Gig: Papur Wal, Bandicoot, Clwb Fuzz, Adwaith DJs – 24/09/21
Mae digwyddiadau byw wedi bod yn dychwelyd yn raddol dros yr wythnosau diwethaf, a chalendr gigs Y Selar wedi bod yn prysur lenwi unwaith eto.
Yn wir, penwythnos yma am y tro cyntaf ers oes mae’n teimlo fel petai dewis gwirioneddol o gigs go iawn, yn y cnawd!
Mae heno’n arbennig o brysur, gyda dewis da o gigs yn y De.
Os ydach chi’n ardal Abertawe, beth am daro draw i Dŷ Tawe lle mae Mei Gwynedd yn perfformio gyda chefnogaeth gan Mabli.
Ym Mhontypridd mae gigs yn ail-gydio yng Nghlwb Y Bont heno gyda Morgan Elwy a’r Band yn mentro lawr o’r gogs.
Ond yng Nghaerfyrddin mae ein prif ddewis ni o gig penwythnos yma, a hynny yn CWRW (sef yr hen Parrot) lle mae noson wedi’i churadu gan Recordiau Libertino. Mae Papur Wal, Bandicoot, Club Fuzz a set DJ gan Adwaith yn dod a dŵr i’r dannedd yn sicr.
Os ydach chi awydd mwynhau rhywbeth o’ch soffa penwythnos yma, wel mae Gŵyl Newydd yn digwydd ddydd Sadwrn gyda pherfformiadau rhithiol gan Nfamady Kouaté, Eädyth, Mali Haf, Lili Beau a Los Blancos.
Cân: ‘Ci’ – Derw
Rydan ni wedi bod yn dilyn datblygiad y grŵp pop siambr, Derw, yma yn Y Selar yn ofalus, ac felly’n falch iawn o weld eu sengl newydd yn cael ei ryddhau heddiw.
Roedden ni’n falch iawn hefyd o gynnig y gyfle cyntaf i chi ffrydio ‘Ci’ yma ar wefan Y Selar yn gynharach yn yr wythnos.
Mae’r trac yn ddilyniant i’r EP ‘Yr Unig Rai Sy’n Cofio’ a ryddhawyd ym mis Chwefror eleni ac yn gam arall ymlaen i’r grŵp sy’n cyfuno doniau’r gitarydd Dafydd Dabson, ei fam y delynegydd Anna Georgina, a’r gantores amryddawn Elin Fouladi.
Gyda’r sengl newydd mae Anna’n trafod yr iselder a ddioddefodd yn ei harddegau a sut mae hi wedi dysgu ymdopi â hwnnw.
“Mae’n fater wahanol i wynebu iselder wrth gychwyn bywyd” eglura Anna wrth drafod y gân.
“Amser dylsai fod yn llawn gobaith ond yn ei le dim ond cysgod ansicrwydd a hunan amheuaeth, na’i wynebu yn hwyrach mewn bywyd a droiodd allan yn hapus.”
Heb os mae Derw’n un o’r grwpiau hynny sydd wedi manteisio ar gyfnod y pandemig i wneud eu marc ac maent i’w gweld yn mynd o nerth i nerth. Mae ‘Ci’ yn sicr yn dystiolaeth bellach o hynny.
Record: Cariad Cywir – Bwchadanas
Dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf mae label recordiau eiconig Sain wedi mynd i’r arfer o dyrchu yn eu harchif gan ail-ryddhau nifer o recordiau’n ddigidol am y tro cyntaf.
Y record ddiweddaraf o’r archif i gael y driniaeth ydy unig albwm y grŵp o’r 1980au, Bwchadanas, sydd ar gael ar y llwyfannau digidol arferol o heddiw ymlaen.
‘Cariad Cywir’ ydy enw’r albwm a ryddhawyd yn wreiddiol ym 1984.
Ffurfiwyd y grŵp ym Mangor yn y flwyddyn honno gan griw o ffrindiau coleg yn y ddinas. Mae’n siŵr mai aelod mwyaf adnabyddus Bwchadanas i ddarllenwyr Y Selar oedd Siân James, sydd wedi mynd ymlaen i fwynhau gyrfa unigol fel un o gerddorion gwerin mwyaf llwyddiannus Cymru dros y degawdau ers hynny.
Roedd sawl aelod arall amlwg yn y grŵp hefyd sef Geraint Cynan (Piano), Rhys Harries (gitâr), Gareth Ioan (pibau), Llio Rolant (telyn) a Rhodri Tomos (gitâr). Cerddorion sydd oll wedi gwneud eu marc yn gerddorol dros y blynyddoedd ers hynny.
Roedd sŵn Bwchadanas yn gymysgedd difyr o gerddoriaeth gwerin a roc. Llwyddodd y grŵp i gipio teitl Cân i Gymru 1985 gyda’r gân ‘Ceiliog yn y Gwynt’.
Dyma ail drac yr albwm, ‘Jipsi’:
Artist: Endaf Emlyn
Mae Sywel Nyw, sef prosiect unigol Lewys Wyn o’r Eira, yn rhyddhau’r sengl ddiweddaraf o’i brosiect uchelgeisiol o ryddhau sengl bob mis yn 2021 heddiw.
