Set rhithiol: Gwilym, Fleur De Lys – YouTube Yr Urdd – 01/03/21
Mae bron iawn yn Ddydd Gŵyl Dewi, ac fel arfer bydden ni’n gweld llwyth o ddigwyddiadau amrywiol yn cael eu hyrwyddo i ddathlu dydd ein Nawddsant. Mae tipyn llai ar y gweill eleni’n anffodus, ond mae ‘na ambell ddigwyddiad, a gig rhithiol i nodi’r achlysur.
Un sydd wedi dal ein llygad yn arbennig ydy’r un sy’n cael ei drefnu gan Urdd Ynys Môn ar 1 Mawrth, gyda Gwilym a Fleur De Lys yn perfformio.
Mae’r gig yn darlledu am 7:30 ar YouTube Urdd Gobaith Cymru.
Rhowch waedd i ni os oes ganddoch chi unrhyw gigs eraill ar y gweill ac fe wnawn ni rannu ar gyfryngau amrywiol Y Selar.
Mae ‘na dipyn o gynnyrch newydd allan heddiw hefyd, gan gynnwys albwm Oes Pys gan Twmffat. Mae parti gwrando arbennig ar gyfer yr albwm ar Facebook heno, gyda chyfle i holi’r aelodau’n fyw! Mae’r Selar wedi clywed sî am sypreis fach ar ddiwedd y parti hefyd felly byddwch yna.
Cân: ‘Am Ba Hyd’ – Shamoniks a Swagath
Rydan ni’n hen gyfarwydd â gweld y cynhyrchydd Shamoniks yn cyd-weithio gydag artistiaid i ryddhau cynnyrch erbyn hyn, ac ar gyfer ei sengl ddiweddaraf mae wedi partneriaethu gyda’r prosiect hip-hop, Swagath.
Shamoniks ydy’r cerddor a chynhyrchydd Sam Humphreys, sydd hefyd yn aelod o’r grwpiau gwerin Calan, Pendevig a NoGood Boyo.
Dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf rydan ni wedi ei weld yn cyd-weithio’n rheolaidd gydag Eädyth, ond yn fwy diweddar hefyd mae wedi rhyddhau cynnyrch gyda Beth Celyn, Mali Hâf a Bouff.
Ar gyfer ei sengl ddiweddaraf mae wedi partneriaethu gyda’r prosiect hip-hop Swagath, sy’n cael ei arwain gan Helena Emily. Rhyddhawyd ‘Am Ba Hyd’ ddydd Gwener diwethaf.
Swagath ydy grŵp hip-hop diweddaraf Gogledd Cymru ac mae’n brosiect personol gan Helena lle mae hi’n croesawu’r cyfle i MCs lleol ac artistiaid rap fel ei gilydd uno a symud ymlaen.
Recordiwyd ‘Am Ba Hyd’ yn ystod y clo mawr cyntaf ac mae’n nodi gwawr cyfnod newydd yn eu cydweithrediad, er nad yw’r pâr wedi llwyddo i gwrdd yn y cnawd eto oherwydd cyfyngiadau Covid.
Nid dyma ddiwedd cyd-weithio rhwng y ddau, ac mae Shamoniks eisoes wedi anfon trac arall i Swagath weithio arno. Y gobaith ydy y byddwn ni’n gweld ail sengl yn ymddangos dros yr haf.
Record: Gyda’n Gilydd – Cwtsh
Mae’r Selar wedi bod yn dilyn datblygiad y ‘siwpyr grŵp’ Cwtsh ers iddyn nhw ryddhau eu sengl gyntaf, ‘Gyda Thi’ llynedd…a hyd yn oed cyn hynny i ddweud y gwir.
Roedden ni’n ymwybodol iawn felly bod albwm ar y gweill gan y triawd, ac o’r diwedd daeth y dyddiad rhyddhau ar gyfer Gyda’n Gilydd heddiw.
