Pump i’r Penwythnos – 29 Ionawr 2021

Set rhithiol: Ifan Pritchard – Sesiwn Gorwelion, Y Galeri – 28/01/21

Mae’n Wythnos Lleoliad Annibynnol yr wythnos hon, ond wrth gwrs mae’r lleoliadau hynny i gyd ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd sy’n siom mawr i bawb.

Er hynny, mae’n hollbwysig ein bod ni’n cofio am y lleoliadau hyn sy’n gwbl hanfodol i’r diwydiant cerddoriaeth, ac i ddatblygiad artistiaid cerddorol.

Chwarae teg i gynllun Gorwelion y BBC, maen nhw wedi mynd ati i ddathlu cyfraniad  y lleoliadau hyn yng Nghymru trwy gynnal cyfres o sesiynau trwy gydol yr wythnos sy’n cael eu darlledu o bump lleoliad ledled y wlad.

Ddoe, fe gyrhaeddodd y daith Ogledd Cymru ac un o’r artistiaid oedd yn perfformio yn y Galeri, Caernarfon oedd Ifan Pritchard o’r grŵp Gwilym. Mae darn o’i set isod, ond gallwch wylio’n llawn ar wefan Gorwelion.

Mae’r gyfres yn ymweld â Neuadd Ogwen ym Methesda heddiw, gyda setiau gan Alffa, Malan ac Ennio the Little Brother am hanner dydd.

 

Cân: Crio Tu Mewn’ gan Sywel Nyw a Mark Roberts

Heddiw ydy dyddiad rhyddhau sengl newydd Sywel Nyw a’r cyntaf o gyfres fydd yn ei weld yn cyd-weithio gydag artistiaid eraill yn ystod 2021.

Sywel Nyw ydy prosiect unigol y cerddor a chynhyrchydd Lewys Wyn, sy’n gyfarwydd iawn fel gitarydd a phrif ganwr y grŵp poblogaidd Yr Eira.

‘Crio Tu Mewn’ ydy enw’r sengl newydd sy’n cynnwys ymddangosiad gan gerddor amlwg arall sef Mark ‘Cyrff’ Roberts, sydd wrth gwrs wedi bod yn aelod o sawl grŵp ond sydd bellach yn rhyddhau cerddoriaeth dan yr enw Mr.

Ac mae’r sengl yn dynodi dechrau prosiect uchelgeisiol fydd yn gweld Lewys yn cynhyrchu traciau gwreiddiol gyda deuddeg o artistiaid gwahanol o bob rhan o Gymru, gyda’r bwriad o ryddhau sengl newydd pob mis yn ystod y flwyddyn.

Cafodd ‘Crio Tu Mewn’ ei chyfansoddi gyda Mark Roberts, un o gyfansoddwyr amlycaf ei genhedlaeth, ac un a fu’n ddylanwad mawr ar Lewys o oedran cynnar. Fel aelod o’r Cyrff, Catatonia, Y Ffyrc, The Earth ac yn fwy diweddar Mr, mae Mark yn gyfrifol am gyfoeth o glasuron cyfoes.

Fel yr eglura Mark, gyda ‘Crio Tu Mewn’, cawn stori fer am freuddwyd annisgwyl.

“Pan glywais y synths a’r peiriant dryms yn chwarae’r patrymau breuddwydiol oedd Lewys wedi ei recordio, roeddwn yn gwybod beth oeddwn eisiau ei wneud” meddai Mark.

“Roeddwn yn teimlo fod y cordiau yn swnio’n nostalgic, ond mewn ffordd eithaf mecanyddol. Felly penderfynais ysgrifennu am rywbeth dynol: rhamant, cariad a cholled.”

Record: Atgof Prin – Glain Rhys

Cyhoeddwyd yr wythnos hon bod Glain Rhys yn rhyddhau ei sengl newydd wythnos nesaf, sef ‘Plu’r Gweunydd’, a bydd cyfle cyntaf i weld y fideo ar wefan Y Selar cyn hynny.

Y newyddion arall oedd bod Glain bellach wedi ymuno â stabl label Recordiau I KA CHING, gan adael Rasal a ryddhaodd ei halbwm cyntaf yn 2018.

Mae’r ddau ddarn o newyddion yn esgus digonol i ni fwrw golwg nôl ar yr albwm hwnnw, sef Atgof Prin.

Daw Glain o ardal Y Bala yn wreiddiol wrth gwrs, ac mae’n adnabyddus hefyd fel cantores ar lwyfannau’r sioeau cerdd. Yn wir, roedd ar ganol rhediad o’r sioe ‘Phantom of the Opera’ yng ngwlad Groeg pan alwyd y cyfnod clo yn y gwanwyn.

Creoedd ei halbwm dipyn o argraff wrth gael ei ryddhau yng Ngorffennaf 2018, ac roedd sgwrs gyda Glain rhwng cloriau cylchgrawn Y Selar yr haf hwnnw. Mae’r casgliad yn un digon amrywiol sy’n pontio dipyn o amser cyfansoddi, ond mae dylanwadau gwerinol Glain, ynghyd â’i hoffter o sioeau cerdd yn glir i’r glust.

Mae sawl trac o’r casgliad wedi bod yn ffefrynnau ar lwyfannau byw Cymru ers hynny, yn ogystal ag ar y tonfeddi – ‘Gêm o Genfigen’, ‘Dim Man Gwyn’ a ‘Haws ar Hen Aelwyd’ efallai’n fwyaf amlwg.

Mae’n debyg bod Glain wedi’i chael hi’n her cyfansoddi dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf ond bod yr awen wedi taro o’r diwedd yn ystod y cyfnod clo – cymaint felly nes bod sôn am albwm newydd erbyn yr haf. Bydd hi’n ddifyr gweld sut mae sŵn y sengl newydd yn cymharu i hwnnw ar yr albwm cyntaf.

Dyma ‘Dim Man Gwyn’:

 

Artist: Mali Hâf 

Enw newydd…neu efallai rhannol newydd…ond wyneb fydd yn gyfarwydd i nifer ydy Mali Hâf.

Mae’r gantores ifanc wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf gyda label UDISHIDO.

‘Refreshing/Ffreshni’ ydy enw’r trac newydd sy’n ddilyniant i’r gân ‘Aros Funud’ a gyfansoddodd ar gyfer cystadleuaeth Cân i Gymru 2019, ond bryd hynny roedd y gantores yn perfformio dan yr enw Mali Melyn.

Merch o Gaerdydd ydy Mali ac mae wedi bod yn astudio yng Ngholeg Cerdd Leeds. Er hynny, galwodd hiraeth hi’n ôl i Gaerdydd i geisio datblygu ei gyrfa gerddorol. Daeth y symudiad ychydig yn gynharach na’r bwriad oherwydd Covid a’r clo mawr, a gyda hynny penderfynodd newid ei henw llwyfan o Mali Melyn i’w henw gwreiddiol, Mali Hâf.

Mae ‘Refreshing / Ffreshni’ yn gân am berthynas iach, boed gyda pherson arall neu gyda natur. Dyma berthynas lle mae yna ymddiried a pharch a siawns o fod yn unigolyn creadigol heb ragfarn.

Mae’r sengl hefyd yn ddechrau ar gydweithrediad newydd gyda’r cynhyrchydd, DJ a cherddor Shamoniks, neu Sam Humphreys, sy’n gyfarwydd fel aelod o Calan ac am ei waith diweddar gydag Eädyth.  Mae’r ddau eisoes wedi gweithio ar nifer o gyfansoddiadau newydd felly gobeithio y gallwn ni ddisgwyl gweld tipyn mwy gan Mali’n fuan.

 

Un Peth Arall: Sgwrs ‘Cofio Gigs?’

 Ia wir, oes ‘na unrhyw un yn cofio gigs go iawn erbyn hyn?

Anodd credu ei bod hi’n agosáu at flwyddyn ers cynnal Gwobrau’r Selar yn Aberystwyth llynedd, sef mae’n siŵr y gig Cymraeg mawr diwethaf cyn y clo mawr.

Mae’n debyg bod yr ysgogiad dros enw digwyddiad rhithiol nos Fercher nesaf yn ymestyn yn dipyn ehangach na’r flwyddyn ddiwethaf, ond mae galw’r sesiwn yn ‘Cofio Gigs?’ yn teimlo’n briodol iawn ar hyn o bryd.

Jyst cyn Gwobrau’r Selar llynedd digwydd bod, ar Ddydd gMiwsi Cymru yn Chwefror 2020 fel lansiwyd prosiect #poster2020 gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bwriad y prosiect oedd casglu posteri gigs a ffansins pop Cymru, a nos Fercher 3 Chwefror bydd digwyddiad rhithiol gan y Llyfrgell i nodi blwyddyn ers lansio’r prosiect.

Asgwrn cefn y digwyddiad fydd sgwrs lle bydd Nia Mai Daniel (Yr Archif Gerddorol Gymreig) yn edrych yn ôl ar yr apêl ac yn trafod trefnu gigs, dylunio posteri a chasglu ffansîns gyda Rhys Mwyn (Radio Cymru), yr arlunydd Efa Lois, a’r casglwr ffansîns Rhys Williams.

Mae’r tocynnau am ddim, a gallwch eu harchebu ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol ymlaen llaw.