Pump i’r Penwythnos – 28 Mai 2021

Set rhithiol: Ar Dâp – 9Bach, Neuadd Ogwen, 26/05/21

Yr wythnos yma mae S4C wedi cyhoeddi manylion cyfres o sesiynau cerddoriaeth gyfoes ‘Ar Dâp’ fydd yn cael eu cyhoeddi ar lwyfannau Lŵp. Bydd 6 sesiwn Ar Dâp yn cael eu darlledu i gyd yn ystod 2021, gyda gyntaf allan ers dydd Mercher gyda 9Bach yn perfformio yn Neuadd Ogwen, Bethesda.

Bydd dwy sesiwn arall gyda 3 Hwr Doeth ac Yr Ods yn dilyn yn fuan iawn yn ystod mis Mehefin, gyda thair sesiwn bellach yn hwyrach yn y flwyddyn.

Mae’r gyfres newydd yn dod ar ôl llwyddiant cyfres ddiweddar Stafell Fyw lle darlledwyd pedwar gig fel ffrydiau byw ar-lein. Yr un criw sy’n gyfrifol am sesiynau Ar Dâp, ond y gwahaniaeth ydy mai un artist fydd yn perfformio bob tro, a hynny ar ffurf sesiwn arbennig yn hytrach na gig byw.

Dyma’r sesiwn gyntaf gyda’r grŵp gwerin amgen 9Bach:

 

Cân:  ‘Cydraddoldeb i Ferched’ – Eädyth

Rydyn ni wedi dweud hyn sawl gwaith dros y misoedd diwethaf, ond go brin fod llawer o artistiaid cerddorol mwy gweithgar nag Eädyth dros y flwyddyn ddiwethaf…mewn unrhyw iaith.

Roedd y gantores dalentog, a dderbyniodd ‘Wobr 2020’ Gwobrau’r Selar yn gynharach eleni, yn ddewis ardderchog ar gyfer rhannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd wythnos diwethaf felly.

Fe wnaeth hynny trwy gyfrwng cân wrth gwrs, sef ‘Cydraddoldeb i Ferched’, sy’n cyfuno geiriau Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru gyda cherddoriaeth wych Eädyth.

Lluniwyd geiriau Neges Heddwch 2021 gan griw o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe gyda chefnogaeth y bardd a’r awdur Llio Maddocks, yn dilyn gweithdy ‘Cydraddoldeb i Ferched’ o dan ofal Gwennan Mair, sef Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd.

Mae’r Neges Heddwch wedi’i chyfieithu i 65 o ieithoedd hyd yma – y nifer mwyaf erioed yn hanes hir y Neges.

“Dw i wir yn teimlo fod geiriau ‘Cydraddoldeb i Ferched’ yn rai hynod amserol, ac wrth eu darllen, ro’n i’n medru uniaethu â nhw yn llwyr,”meddai Eädyth.

“Mae hi wedi bod mor braf cael bod yn rhan o gyhoeddi’r Neges Heddwch eleni, ac mae’n gyffrous meddwl y bydd y Neges yn cael ei darllen a’i chlywed ar draws y byd.”

Mae prysurdeb Eädyth yn parhau wythnos yma hefyd wrth iddi ryddhau ei sengl ddiweddaraf heddiw, sef ‘Inhale / Exhale’.

 

Record: Y Record Goch – Recordiau Lliwgar

Does dim albyms newydd allan wythnos yma, felly mae’n gyfle perffaith i ni dyrchu nôl trwy’r archif a rhoi sylw i record a ryddhawyd union ddegawd yn ôl yn 2011.

Y record sy’n cael ein sylw ydy’r casgliad aml-gyfrannog Y Record Goch, a ryddhawyd gan label Recordiau Lliwgar.

Roedd cysyniad y record yn un gwych, jyst wrth i feinyl ddod nôl i ffasiwn ac rydan ni wedi gweld y cyfrwng hwnnw’n mynd o nerth i nerth dros y ddegawd diwethaf wrth i CDs fynd i’r cyfeiriad arall.

Yn gryno – record dwbl, gyda feinyl lliw a gwaith celf atyniadol, a dwy gân yr un gan bedwar o artistiaid gwych. Ar y record yma mae dwy gân yr un gan Dau Cefn, Y Bwgan, Sen Segur a Cowbois Rhos Botwnnog.

Bwriad gwreiddiol Recordiau Lliwgar oedd i gyhoeddi cyfres o’r casgliadau yma fyddai’n edrych yn brydferth iawn ar y shilff – mi wnaethon nhw gymharu’r peth gyda casgliad llyfrau Penguin ar y pryd. Mewn gwirionedd, dim ond un record arall ddaeth wedyn, sef Y Record Las rhyw ddwy flynedd yn ddiweddarach, ond roedd honno’n wych hefyd ac yn cynnwys traciau gan Ymarfer Corff, Llwybr Llaethog, H. Hawkline ac Ifan Dafydd.

Dim ond nifer cyfyngedig o gopïau o’r Record Goch oedd ar gael, ac mae pob un wedi gwerthu – maen nhw’n siŵr o fod yn gasgladwy iawn yn y dyfodol felly gofalwch am eich copi os oes un ganddoch chi. Er hynny, mae’r traciau ar gael yn ddigidol ar Bandcamp Recordiau Lliwgar.

Dyma’r gân sy’n agor y casgliad, sef yr ardderchog ‘Bish Bash Bosh’ gan Dau Cefn:

Artist: Annwn

‘Annwn? Pwy di Annwn?’ dwi’n eich clywed yn holi.

Wel, prosiect cyffrous iawn ydy Annwn sy’n gweld dau o gerddorion mwyaf dawnus ac amryddawn  Cymru’n cydweithio.

Y ddeuawd dan sylw ydy Lleuwen Steffan ac Ed Holden, ac maent yn lansio eu prosiect newydd wrth ryddhau sengl newydd o’r enw ‘Eto Fyth’ heddiw.

Mae’n debyg y bydd llawer ohonoch yn cofio bod y ddau wedi cyd-weithio ar y trac ‘Normal Newydd’ a ymddangosodd ar albwm diweddaraf Mr Phormula, Tiwns, a ryddhawyd fis Tachwedd. Mae honno wedi bod yn ffefryn ar y cyfryngau, a cymaint oedd mwynhad y ddau wrth ei recordio nes eu bod wedi penderfynu cyd-weithio ymhellach.

“Ar ôl i ni greu ‘Normal Newydd’, ddaru ni benderfynu creu mwy a rhoi enw i’r prosiect” eglurodd Lleuwen wrth Y Selar.

Mae Ed yn cytuno mai ‘Normal Newydd’ oedd yn gyfrifol am danio’r berthynas a’r prosiect newydd.

“Dwi’n nabod Lleuwen ers blynyddoedd, di gweithio llwyth efo hi yn y gorffennol ac o hyd wedi mwynhau cydweithio a chreu miwsic amgen efo hi” meddai Ed wrth Y Selar.

“Do’n i ddim yn disgwyl i ‘Normal Newydd’ gael cymaint o sylw, anhygoel!!

Felly wnaethon ni ddechra’ trafod ychydig mwy am y posibilrwydd o ella creu prosiect unigryw, gwahanol. Ar ôl trafod a datblygu syniadau mi wnaethon ni benderfynu symud ymlaen efo’r prosiect gan roi’r teitl ‘Annwn’ [sef ‘Otherworld’].”

“Y bwriad ydy bod ni’n creu cerddoriaeth hollol wahanol, ond gan blethu gwreiddiau a steil y ddau ohona ni ynddo fo.”

Dim ond y dechrau ydy ‘Eto Fyth’ yn ôl Ed, gydag addewid o lwyth o stwff i ddilyn.

 

Un Peth Arall: Fideo Mei Gwynedd

Fe ryddhaodd Mei Gwynedd ei sengl ddiweddaraf ‘Dyddiau Gwell i Ddod’ wythnos diwethaf, ac mae hefyd wedi cyhoeddi fideo bach da ar gyfer y trac fel rhan o’r ymgyrch hyrwyddo.

Yn ôl Mei mae’r sengl newydd, sef y drydedd o’i albwm nesaf, yn anthem bositif sy’n dathlu’r newid hir ddisgwyliedig sy’n digwydd yn ein bywydau ar hyn o bryd.

Un o ganlyniadau mwy positif y cyfnod clo ydy bod y fideo cerddoriaeth wedi dod yn gyfrwng pwysicach ar gyfer hyrwyddo caneuon, ac mae Mei wedi troi at y gwneuthurwr ffilm amlwg, Dyl Goch, er mwyn creu fideo ‘Dyddiau Gwell i Ddod’.

Mae Dyl Goch efallai’n fwyaf adnabyddus i ni am ei waith ar y ffilmiau dogfen amgen ‘Separado’ ac ‘American Interior’ gyda Gruff Rhys.