Pump i’r Penwythnos – 26 Tachwedd 2021

Gig: Bwncath  – Chwilog – 26/11/21

Un band sydd wedi bod yn ddigon prysur yn gigio ers i ddigwyddiadau byw ail-ddechrau ydy Bwncath, ac maen nhw ar lwyfan unwaith eto penwythnos yma.

Gallwch ddal yr hogia yn Y Madryn, Chwilog nos Wener am 20:00 ac mae’n werth manteisio ar y cyfle i gael pryd bach o fwyd yno hefyd rhwng 17:00 a 19:30 os allwch chi.

Roedd gig da i fod yn Llanrwst hefyd wrth i Mr (Mark Roberts) ddychwelyd adref, gyda chefnogaeth gan Y Cledrau. Yn anffodus bu’n rhaid gohirio’n hwyr yn y dydd gan fod un o’r band wedi profi’n bositif am Covid.

Ond y newyddion da ydy bod dyddiad newydd wedi’i gyhoeddi ar gyfer y gig, sef 14 Ionawr – ffordd wych o ddechrau’r flwyddyn.

 

Cân:  ‘Matholwch’ – Siddi 

Hyfryd iawn ydy clywed synau swynol Siddi unwaith eto wrth iddyn nhw ddychwelyd gyda’r sengl ‘Matholwch’.

Mae aelodau Siddi’n ddigon cyfarwydd i’r mwyafrif ohonom – dyma brosiect brawd a chwaer Branwen ‘Sbrings’ Williams ac Osian Huw Williams. Mae Branwen yn gyfarwydd fel aelod o sawl band gan gynnwys Blodau Papur, Cowbois Rhos Botwnnog a Candelas, tra bod Osian wrth gwrs yn fwyaf amlwg fel ffryntman Candelas.

Mae Siddi’n bodoli fel band ers amser maith, bron cyhyd â Candelas mae’n siŵr. Yn wir, os borwch chi trwy rifyn Y Selar Ebrill 2013, fe welwch chi bod Siddi wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf, Un Tro, cyn i Candelas ryddhau eu halbwm llawn cyntaf hwy.

Wrth gwrs, mae Candelas wedi mynd ymlaen i fod yn un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru gan ryddhau tri albwm stiwdio, tra’n bod ni’n dal i ddisgwyl record arall gan Siddi ers hynny.

Wedi dweud hyn, mae’r ddeuawd wedi parhau i gigio’n achlysurol, ac mae’r sengl newydd yn cynnig gobaith y gwelwn ni albwm arall ganddyn nhw rywdro.

Mae ‘Matholwch’ yn gweld Branwen ac Osian yn cyd-weithio gyda’r delynores Geltaidd dalentog o Awstralia, Siobhan Owen.

Os nad ydych chi wedi dyfalu eisoes, mae’r trac newydd sydd wedi’i ysbrydoli gan un o lawysgrifau enwocaf Cymru ac sy’n rhan o brosiect gan yr Eisteddfod Genedlaethol i bontio Cymru ac Awstralia.

Cafodd y tri eu cyfareddu gan y straeon yn Llyfr Gwyn Rhydderch, diolch i Maredudd ap Huw o Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae’r sengl ‘Matholwch’ ar gael yn ddigidol yn y mannau arferol, a hynny trwy label EG, sef label newydd yr Eisteddfod Genedlaethol, a label Siddi, Recordiau I KA CHING.

A mwy o newyddion da i di – bydd cân arall o’r cywaith, ‘Cylch Casineb’, yn cael ei rhyddhau’n fuan!

Mae fideos ar gyfer y ddwy gân ar gael i’w gwylio ar sianel YouTube yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda’r fideo ar gyfer ‘Matholwch’ wedi’i greu a’i gyfarwyddo gan Jonny Reed.

 

Record: Noeth – Eirin Peryglus

Cyfle perffaith i roi sylw i grŵp sydd ddim yn cael hanner digon ohono wythnos yma, sef Eirin Peryglus.

Nhw ydy’r grŵp diweddaraf o’r gorffennol i ryddhau eu holl gatalog yn ddigidol am y tro cyntaf ar y llwyfannau digidol arferol. Bydd eu cerddoriaeth, a ryddhawyd ar label chwedlonol Ofn, ar gael yn ddigidol ar 3 Rhagfyr.

Triawd oedd Eirin Peryglus a ffurfiodd yn 1986 – Robin ar yr allweddellau, Fiona’n canu ac Alun ar y gitâr. Chwaraeodd y tri eu gig cyntaf yn Awst y flwyddyn honno yn y digwyddiad chwedlonol ‘Tethau yn Ffrwydro gyda Mwynhad’ yn Aberystwyth.

Ar ôl rhyddhau cyfres o senglau ac EPs dros y blynyddoedd canlynol, rhyddhawyd unig albwm llawn y band, sef Noeth, ym 1992.

Roedd Eirin Peryglus yn unigryw, ac yn cael eu gweld yn arloesol fel grŵp oedd yn cyfuno cerddoriaeth electroneg gyda gitars ac alawon pop cryf drwy gyfrwng y Gymraeg.

Roedden nhw hefyd yn arloesol yn yr ystyr eu bod nhw wleidyddol yn eu cerddoriaeth, gyda chaneuon yn ymdrin â phynciau megis hawliau anifeiliaid a’r amgylchedd yn ogystal â gigs a chyfraniadau at gasgliadau gan fudiadau megis Cymdeithas yr Iaith, PAWB, Artists for Animals a mwy.

Mae’r albwm yn gofnod o’r grŵp ar ben eu gêm, wedi mireinio ac aeddfedu eu sŵn yn llawn. Mae’n cynnwys traciau gwych fel ‘Gwawd’, ‘Angerdd’, ‘Bregus Fyd’ ac efallai eu cân enwocaf, ‘Anial Dir’.

Dyma fideo anhygoel  ‘Bregys Fyd’:

 

Artist: Datblygu

 

Y band chwedlonol o Aberteifi, Datblygu, sy’n cael ein sylw wythnos yma, a hynny ar ôl iddyn nhw dderbyn Gwobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig eleni gan drefnwyr y Wobr  Gerddoriaeth Gymreig (Welsh Music Prize).

Go brin fod angen cyflwyniad ar y Wobr Gerddoriaeth Gymreig arnoch chi erbyn hyn, mae’r wobr a lansiwyd gan Huw Stephens a’r hyrwyddwr John Rostron wedi hen ennill ei phlwyf ers sawl blwyddyn.

Yn ogystal â’r brif wobr, ers 2018, mae’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig hefyd yn dyfarnu gwobr ychwanegol dan yr enw ‘Gwobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig’ – Meic Stevens oedd enillydd cyntaf y wobr honno, ac  roedd yn wych i weld Datblygu’n derbyn y wobr eleni.

Roedd albwm diwethaf Datblygu, Cwm Gwagle, wedi’i gynnwys ar restr fer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.

Wrth gwrs, ym mis Mehefin eleni, bu farw sylfaenydd a chanwr y grŵp, David R. Edwards yn 56 oed felly mae’n teimlo’n briodol iawn eu bod yn derbyn y wobr yma rŵan.

Dywedodd y trefnwyr eu bod yn cyflwyno’r wobr er cof am Dave ac eu bod yn falch iawn bod aelod craidd arall y grŵp, Pat Morgan, yn mynd i dderbyn y wobr yn y seremoni a gynhaliwyd yn The Gate, Caerdydd nos Fawrth diwethaf.

“Mae Datblygu wedi bod yn ysbrydoliaeth cyson ers iddynt ffurfio yn Aberteifi yn yr 80au cynnar” meddai trefnwyr y wobr wrth gyhoeddi’r newyddion ar eu cyfryngau ar-lein.

“Yn arbrofol, cyffrous ac yn parhau i ddatblygu, mae David R.Edwards a Patricia Morgan wedi creu albyms iconic, a dangos fod cerddoriaeth o Gymru’n gallu bod yn annibynnol o bopeth.

“Mae dylanwad Datblygu ar y sîn gerddoriaeth yn bell-gyrhaeddol, gyda John Peel a Super Furry Animals yn mynd a’u cerddoriaeth i gynulleidfaoedd newydd. Maent yn eiconau cerddoriaeth Gymraeg, a’u gweledigaeth yn rhyngwladol.”

Clywch clywch medd Y Selar.

Cyfle perffaith i ni unwaith eto rannu sgwrs Dave gyda Griff Lynch ar benwythnos Gwobrau’r Selar 2016 wrth i Datblygu dderbyn ein gwobr Cyfraniad Arbennig:

 

Un Peth Arall: Fideo ‘Pryderus Wedd’ gan Band Pres Llareggub

 Mae fideo newydd ar gyfer fersiwn Band Pres Llareggub o’r gân ‘Pryderus Wedd’ wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau cyfres Lŵp, S4C.

Rhyddhawyd y trac yn ddiweddar ar albwm newydd Band Pres Llareggub, ‘Pwy Sy’n Galw?’, sef eu fersiwn hwy o glasur o albwm y Big Leaves.

Mae’r albwm yn cynnwys nifer o westeion arbennig ar y traciau, gan gynnwys Ifan Pritchard o’r band Gwilym ar y gân ‘Pryderus Wedd’ ac mae Ifan yn ymddangos ar y fideo newydd hefyd.