu.

Roedd Griff yn cynnig  y copi master o’r sengl ynghyd â phecyn gwaith celf i’r prynwr, ac fe ddatgelodd ei fod wedi’i brynu am 0.07 Ethereum gan Phil Stead, sy’n golofnydd chwaraeon, ond hefyd yn ffigwr cyfarwydd yn y byd cyfryngau digidol Cymraeg hefyd.  Mae o hefyd yn casglu’r pethau digidol prin yma.

Un peth sy’n llawer llai cymhleth i’w egluro ydy pa mor dda ydy’r trac diweddaraf yma gan Griff, ac mae ‘na fideo bach clyfar hefyd:

 

Record: Rhaid i Rhywbeth Ddigwydd – Tystion

Newyddion cyffrous wythnos diwethaf oedd bod albwm eiconig ‘Rhaid i Rywbeth Ddigwydd’ gan y grŵp hip-hop, Tystion, i’w ryddhau’n ddigidol am y tro cyntaf fis nesaf.

Ffaith diddorol iawn arall ydy mai’r sianel YouTube, Ffarout, sy’n rhyddhau’r albwm. Mae Ffarout wedi bod yn cyhoeddi fideos a cherddoriaeth amrywiol o’r archif ar sianel YouTube ers rhai blynyddoedd bellach, ond dyma fydd y tro cyntaf iddynt ryddhau cerddoriaeth yn swyddogol.

Ffurfiwyd Tystion tua 1995, ac roedden nhw’n cynnwys talentau arbennig MC Sleifar, sef Steffan Cravos, a G Man, sef Griff Meredith (MC Mabon yn ddiweddarach). Roedd yr aelodau eraill yn cynnwys MC Chef, sef Gareth Williams, a Clancy Pegg, oedd yn aelod cynnar o Catatonia hefyd.

Ar ôl rhyddhau cwpl o gasetiau ar eu label annibynnol, Fitamin Un, glaniodd eu halbwm cyntaf, sef Rhaid i Rhywbeth Ddigwydd ym 1997.

Teg dweud bod y record wedi creu dirgryniad yn y sin gerddoriaeth Gymraeg ar y pryd – er bod ambell fand rap a hip-hop cyn hynny yn y Gymraeg, doedd dim byd fel hyn wedi ymddangos o’r blaen. Nid gor-ddweud ydy awgrymu bod y grŵp wedi esgor ar linach o artistiaid hip-hop sydd wedi cyfoethogi’r sin dros y chwarter canrif diwethaf.

Hen bryd i’r albwm gyrraedd y prif lwyfannau digidol felly, a bydd allan ar 7 Mai. Yn ôl Ffarout, bydd y record ar gael ar y rhan fwyaf o’r prif lwyfannau ffrydio cerddoriaeth gan gynnwys Spotify a Deezer, ond nid ar Apple Music am y tro oherwydd rhesymau technegol. Bydd yr albwm allan yn ddigidol ar 7 Mai.

Mae’r albwm yn llawn o diwns gwych, gyda ‘Fferins Nôl Mewn Ffasiwn’, ‘Ewro 96’ a ‘Gwyddbwyll’ yn rai uchafbwyntiau. Ond gan ei bod hi’n edrych yn addawol am benwythnos heulog, dim ond un dewis o drac oedd – yr ardderchog ‘Diwrnod Braf’. Dyma nhw’n ei pherfformio’n fyw ar raglen ‘i Dot’ ym 1999:

 

 

Artist: BOI

Newyddion cyffrous wythnos yma ydy bod albwm cyntaf ‘siwpyr grŵp’ diweddaraf y sin Gymraeg, BOI, ar y ffordd ym mis Mehefin.

A cyn hynny, fel tamaid i aros pryd, bydd sengl gyntaf y grŵp yn cael ei ryddhau wythnos nesaf, ar 30 Ebrill.

Pwy ydy BOI, a pam eu bod nhw’n siwpyr felly?

Wel, mae BOI yn gweld dau o gyn-aelodau un o grwpiau mwyaf Cymru o’r 90au a’r 00au, yn dod ynghyd unwaith eto, gan hefyd dynnu rhai o gerddorion mwyaf talentog y sin ar hyn o bryd i weithio gyda nhw.

Osian Gwynedd sydd ar yr allweddellau a Rhodri Sion ydy prif ganwr BOI – y ddau yn aelodau o Beganifs/Big Leaves a ddatblygodd rhwng 1987 a 2003 i fod yn un o grwpiau amlycaf Cymru. Mae Osian wedi bod yn aelod o Sibrydion a grŵp byw Mr, ymysg prosiectau cerddorol eraill ers hynny, tra bod Rhodri wedi canolbwyntio ar ei yrfa actio.

Yr aelodau eraill ydy Heledd Mair Watkins (HMS Morris) ar y gitâr fas, Ifan Emlyn (Candelas) ar y gitâr, a Dafydd Owen (Bob, Sibrydion) ar y drymiau – cyfuniad blasus iawn o dalentau cerddorol heb os.

‘Cael Chdi Nôl’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan wythnos nesaf, a dyma fydd eu sengl gyntaf i’w rhyddhau’n swyddogol, er eu bod wedi gollwng tri trac ar eu sianel YouTube cyn hyn – ‘Heidio Mae’r Locustiaid’, ‘Ynys Angel’ a ‘Twll Dan Staer’.

Bydd yr albwm, yn cael ei ryddhau dan yr enw Coron O Chwinc ar 25 Mehefin ar label Recordiau Crwn. Recordiwyd 10 trac yr albwm mewn amryw o leoliadau gwahanol o amgylch Cymru, cyn cael ei gymysgu gan Daf Ieuan o’r Super Furry Animals.

I gyd-fynd a’r sengl newydd, mae’r grŵp hefyd wedi cyhoeddi’r fideo yma ar-lein:

 

Un Peth Arall: Rhyddhau albyms Datblygu yn Yr Eidal

Mae’n ymddangos bod label annibynnol yn Yr Eidal wedi ail-ryddhau dau o albyms y grŵp Cymraeg eiconig, Datblygu.

Hate Records ydy enw’r label, ac maen nhw wedi rhyddhau nifer cyfyngedig  350 o gopïau o albyms Wyau (HATE 48) a Pyst (HATE 49). Er i Datblygu ryddhau albyms ar ffurf casét gyda label Casetiau Neon cyn hynny,  Wyau a Pyst oedd y ddwy record hir gyntaf iddyn nhw ryddhau ar feinyl, ac maen nhw’n cael eu gweld fel recordiau hynod arwyddocaol, a gafodd ddylanwad mawr ar nifer o’r bandiau Cymraeg a ddaeth wedi hynny

Rhyddhawyd Wyau ar label Recordiau Anhrefn ym 1988, cyn i Pyst ddilyn ym 1990 ar label OFN, sef label y cynhyrchydd gwych Gorwel Owen. Dyma fydd yr ail waith i’r recordiau gael ei hail-gyhoeddi mewn gwirionedd gan bod label Ankstmusik wedi cyhoeddi casgliad o’r pâr o albyms ar CD a chasét ym 1995.

Dim syndod rili, maen nhw’n recordiau gwych. Dyma fideo’r ardderchog ‘Ugain i Un’ sydd ar Pyst:

 

Llun: Griff Lynch (gan Carys Huws)