Gig: Gŵyl Ara Deg – Neuadd Ogwen, Bethesda – 26-28/08/21
Mwy a mwy o gigs go iawn yn dechrau ymddangos rŵan does, a da o beth am hynny!
Ac yn sicr mae croeso mewn i’r ŵyl arbennig sy’n digwydd ym Methesda penwythnos yma, sef Gŵyl Ara Deg.
Lansiwyd yr ŵyl yn 2019 fel prosiect ar y cyd rhwng lleoliad Neuadd Ogwen ym Methesda, Focus Wales, a’r cerddor a ddaw’n wreiddiol o’r ardal, Gruff Rhys.
Fe’i cynhaliwyd yn wreiddiol ym mis Medi 2019 gyda cherddorion Cymreig a rhyngwladol yn perfformio mewn cyfres o gyngherddau yn lleoliad Neuadd Ogwen.
Eleni mae’r ŵyl yn dychwelyd dros dair noson ac wedi dechrau neithiwr. Gruff Rhys ei hun oedd yn agor yr ŵyl gyda chefnogaeth gan y gantores o Ddulun Aoife Nessa Frances
Dyma leinyp heno a nos fory:
27 Awst, 19:00
BRÌGHDE CHAIMBEUL
GWENIFER RAYMOND
CERYS HAFANA
28 Awst, 19:00
GWENNO
ISLET
PYS MELYN
Cân: ‘Gwenyn’ – Kathod
Grêt i weld ail sengl y prosiect difyr, Kathod, yn ymddangos ddydd Gwener diwethaf.
‘Gwenyn’ ydy enw’r trac newydd sy’n ddilyniant i’w sengl gyntaf, ‘Syniad o Amser’, a ryddhawyd ym mis Rhagfyr 2020.
Mae Kathod yn grŵp unigryw lle mae’r aelodau’n newid yn gyson wrth weithio ar ganeuon newydd.
Bethan Mai (Rogue Jones), Catrin Morris, Gwenno Morgan, Heledd Watkins (HMS Morris) a Tegwen Bruce-Deans sydd wedi bod yn gweithio ar y sengl ddiweddaraf.
Mae ‘Gwenyn’ yn cyfuno alawon pop breuddwydiol â chyfeiliant jazz dros guriadau electronig. Dyma chi gân sydd yr un mor debygol o wneud i chi i arnofio’n ddibryder trwy’r bydysawd, ag y mae hi i’ch arwain i’r chwyldro a’ch paratoi i newid y byd, un blaguryn ar y tro.
A rydan ni’n falch iawn i glywed mai darn o farddoniaeth gan enw cyfarwydd iawn i ni yma yn Y Selar, Tegwen Bruce-Deans, sydd wedi ysbrydoli’r trac newydd. Mae Tegwen wrth gwrs yn ysgrifennu’n rheolaidd i’r Selar.
Gallwch gael eich bachau ar y trac yn ddigidol ar safle Bandcamp Kathod.
Record: Pwy sy’n Galw? – Band Pres Llareggub
Wedi cyfnod cymharol dawel, mae’n dda gweld Band Pres Llareggub yn ôl gyda phedwerydd albwm y band sydd allan heddiw.
A hwythau wedi rhyddhau dau albwm o ganeuon gwreiddiol ers hynny, mae’r grŵp yn dychwelyd i’w gwreiddiau y tro hwn gyda fersiwn newydd o glasur o record hir Gymraeg, sef ‘Pwy Sy’n Galw?’ gan y Big Leaves.
Maen nhw eisoes wedi rhyddhau dwy sengl o’r casgliad er mwyn rhoi blas o’r hyn sydd i ddod sef ‘Synfyfyrio’ ym mis Gorffennaf ac yna ‘Meillionen’ gwpl o wythnosau nôl.
Ac wrth drafod yr albwm newydd daw’n amlwg bod sylfaenydd y grŵp, Owain Gruffudd Roberts, yn ffan mawr o waith Big Leaves.
“Pwy sy’n Galw?gan Big Leaves yw’r albwm orau iaith Gymraeg erioed.. heb os… a dyna pam neshi ddewis neud fersiwn gwbl newydd ohono…” meddai Owain.
“Beganifs oedd y band cyntaf i mi weld yn fyw erioed pan oni ryw 9 oed yn Ysgol y Garnedd. Bu iddynt wneud marc arnai.”
“Bu i Mwng [gan Super Furry Animals] a ‘Pwy sy’n Galw’ ddod allan yn agos iawn i’w gilydd. Ac er fod Mwng yn gasgliad gwych o ganeuon, mi ydw i o’r farn fod Pwy Sy’n Galw? efo caneuon hyd yn oed gwell!”
Nôl yn 2015, bu i Band Pres Llareggub ryddhau eu fersiwn ei hunain o albwm arloesol y Super Furry Animals, Mwng.
A hwythau wedi rhyddhau dau albwm gwreiddiol ers hynny, sef Kurn [2016] a Llareggub [2017] maent wedi dewis dychwelyd at wneud ad-drefniant o glasur Gymraeg arall y tro hwn. Roedd Big Leaves, a ffurfiodd yn Waunfawr ger Caernarfon, yn un o fandiau amlycaf Cymru trwy’r 1990au hyd iddynt chwalu yn 2003, ond Pwy Sy’n Galw? a ryddhawyd yn 2000 oedd eu hunig albwm cyfan gwbl yn yr iaith Gymraeg.
Y cynllun gwreiddiol oedd i ryddhau’r albwm yn 2020 i ddathlu ugain mlynedd ers y gwreiddiol. Ond yn amlwg, oherwydd Covid-19 bu’n rhaid newid cynllun.
Mae’r broses o ail-drefnu ac ail-recordio’r albwm wedi bod yn un llafurus ac anodd, nid yn unig y gwaith ail-drefnu’r holl gerddoriaeth ar gyfer ensemble pres ond hefyd y ffaith fod Owain, y cyfansoddwr a chynhyrchydd, yn byw yn Llundain. Mae’r albwm wedi gwneud defnydd o dros 16 gwahanol leoliad ac wedi dibynnu’n drwm ar dechnoleg fodern digidol i allu rhannu traciau yn electronaidd dros y rhyngrwyd.
Mae’r artistiaid gwadd ar yr albwm yn dangos doniau amryw o gantorion y mae’r band wedi cyd-weithio gydag o’r blaen, fel Mared Williams a Tara Bethan. Ond mae hefyd lleisiau newydd i’w clywed ymysg y traciau, gan gynnwys neb llai nag Yws Gwynedd, a hefyd Ifan Pritchard o’r band Gwilym, Katie Hall o Chroma a Rhys Gwynfor. Fe gawn Eädyth Crawford yn dangos ei doniau ar ‘Meillionen’ a hefyd ei chwaer Kizzy ar y trac canlynol, ‘Whistling Sands’.
Mae’r albwm allan yn ddigidol ac ar feinyl, a gallwch archebu ar safle Bandcamp Band Pres Llareggub.
Dyma fersiwn B.P.Ll. o un o ganeuon enwocaf yr albwm, ‘Seithenyn’, gyda Tara Bethan yn westai arbennig:
Artist: FRMAND
Boi digon prysur ar hyn o bryd ydy’r cynhyrchydd electronig o Langrannog, FRMAND.
Wythnos diwethaf fe ryddhaodd ail-gymysgiad o fersiwn Band Pres Llareggub o ‘Meillionen’, ac mae nôl gyda sengl arall yr wythnos hon sy’n ei weld yn cyd-dweithio gyda’r cynhyrchydd Jardinio.
‘Dau Gi’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label FRMAND ei hun, sef Recordiau Bica.
Dyma’r ddiweddaraf mewn cyfres o senglau mae FRMAND wedi’u rhyddhau ar y cyd ag artistiaid eraill ers ymddangos gyntaf yn 2018.
Cynhyrchydd ac artist cerddoriaeth electronig a house o Langrannog ydy FRMAND ac yn y gorffennol mae wedi cyd-weithio gydag artistiaid sy’n cynnwys Mabli, Sorela a Lowri Evans.
Y tro hwn ei bartner cerddorol ydy Jardinio, sef enw llwyfan Dan Jardine sy’n gyflwynydd, newyddiadurwr a chynhyrchydd.
Bwriad FRMAND ydy hyrwyddo cerddoriaeth ddawns iaith Gymraeg trwy ryddhau traciau ac ailgymysgiadau ar draws sawl genre yn yr iaith. Mae’r cynhyrchydd yn gwbl o ddifrif am ei gerddoriaeth, ond eglura fod y trac diweddaraf wedi dechrau fel ychydig o hwyl.
“Dechreuodd y prosiect fel bach o sbort i fod yn onest” meddai FRMAND am y sengl.
“O’n i wedi clywed y stori am y ‘ddau gi bach’ nifer o weithiau wrth dyfu lan yng Nghymru, ac er bod y stori wreiddiol yn un i blant, mae’n gadael llawer o gwestiynau.
“Cwestiynau fel ‘sut wnaeth y ddau gi golli eu hesgidiau?’
“O’n i felly moen gwneud fersiwn o’r trac i oedolion sydd gyda mwy o ddirgelwch, ac mae clawr y sengl i fod portreadu’r ochr yma o’r stori. Ges i fy ysbrydoli i greu y gerddoriaeth tu ôl i’r geiriau ar ôl gwrando ar lwyth o gerddoriaeth electroneg y 90au, sef y cyfnod nes i dyfu lan ynddo, ac o’n i moen defnyddio synths sy’n rhoi effaith o ddirgelwch.”
Dyma ‘Dau Gi’:
Un Peth Arall: Rhifyn newydd Y Selar
Ie wir, mae rhifyn newydd sbon danlli o’r Selar wedi’i gyhoeddi ar-lein, a bydd y copïau print yn cyrraedd y mannau arferol yn fuan iawn!
Pys Melyn sydd ar glawr y rhifyn newydd, ac ymysg yr artistiaid eraill sy’n cael sylw mae Shamoniks, Ciwb, Owain Roberts a BOI.
Mae cwpl o golofnau difyr iawn gan Hywel Pitts a Kate Woodward yn y rhifyn hefyd, ynghyd â’r eitemau arferol ac adolygiadau o’r cynnyrch Cymraeg diweddaraf.