Pump i’r Penwythnos – 23 Gorffennaf 2021

Gig: Gwilym, Mari Mathias, Elis Derby – Castell Aberteifi – 24/07/21

Ara deg a bob yn dipyn mae’r gigs ‘yn y cnawd’ yn dechrau ail-ymddangos ar hyn o bryd, ond mae’n codi calon gweld ambell drefnydd yn mynd ati i lwyfannau digwyddiadau eto.

Un o’r rhai amlycaf wrth fentro ydy Castell Aberteifi sydd wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau yn eu lleoliad arbennig iawn yn Ne Ceredigion.

Byddwch yn cofio efallai iddynt lwyfannu gig gyda Welsh Whisperer yno bythefnos yn ôl, a’r penwythnos yma mae ‘na leinyp sy’n dod â dŵr i’r dannedd yn sicr.

Y prif atyniad yn y castell nos fory (Sadwrn) ydy Gwilym, ac mae’n grêt i weld y criw yn ôl ar lwyfan byw. Mae’r gefnogaeth yn gref hefyd gyda’r ferch leol, Mari Mathias ynghyd â’r ardderchog Elis Derby yn perfformio.

Mae’r gig yn cael ei gynnal dan amodau pellter cymdeithasol wrth gwrs, ac mae modd prynu tocynnau ar gyfer byrddau o 4 neu 6 person. Mae uchafswm o 6 oedolyn i bob bwrdd, ond mae hawl dod a dau blentyn dan 11 yn ychwanegol i’r 6 yma yn rhad ac am ddim.

Manylion llawn ar dudalen Facebook y digwyddiad.

 

Cân:  ‘Rhosod’ – Lleuwen

Mae wastad yn bleser gweld cerddoriaeth newydd yn ymddangos gan Lleuwen felly fe godwyd ein calon i weld sengl newydd yn cael ei rhyddhau ganddi wythnos yma.

‘Rhosod’ ydy enw’r trac sy’n gweld Lleuwen yn cyd-weithio gyda’r cynhyrchydd o Ganada Erin Costello, ac mae’r sengl allan ar label newydd Eg…mwy am hynny yn y man.

Mae ‘Rhosod’ yn gân sydd wedi’i chyfansoddi, ei recordio a’i pherfformio o gartref Lleuwen yn Llydaw ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

“Mae’n un o gasgliad o ganeuon sydd wedi bod yn cysgu yn fy macbook ers dechrau’r cyfnod clo” meddai Lleuwen.

Neidiodd ar y cyfle i gyd-weithio gyda Erin Costello, sy’n gynhyrchydd uchel iawn ei pharch, ond yn ôl Erin roedd Lleuwen wedi cynhyrchu’r gân yn barod bob pwrpas. Penderfynodd y ddwy gadw at y cynhyrchiad gwreiddiol felly gan gadw’r zipper lighter fel offeryn taro, ynghyd â theganau a’r synth o’r 1980au.

Y newyddion da pellach ydy mai dim ond dechrau’r cywaith hwn rhwng y ddau artist yw’r gân hon, ac Erin Costello sydd wedi cymysgu’r trac yn ei stiwdio yn Nova Scotia. Bu’r ddwy’n cydweithio dros fisoedd o sesiynau zoom yn rhannu, cynhyrchu a thrafod pa mor rhyfedd yw’r ffaith bod cyn lleied o gerddorion benywaidd yn cael eu cydnabod fel cynhyrchwyr.

‘Rhosod’ ydy’r gyntaf o ddwy gân sydd wedi eu cyfansoddi gan Lleuwen mewn cydweithrediad â’r Eisteddfod Genedlaethol a National Arts Centre Canada, gydag Erin Costello wrth y llyw yn cynhyrchu ar gyfer y ddwy.

Mae ‘Rhosod’ hefyd yn unigryw i’r gantores a ddaw’n wreiddiol o Riwlas ger Bethesda yn yr ystyr mai dyma’r gân gyntaf erioed iddi greu ar y piano.Mae ‘Rhosod’ yn arwyddocaol am reswm arall, sef mai hi ydy’r gân gyntaf i’w rhyddhau ar Label Eg sef label cerddoriaeth newydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Bydd yn ddifyr gweld beth arall ddaw ar y label hwnnw.

