Gig: Bwncath – Neuadd Ty’n y Porth, Penmachno – 30/10/21
Ar ôl cwpl o benwythnosau’n llawn gwyliau dinesig, mae pethau fymryn yn dawelach yr wythnos hon.
Er hynny, mae ambell gig bach neis yn y calendr i chi.
Heno, yn Nhŷ Tawe Abertawe mae dau artist ifanc sydd wedi teithio lawr o’r gogs i berfformio, sef Morgan Elwy a Dafydd Hedd.
Yna nos fory, nôl yn y gogledd, bydd cyfle i ddal Bwncath yn chwarae yn Neuadd Ty’n y Porth ym mhentref Penmachno yn Nyffryn Conwy. Cofiwch chi, mae’r tocynnau i gyd eisoes wedi’u gwerthu ar gyfer hwn felly peidiwch teithio heb un rhag cael eich siomi.
Cân: ‘Dyma Kim Carsons’ – Y Dail
Byth ers i ni ddarganfod Y Dail yn yr hydref llynedd, mae’r Selar wedi bod yn cadw golwg fanwl ar y prosiect newydd.
Roedd cyfle cyntaf i weld fideo sengl gyntaf y grŵp, ‘Y Tywysog a’r Teigr’, yma ar wefan Y Selar a dilynodd ail sengl, ‘O’n i’n Meddwl Bod Ti’n Mynd i fod yn Wahanol’ ym mis Mai eleni.
Heddiw, mae cynnyrch diweddaraf y prosiect o Bentre’r Eglwys ger Pontypridd allan ar ffurf sengl ddwbl – ‘Dyma Kim Carsons’ a ‘The Piper Pulled Down The Sky’.
Y cerddor ifanc Huw Griffiths sy’n arwain y grŵp, ac roedd cyfle i’w weld yn perfformio set solo dan enw Y Dail yng Nghlwb Ifor Bach wythnos diwethaf fel rhan o gig lansio albwm Papur Wal.
“Fe wnes i recordio ‘The Piper Pulled Down the Sky’ a ‘Dyma Kim Carsons’ yn Rhagfyr 2020” eglurodd Huw wrth Y Selar.
“…ond achos cymhlethdodau Cofid ac arholiadau lefel A wnaethon ni ddim ond gorffen y cymysgu ym mis Awst.
“Mae geiriau’r ddwy gân wedi’u hysbrydoli gan William Burroughs – mae Kim Carsons yn gymeriad o’i nofel The Place of Dead Roads.”
Dyma ‘Dyma Kim Carsons’:
Record: Yn Rio – Carwyn Ellis & Rio 18
Does dim rhaid edrych ymhell am ein dewis o record yr wythnos hon gan fod unrhyw beth sydd â stamp Carwyn Ellis arno’n tueddu i fod o’r safon uchaf!
Ydy, mae trydydd albwm prosiect Carwyn Ellis & Rio 18 allan ers dydd Gwener diwethaf ac mae’n taenu ychydig o heulwen Rio de Janeiro dros hydref Cymru.
Datblygodd yr albwm ar hap i raddau wrth i Carwyn a’i fand dderbyn gwahoddiad i berfformio cyngerdd radio gyda Cherddorfa Genedlaethol y BBC i’w ddarlledu ar Radio Cymru ar ddiwedd 2020. Yn anffodus daeth ton arall o’r pandemig i chwalu’r cynlluniau wrth iddi ddod yn amlwg na fyddai modd i aelodau Rio 18 deithio i ymarfer a recordio.
Yn lle digalonni, penderfynodd Carwyn i addasu ei gynlluniau gan fynd ati i gyfansoddi casgliad newydd o ganeuon a dechrau eu recordio ar ben ei hun. Gyrrodd y recordiadau i’w gyd-gynhyrchydd, Shawn Lee, a ychwanegodd y drymiau ac offer taro yn ei stiwdio yntau’n Llundain cyn i aelodau eraill Rio 18 ychwanegu eu cyfraniadau hwythau o hirbell.
Gyda’r caneuon yn eu lle, aeth Carwyn ati i gyd-weithio gyda’r arweinwyr a threfnwyr cerddorfeydd, Owain Gruffudd Roberts a Christiaan Ovens o Frasil.
Mae’r albwm yn un gwirioneddol ryngwladol – mae’r geiriau yn y Gymraeg, mae aelodau Rio 18 yn dod o Frasil, America, Venezuela, Lloegr a Chymru. Mae’r albwm wedi’i gymysgu gan Ffrancwr (Pierre Duplan), wedi’i mastro gan Eidalwr (Andrea de Bernardi), ac yn cael ei ryddhau ar label o’r Almaen (Légère Recordings)!
Mae’r albwm yn un cysyniadol o fath, gyda’r caneuon i gyd yn cylchdroi’n fras o gwmpas diwrnod yn Rio de Janeiro. Recordiwyd dau albwm cyntaf Rio 18 yn y ddinas honno ym Mrasil wrth gwrs.
Perfformiodd Carwyn y caneuon hyn gyda Cherddorfa Genedlaethol BBC Cymru yn cael ei arwain gan Owain Gruffudd Roberts ar 21 Mawrth 2021, ac fe’i darlledwyd y diwrnod canlynol ar BBC Radio Cymru.
Campwaith arall gan yr athrylith Carwyn Ellis felly.
Dyma ‘Y Ferch Ar Y Cei’ isod sy’n adlewyrchu ar y gerdd gan y bardd enwog T. H. Parry Williams a ysgrifennwyd ar ôl iddo ymweld â Brasil 100 o flynyddoedd yn ôl. Nina Miranda sy’n perchen ar y llais hyfryd a glywir ar hon…
Artist: Catrin O’Neill
Wrth iddi ryddhau ei sengl newydd ddydd Gwener diwethaf, dyma gyfle perffaith i roi sylw i’r gantores ddawnus Catrin O’Neill yr wythnos hon
‘Tyddyn y Gwin’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Sain, ac fel sawl artist arall yn ddiweddar mae Catrin wedi mynd ati i ymdrin â’r argyfwng tai mewn rhannau o Gymru sy’n denu tipyn o sylw ar hyn o bryd.
Mae Catrin yn byw yn Aberdyfi, sef cymuned lle mae dros 60% o’r tai yno’n ail gartrefi neu’n dai gwyliau.
Mae’r sefyllfa’n adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd mewn sawl rhan arall o Gymru ar hyn o bryd, yn enwedig yng nghefn gwlad, a llawer o’r bobl leol yn teimlo fel dieithriaid yn eu cymunedau. Dyma’r ysbrydoliaeth i’r sengl newydd.
“O’n i’n arfer teimlo mor anobeithiol am yr hyn yr oeddwn yn ei weld yn digwydd i’n pentref hardd” meddai Catrin.
“Ond rwy’n gwrthod eistedd a chrio am hyn mwyach. Yn lle hynny rwyf am ddefnyddio fy nghrefft a’m hegni i greu newid cadarnhaol…”
Mae Catrin wedi mynd ati i wneud rhywbeth ymarferol am y sefyllfa. Yn ystod y cyfnod clo daeth i gysylltiad â Steve a Clara Wilson ac ynghyd â chriw o bobl eraill oedd â theimladau tebyg, aethant ati sefydlu’r Siarter Cyfiawnder Cartrefi, er mwyn ymgyrchu dros yr argyfwng tai presennol.
Cantores werin ydy Catrin ac mae’n diolch i’w Nain am ei chyflwyno i’r gerddoriaeth hwnnw pan oedd yn ferch fach. Mae’n chwarae nifer o offerynnau traddodiadol gan gynnwys y delyn, y ffidil, bouzouki a chwiban.
Er mai’n unigol mae Catrin yn perfformio’n bennaf, mae hefyd yn brif ganwr y grŵp gwerin poblogaidd, Allan yn y Fan, a hefyd yn aelod o’r grŵp 10 Mewn Bws.
Mae rhyddhau’r sengl yn benllanw blwyddyn heriol i’r gantores.
“Mae wedi bod yn daith ddiddorol dros y flwyddyn ddiwethaf” meddai’r gantores.
“O deimlo mor ynysig a heb obaith, i gwrdd â phobl ysbrydoledig ac angerddol a chreu’r Siarter, yna allan o hynny gweld y gân hon yn dod yn fyw, cân sydd wedi ei hysbrydoli gan y cariad a rannwn dros ein cymunedau a’u hiaith.”
Gobeithio y gwelwn ni fwy o gerddoriaeth gan Catrin yn y dyfodol agos ond am y tro, dyma ‘Tyddyn y Gwin’:
Un Peth Arall: Ar Dâp Yr Eira
Rydan ni wedi bod yn mwynhau cynnyrch Lŵp @ S4C dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf, yn enwedig felly gigs Stafell Fyw ac yn fwy diweddar cyfres ardderchog Ar Dâp.
Mae’r bennod ddiweddaraf o’r gyfres Ar Dâp ar gael i’w gwylio ar-lein ers nos Fercher, ac yn hon rydan ni’n gweld Yr Eira’n perfformio yn Neuadd Ogwen, Bethesda.