Daeth Cwtsh i amlygrwydd yn ystod 2020 gan ryddhau eu sengl gyntaf, ‘Gyda Thi’ ym mis Mehefin, a’i dilyn gyda’r trac ‘Cymru’ ym mis Medi.
Rhyddhawyd eu trydedd sengl, sef ‘Ein Trysorau Ni’ ym mis Rhagfyr.
Er gwaetha’r cyfyngiadau dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r grŵp wedi llwyddo i greu argraff a chyd-weithio’n ddigon effeithiol. Er bod sawl artist unigol wedi recordio albyms dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r esiamplau o fandiau sydd wedi llwyddo i ysgrifennu, recordio a rhyddhau recordiau hir yn llawer mwy prin.
Llwyddodd Y Selar i drafod hyn gydag Alys, Siôn a Betsan yn ein Sgwrs Selar ddiweddaraf yn ystod yr wythnos a dysgu mwy am y broses.
Fel y byddwch chi’n clywed yn y sgwrs, mae Gyda’n Gilydd allan yn ddigidol yn unig ar Bandcamp Cwtsh yn y lle cyntaf, ond bydd CD yn dilyn wedi i’r cyfnod clo ddod i ben.
Prif drac hyrwyddo’r albwm ydy ‘Tymhorau’:
Artist: Carwyn Ellis & Rio 18
Mae’n ddiwrnod am albyms newydd heddiw! Yn ogystal ag albwm cyntaf Cwtsh, a thrydydd albwm Twmffat, mae heddiw hefyd yn ddyddiad rhyddhau ar gyfer ail albwm prosiect Carwyn Ellis & Rio 18.
Rhyddhawyd albwm cyntaf y prosiect, Joia!, yn ystod 2019 ac ers hynny mae Carwyn wedi bod yn weithgar gyda’i brosiectau eraill gan gynnwys ryddhau albwm diweddara’ Colorama llynedd, yn ogystal â’i gynnyrch unigol fel yr EP, Ti, fis Mai diwethaf.
Roedd Carwyn wedi cyhoeddi ers peth amser bod ail albwm Rio 18 ar y ffordd, gyda’r sengl ‘Ar ôl y Glaw’ yn ymddangos ym mis Tachwedd cyn cael blas pellach o’r albwm gyda’r sengl ‘Lawr yn y Ddinas Fawr’ ym mis Ionawr.
Enw’r record hir ddiweddaraf ydy Mas, ac fel Joia!, mae’r albwm newydd, wedi’i gynhyrchu gan y cynhyrchydd amlwg o Frasil, Kassin.
Mae’r gwaith celf deniadol gan yr artist Diego Medina.
Mae modd cael gafael ar y record newydd ar safle Bancamp y grŵp nawr a chael copi CD yn ogystal â fersiwn digidol. Yn wreiddiol roedd fersiwn feinyl hefyd ond os na wnaethoch chi fanteisio ar y cyfle i rag archebu hwn…wel, rydach chi’n rhy hwyr yn anffodus gan eu bod nhw i gyd wedi eu bachu (wel, mi wnaethon ni eich rhybuddio chi!)
Dyma fideo ‘Ar ôl y Glaw’:
Un Peth Arall: Rhaglen Gwobrau’r Selar Lŵp
Oedd, roedd Gwobrau’r Selar yn wahanol iawn i’r arfer eleni, ond fe gafwyd dathliad gwerth chweil ar donfeddi Radio Cymru wrth i ni gyhoeddi’r enillwyr gwpl o wythnos nôl.
Un peth cyffredin â blynyddoedd diweddar oedd bod rhaglen arbennig ar S4C i nodi’r achlysur.
Doedd dim perfformiadau byw o ddigwyddiad mawreddog yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, ond mae criw Lŵp wedi casglu detholiad da o ddeunydd archif perthnasol, fideos newydd a sgyrsiau amrywiol i greu rhaglen fach werth chweil.
Gallwch wylio hon ar S4C Clic nawr.