 

Record: ‘Yn Canu’ – Ratatosk

Bosib iawn bod Ratatosk yn enw newydd i lawer ohonoch, ond mae’r cerddor dan sylw’n un profiadol iawn, ac amlwg yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru ers sawl blwyddyn bellach.

Prosiect Rhodri Viney ydy Ratatosk – mae Rhodri’n un o aelodau’r grŵp amlwg Right Hand Left Hand ac wedi bod yn cyfansoddi a pherfformio ers dros 20 mlynedd.

Mae Rhodri’n disgrifio cerddoriaeth Ratatosk fel  ‘gwerin trist’, ac mae wedi rhyddhau sawl record dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r cryno albwm dwy-ieithog diweddaraf allan ers dydd Gwener diwethaf, 16 Gorffennaf. Enw’r record newydd wyth trac ydy Yn Canu.

Yn ôl yr artist mae’r record yn ymdrin a’r themâu arferol o arwahanrwydd, y modd mae amser yn pasio’n gyflym, a diwedd popeth – yn aml mewn modd doniol.

Yn gerddorol, dywed Rhodri ei fod yn ymdrechu i wneud rhywbeth mwy cynnil na’i record hir ddiwethaf, ac i ryddhau albwm llai na 40 munud o hyd.

Mae modd prynu’r albwm ar safle Bandcamp Ratatosk ac mae fersiwn CD hefyd ar gael o siop recordiau Spillers yng Nghaerdydd.

Artist: Melin Melyn

Mae’r Selar wastad â diddordeb mawr mewn clywed unrhyw newyddion o gyfeiriad y grŵp lliwgar Melin Melyn – mae popeth maen nhw’n gwneud yn tueddu i fod yn hwyliog ac yn werth ei weld neu glywed.

Roedd yn sypreis bach hyfryd felly gweld bod eu sengl newydd, ‘Dewin Dwl’ wedi gollwng wythnos yma.

Rydyn ni wedi rhoi tipyn o sylw i Melin Melyn dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf, gan gynnwys gyhoeddi cyfweliad estynedig gyda’r ffryntman, Gruff Glyn, oedd yn gyfle i fynd o dan groen y band go iawn.

Mae aelodaeth y band wedi amrywio rhywfaint ers ffurfio, neu efallai fod ehangu’n well disgrifiad. Yr aelodau erbyn hyn ydy Gruff Glyn yn canu, chwarae’r gitar a’r sax; Will Barratt yn gitarydd blaen; Garmon Rhys ar y bas; Cai Dyfan ar y dryms; Rhodri Brooks ar y gitâr bedal ddur; a Dylan Morgan  ar yr allweddellau.

Mae’r sengl newydd yn ragflas pellach i EP cyntaf Melin Melyn, Blomonj, sy’n dod allan ar yr 17 Awst, drwy label Bingo Records – edrych ymlaen yn fawr iawn am hwn.

Mae’r sengl newydd wedi chynhyrchu gan Llyr Pari  yn Stiwdio Sain, Llandwrog.

Y gobaith ydy bydd cwpl o gyfleoedd i weld Melin Melyn yn perfformio’n fyw dros yr haf, yn benodol felly yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd a Gŵyl End of the Road.

Dyma ‘Dewin Dwl’:

 

Un Peth Arall: Yr Ods Ar Dâp

Mae’r bennod ddiweddaraf o’r gyfres gerddoriaeth ‘Ar Dâp’ ar gael i’w gwylio ar-lein rŵan, gyda’r Ods yn perfformio sesiwn o Neuadd Ogwen, Bethesda.

Darlledwyd y bennod am y tro cyntaf nos Fercher ac mae modd gwylio ar alw ar gyfryngau Lŵp, S4C nawr gan gynnwys eu sianel YouTube.

Dyma’r drydedd bennod o’r gyfres gan ddilyn perfformiadau blaenorol gan 3 Hwr Doeth a 9Bach.

Cliciwch y botwm chwarae isod i wylio: