Pump i’r Penwythnos – 25 Mehefin 2021

Wel, mae’n derfyn wythnos hynod o drist i’r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg wedi i ni golli dau o hoelion wyth y sin, a dau gymeriad hoffus dros ben. Roedd David R Edwards a Wyn Jones Fflach yn ddau gerddor sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol dros y degawdau, ac mae eu colled yn fawr. Fel dau oedd yn dal i ymddiddori mewn, a chefnogi cerddoriaeth gyfoes Gymraeg, fe fyddan nhw’n awyddus i ni ddathlu eu bywydau trwy werthfawrogi cyfoes y sin ar hyn o bryd, felly dyma Bump i’r Penwythnos i godi calon pawb gyda theyrngedau bach i Dave a Wyn.

Gig: 3 Hwr Doeth – Ar Dâp @ Lŵp, Neuadd Ogwen, Bethesda – 23/06/21

Sesiwn fyw gan y grŵp hip-hop o Arfon, 3 Hwr Doeth, ydy’r ddiweddaraf i gael ei darlledu fel rhan o gyfres newydd Ar Dâp.

Ar Dâp ydy’r gyfres gerddoriaeth newydd sy’n cael ei darlledu ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C.

Cafodd y cyntaf o’r sesiynau hyn gyda 9Bach ei ddarlledu ar 26 Mai, ac roedd yr ail, gyda 3 Hwr Doeth, yn ymddangos ddydd echnos (Mercher).

Bydd un sesiwn arall yn y gyfres fer gyntaf, a hwnnw gydag Yr Ods fis Gorffennaf. Bydd sesiwn 3 Hwr Doeth ar gael i’w gweld ar YouTube Lŵp ac ar S4C Clic.

Yn y cyfamser, mwynhewch sesiwn Ar Dâp sydd wedi’i ffilmio yn Neuadd Ogwen, Bethesda…ond gyda rhybudd iaith gref, a bydd rhaid i chi fod yn ddeunaw i wylio!

 

Cân:  ‘Dilyn Cymru’ – Ail Symudiad

Gyda gêm enfawr arall i Gymru penwythnos yma, mae’n briodol i ddewis cân bêl-droed yr wythnos hon. A gyda’r newyddion trist am farwolaeth Wyn Jones, mae’n briodol dewis cân ei fand, Ail Symudiad, i gefnogi ymgyrch Ewro 2020 y tîm cenedlaethol.

Mae Ail Symudiad wedi bod yn grŵp hynod o arwyddocaol dros y blynyddoedd, ac fe wnaethon nhw arloesi yn y Gymraeg gyda cherddoriaeth ton newydd ar ddiwedd y 1970au a dechrau’r 1980au.

Roedden nhw hefyd yn wahanol i lawer o grwpiau Cymraeg mawr eraill y cyfnod gan nad oedden nhw’n ‘grŵp coleg’ – bois Aberteifi oedden nhw, ac roedden nhw bob amser yn driw i’w hardal.

Fe wnaeth Wyn, a’i frawd Richard, hefyd sefydlu label recordiau Fflach yn y dref ac roedd gwaith Wyn fel cynhyrchydd yn allweddol i lwyddiant y label wrth iddynt gynnig platfform i gymaint o artistiaid, yn enwedig yn y De Orllewin.

Gan wybod fod y brodyr yn gefnogwyr brwd o dîm pêl-droed Cymru, doedd hi ddim yn syndod eu gweld yn cynnig sengl i gefnogi’r tîm cyn pencampwriaeth yr Ewros eleni.

Un peth cyffredin am gerddoriaeth Ail Symudiad dros y blynyddoedd ydy eu bod nhw’n gallu cyfansoddi tiwn fachog, ac mae ‘Dilyn Cymru’ yn esiampl berffaith arall o hynny.

Cysga’n dawel Wyn, byddwn yn gweld dy eisiau:

Record: Coron o Chwinc – BOI

Hir yw pob ymaros medden nhw, ac rydan ni wedi bod yn aros yn eiddgar am ddyddiad rhyddhau albwm cyntaf BOI. Mae’r diwrnod mawr wedi cyrraedd o’r diwedd, ac mae Coron o Chwinc allan yn swyddogol heddiw.

Mae BOI yn cyfuno doniau dau o gyn-aelodau’r grŵp poblogaidd o’r 90au a’r 00au, Beganifs / Big Leaves, gyda rhai o gerddorion mwyaf talentog y sin ar hyn o bryd.

Osian Gwynedd sydd ar yr allweddellau a Rhodri Siôn ydy prif ganwr BOI, gan ddod a’r ddau yn ôl ynghyd ar ôl treulio tua 15 mlynedd gyda’i gilydd fel aelodau o Beganifs a Big Leaves rhwng 1988 a 2003.