Byddwch yn gwybod mae’n siŵr mai agwedd ychwanegol o’r her ydy i gyd-weithio gydag artist gwahanol ar bob un o’r senglau hyn, ac ar gyfer ‘Traeth y Bore’, Endaf Emlyn ydy gwestai Lewys.
Mae Sywel Nyw wedi partneriaethu gydag amrywiaeth eang o gerddorion ar y daith hyd yma, gan gynnwys cerddorion profiadol fel Mark Roberts, rhai newydd fel Gwenno Morgan a rhai amlwg ar hyn o bryd fel Glyn Rhys-James o’r grŵp Mellt.
Ar gyfer ei sengl ddiweddaraf, mae’n cyd-weithio gydag un o enwau mwyaf eiconig y sin gerddoriaeth Gymraeg.
Roedd Endaf Emlyn, ynghyd â Meic Stevens, yn un o’r cerddorion oedd yn gyfrifol am roi cerddoriaeth Gymraeg gyfoes ar y map o ddifrif. Albwm cyntaf Endaf, Hiraeth, a ryddhawyd ym 1972, oed un o’r LPs cyfoes cyntaf yn y Gymraeg, ac mae’n ardderchog.
Rhyddhawyd Hiraeth ar label Recordiau’r Dryw, ac mae nod bach i’r clawr enwog hwnnw ar waith celf ‘Traeth y Bore’.
Daeth tri albwm ar ôl hynny ar Recordiau Sain sef Salem (1974), Syrffio Mewn Cariad (1976) a Dawnsionara (1981). Dyma driawd o recordiau oedd yn ran o’r gyfres o albyms gwych, eiconig, a ryddhawyd ar Sain yn ystod y 70au a dechrau’r 80au.
Trodd Endaf ei olygon at yrfa fel cyfarwyddwr ffilm a theledu’n bennaf wedi hynny, ond yna daeth rhyw comeback bach yn 2009 wrth iddo berfformio ar lwyfan Sesiwn Fawr Dolgellau, a rhyddhau’r albwm Deuwedd. Mwy am hyn mewn cyfweliad gyda’r cerddor yn rhifyn Y Selar o Awst 2009.
Mae’r trac newydd gan Sywel Nyw wedi’i ysgrifennu ar y cyd ag Endaf Emlyn, a dyma’r nawfed sengl o’r flwyddyn fel rhan o’r prosiect.
“Ddoth y gân at ei gilydd dros gyfnod yr haf” eglurodd Lewys Wyn wrth Y Selar.
“Ges i ac Endaf gyfle i rannu ychydig o demo’s efo’n gilydd. Mae gan Endaf ddiddordeb mawr yn y broses gynhyrchiol ac roedd y syniad o rannu prosiect a syniadau ar-lein yn rhywbeth eitha’ newydd iddo.
“Mae o yr un mor frwdfrydig ag erioed am gerddoriaeth ac roedd y broses o gyd-weithio’n hollol wych.”
I gloi, dyma ddau ffaith difyr iawn arall am Endaf Emlyn sy’n selio ei le fel eicon Cymreig:
- Ef oedd yn gyfrifol am gyfansoddi cerddoriaeth agoriadol Pobol y Cwm
- Endaf oedd cyfarwyddwr y ffilm Nadolig orau erioed yn y Gymraeg, neu unrhyw iaith arall os ddaw hi at hynny, ‘Y Dyn Nath Ddwyn y Nadolig’
Un Peth Arall: Dychweliad Sioe Nadolig Al Lewis
Ydy, mae hi lot rhy fuan i feddwl am y Nadolig, ond gan fod ni eisoes wedi cyffwrdd â’r pwnc wrth gloi’r cymal uchod am Endaf Emlyn, cystal i ni barhau a’r thema!
Mae rheswm da iawn dros wneud hynny, sef bod Al Lewis wedi cyhoeddi bydd ei sioe Nadolig boblogaidd yn dychwelyd eleni ar ôl blwyddyn o saib yn 2020.
Mae Al yn cynnal y sioe Nadolig yn Eglwys Sant Ioan, Treganna, ers sawl blwyddyn bellach ac mae’n saff dweud ei fod yn un o uchafbwyntiau cerddoriaeth fyw tymor y Nadolig yng Nghymru.
Bydd y sioe yn cael ei chynnal ar ddwy noson eleni sef nos Wener 10 Rhagfyr a nos Sadwrn 11 Rhagfyr ac mae’r tocynnau eisoes ar werth am £20 yr un.
“Ma hi’n deimlad braf iawn medru deud bod y cyngherddau ‘Dolig sydd bellach yn draddodiad i fi a’r band, yn ôl eleni” meddai Al wrth Y Selar.
“Heblaw am un gig wnes i tu allan i’r Ganolfan Gelfyddydau yn Aberystwyth dros yr haf, dyma fydd fy nghyfle cyntaf i fod mewn stafell efo cynulleidfa glud. Dwi’n edrych mlaen yn arw.”
Mae tocynnau ar gyfer y ddwy noson ar werth nawr ar wefan Al Lewis.
Mae Al newydd ryddhau fersiwn Saesneg o’i gân ‘Heulwen o Hiraeth’, felly dyma’r wreiddiol: