Pump i’r Penwythnos – 26 Mawrth 2021

Set rhithiol: Mared a Morgan Elwy – 25/03/21

Gig bach neis iawn y gallech chi fod wedi methu neithiwr (Iau) wrth i’r Urdd ddathlu agor adnodd newydd yn y Gogledd.

Mared Williams a Morgan Elwy oedd yn perfformio mewn safle arbennig yng Ngwersyll Glan Llyn ger y Bala wrth i’r mudiad ddathlu agoriad gwersyll newydd yr Urdd – ‘Glan Llyn Isa’.

Mae’r ddeuawd yma ym mhobman ar hyn o bryd mae’n ymddangos diolch i lwyddiant albwm cyntaf Mared llynedd, a’r ffaith iddi gipio dwy Wobr Selar fis Chwefror, a rhyddhau senglau cyntaf Morgan yn ddiweddar. A dyma nhw eto’n gwneud gig bach ymlaciol i chi fwynhau dros y penwythnos.

 

Cân:  ‘Dyfroedd Melys’ – Sywel Nyw gyda Gwenno Morgan

Mae Sywel Nyw, sef prosiect unigol Lewys Wyn o’r grŵp Yr Eira, wedi rhyddhau’r diweddaraf o’i gyfres o senglau eleni.

Cyhoeddodd Lewys ym mis Ionawr ei fod am ryddhau un sengl bob mis yn ystod 2021, gan gyd-weithio gydag artist gwahanol ar bob un o’r traciau.

Mae eisoes wedi rhyddhau sengl gyda Mark ‘Cyrff’ Roberts, a’i chwaer Casi Wyn dros y ddeufis diwethaf.

Ar gyfer y sengl ddiweddaraf, mae Sywel Nyw yn partneriaethu gyda’r gantores a phianydd dalentog Gwenno Morgan. Enw’r trac newydd ydy ‘Dyfroedd Melys’, ac mae’n cael ei ryddhau ar label Lwcus T.

“Ar ôl cyfnod mor hir o gyfyngiadau, ro’n i ishe sgwennu miwsig fase’n gneud rhywun i ddawnsio!” meddai Gwenno am y sengl.

“Mi na’th y profiad o gydweithio hefo Lewys fy sbarduno i chwilio am syniadau newydd.

“Y cydweithio yna aeth â’r gerddoriaeth i rywle na fase fo wedi mynd pe byswn i jest wedi sgwennu rhywbeth ar ben fy hun.”

Yn sicr mae sŵn ‘Dyfroedd Melys’ bach yn wahanol i’r senglau blaenorol gydag arddull jazz teimladwy Gwenno wedi’i blethu’n fedrus gyda geiriau a melodïau Sywel Nyw.

Mae fideo i gyd-fynd â’r sengl sydd hefyd allan heddiw – Anna Huws sydd wedi cyfarwyddo’r fideo a Gwilym Huws sy’n gyfrifol am y gwaith ffilmio a golygu. Dyma’r fid:

 

Record: Mai – Georgia Ruth

A hithau fwy neu lai’n union flwyddyn ers rhyddhau albwm diweddaraf Georgia Ruth, Mai, mae cyfle perffaith i fwrw golwg nôl  ar y record wrth iddi ryddhau trac coll o’r sesiwn recordio ar gyfer y casgliad.

‘Spring’ ydy enw amserol y trac sydd allan heddiw, a bydd 50% o holl elw’r gwerthiant yn cael ei roi i elusen Welsh Women’s Aid.

Rhyddhawyd yr albwm ‘Mai’ ar Alban Elidir, sef diwrnod cyntaf y Gwanwyn, llynedd, toc ar ôl i’r cyfnod clo ddechrau yng Nghymru gan olygu gorfod gohirio’r daith hyrwyddo oedd wedi’i drefnu.

Recordiwyd y caneuon yn Neuadd Joseph Parry yn Aberystwyth ym mis Ebrill 2019, ond ni chyrhaeddodd y trac ‘Spring’ yr albwm terfynol, ac nid yw’r gân wedi cael ei chlywed yn gyhoeddus o’r blaen.