Yr aelodau eraill ydy Heledd Mair Watkins (HMS Morris) ar y gitâr fas, Ifan Emlyn (Candelas) ar y gitâr, a Dafydd Owen (Bob, Sibrydion) ar y drymiau.

Rydan ni wedi rhoi tipyn o sylw i’r grŵp ar wefan Y Selar dros yr wythnos ddiwethaf, a gallwch ddysgu mwy am y grŵp, a’r albwm, yn ein cyfweliad arbennig gyda Rhodri a gyhoeddwyd ddydd Mercher.

Mae BOI yn creu sain mawr, melodaidd, wedi’i yrru’n ddidrugaredd gan y drymiau a gitars gyda geiriau ac alawon sy’n archwilio’ themâu mawr ei hoes a’n cyflwr dynol.

Maen nhw eisoes wedi rhyddhau tair sengl fel tameidiau i aros pryd sef ‘Cael Chdi Nôl’ ddiwedd mis Ebrill, ‘Ribidires’ fis Mai, a’r anhygoel ‘Tragwyddoldeb’ wythnos diwethaf.

Er hynny, mae’n grêt cael cyfle i glywed sut siap fydd ar yr albwm fel cyfanwaith – gallwch fachu copi digidol, neu ar CD trwy label Recordiau Crwn.

Roedd cyfle cyntaf i glywed trac arall o’r albwm, ‘Ddim yn Sant’, ar wefan Y Selar neithiwr, felly dyma hi eto:

Artist: Datblygu

Rydym wedi gweld llif o deyrngedau i David R Edwards, neu Dave Datblygu dros yr dyddiau diwethaf ac mae’n teimlo’n briodol dewis Datblygu fel ei Artist yr wythnos hon.

Nid pawb oedd yn gwerthfawrogi cerddoriaeth Datblygu pan ddaethon nhw i’r amlwg gyntaf, gan ryddhau cyfres o gasetiau digon amrwd ar label Casetiau Neon. Roedd rhai yn deall y grŵp, a’r hyn roedden nhw’n ceisio gwneud wrth gwrs, ac mae’r bobl sydd wedi ymuno â’r categori hwnnw wedi ehangu dros y degawdau diwethaf.

Roedd y ffaith bod y cyflwynydd Radio 1 dylanwadol, John Peel, yn ffan mawr ohonynt yn bwysig ac mae’n siŵr bod cyfyr wych Super Furry Animals o’r trac hyfryd, ‘Y Teimlad’, wedi denu ton newydd o ddiddordeb yn y grŵp.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf fe welwyd rhywfaint o adfywiad, gyda Dave a Pat Morgan yn cydweithio ar gerddoriaeth newydd gan ryddhau’r albwm Porwr Trallod.

Rydan ni wastad wedi bod yn ffans mawr o Datblygu yma yn Y Selar, ac yn llawn werthfawrogi eu dylanwad ar lwyth o’n grwpiau cyfoes dros y blynyddoedd.

Gyda’r albwm newydd yn ymddangos, roedd yn teimlo’n amserol i ddangos y gwerthfawrogiad hwnnw mewn rhyw ffordd, felly dyma benderfynu sefydlu gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar, a’i chyflwyno am y tro cyntaf i Datblygu yn nigwyddiad Gwobrau’r Selar ym mis Chwefror 2016.

Roedden ni’n hynod o falch bod Dave wedi cytuno i deithio i’r Hen Goleg yn Aberystwyth ar y penwythnos er mwyn cymryd rhan mewn sgwrs arbennig gyda Griff Lynch – doedd ganddo ddim syniad am y wobr, felly roedd yn wych i weld ei ymateb wrth i Griff dorri’r newyddion ar ddiwedd y sgwrs.

“Ff*$in el, thanci îw feri much”  – na, diolch i ti Dave.

Dyma’r ardderchog ‘Cyn Symud i Ddim’ gydag ychydig i eiriau doeth nodweddiadol gan Dave ar y dechrau:

 

 

Un Peth Arall: Fideo Sesiwn Crinc @ Lŵp

Mae fideo sesiwn o’r grŵp Crinc yn perfformio’r trac ‘PPC’ wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau digidol cyfres Lŵp, S4C.

Crinc ydi band yr artist o Fangor, Llyr Alun. Mae’r band hefyd yn cynnwys Sion Land, Llyr Jones, Alex Morrison a Guto Gwyn Evans.

Mae Llyr hefyd  yn aelod o’r grŵp 3 Hwr Doeth, ac ef ydy rheolwr label Recordiau Noddfa, sy’n rhyddhau cerddoriaeth Crinc, 3 Hwr Doeth a Pasta Hull ymysg eraill.

Cafodd y sesiwn ei recordio yn stiwdio gelf Llyr ym Mangor, ac mae’n bangar o drac pync chwara teg:

 

Prif lun: 3 Hwr Doeth @ Gwobrau’r Selar, Chwefror 2020 (FfotoNant)