Mae recordiad yn un o berfformiad cwbl fyw gyda Georgia ei hun, Angharad Davies ar y ffidil ac Alisa Mair Hughes ar y soddgrwth (cello).

Yn ôl y gantores roedd wedi anghofio am y trac ar ôl gorffen yr albwm, ond wedi ail-wrando arno’n ddiweddar a sylwi pa mor berthnasol oedd y geiriau’n teimlo’n ystod y pandemig.

“Mae’r angen am olau, symudiad a gobaith, sydd yn cael ei hebrwng gan newid y tymor, yn teimlo hyd yn oed mwy amlwg a pherthnasol nawr” meddai Georgia.

“Er bod y gân wedi ei recordio mewn byd arall, mae’n teimlo mor addas ar gyfer ein byd ni nawr, rhywsut.”

Mae’r gân wedi bod ar gael ar wefan Georgia ers dydd Sadwrn, 20 Mawrth, ond mae allan yn yr holl fannau digidol arferol o heddiw ymlaen.

Dyma’r trac teitl ar gyfer Mai:

 

Artist: Gruff Rhys

Un boi sydd byth yn segur ydy Gruff Rhys, ac mae ganddo albwm newydd ar gweill eleni.

Mae’r cerddor, sef enillydd Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar llynedd, wedi cynnig blas o’r albwm wrth ryddhau’r sengl ‘Loan Your Loanliness’.

Enw albwm diweddaraf Gruff, sef ei seithfed albwm stiwdio unigol, ydy Seeking New Gods, a bydd yn cael ei ryddhau ar 21 Mai ar label Rough Trade Records.

Dechreuodd yr albwm fel cofiant ar gyfer y llosgfynydd Mount Paektu yn Nwyrain Asia, ond wrth iddo ddechrau ymchwilio’r hanes dechreuodd y caneuon droi’n fwy personol, gan fabwysiadu themâu mae Gruff wedi archwilio ers y gân ‘Slow Life’ gyda Super Furry Animals.

“Mae’r albwm am bobl a gwareiddiad, ac am y gofodau mae pobl yn  byw ynddynt dros gyfnodau o amser” meddai Gruff.

“Mae am sut mae pobl yn mynd a dod ond mae daeareg yn aros o gwmpas ac yn newid yn arafach.”

Cyhoeddwyd fideo i gyd-fynd â’r sengl gyntaf ddydd Llun diwethaf, 15 Mawrth ac mae wedi’i greu gan y cyfarwyddwr ffilm  Mark James. Mae wedi’i ffilmio’n gyfan gwbl o flaen sgrin werdd, gydag aelodau’r band yn perfformio’n unigol “cyn eu dwyn ynghyd yn ddigidol i greu delwedd o un perfformiad stiwdio” i ddefnyddio geiriau Gruff.

Mae modd prynu’r sengl ar safle Bandcamp Gruff Rhys nawr, ynghyd â rhag-archebu’r albwm. Mae hefyd modd prynu fersiwn feinyl nifer cyfyngedig o’r record sy’n cynnwys print wedi’i arwyddo, a flexi disc arbennig ar wefan Rough Trade.

Dyma fideo ‘Loan Your Loanliness’:

Un Peth Arall: Fideo ‘Dau Gam’ gan Derw

Rydan ni wedi bod yn talu dipyn o sylw i’r grŵp o Gaerdydd, Derw, yn ddiweddar ac mae rheswm da iawn am hynny wrth iddyn nhw ryddhau eu EP cyntaf, Yr Unig Rai Sy’n Cofio, fis diwethaf.

Ac i gyd-fynd â’r EP maen nhw wedi bod yn cyhoeddi cyfres o fideos a ffilmiwyd yn Stiwdio Acapela yn yr hydref.

Roedd yn bleser gan Y Selar gynnig cyfle cyntaf i chi weld y diweddaraf o’r rhain, sef ‘Dau Gam’ neithiwr.