Pump i’r Penwythnos – 3 Medi 2021

Gig: Gŵyl Ara Deg – Neuadd Ogwen, Bethesda – 26-28/08/21

Bethesda ydy’r lle i fod am gigs byw, yn y cnawd, ar hyn o bryd yn sicr. Gŵyl Ara Deg yn Neuadd Ogwen wythnos diwethaf, a’r penwythnos yma mae Gig Noson Ogwen yn y Clwb Rygbi.

Y cerddor ifanc Dafydd Hedd sy’n trefnu fel rhan o Ŵyl Bro prosiect Bro360 ac mae’r dyn ei hun ar y lein-yp sy’n ddathliad o dalentau lleol.

Yr artistiaid eraill sy’n perfformio ydy Yazzy, Adam Boggs, Orinj a CAI.

Bydd y noson yn dechrau am 19:00 a dim ond £5 ydy tocyn – bargen!

 

Cân:  ‘Hir Oes i’r Cof’ – Breichiau Hir

Mae’r ardderchog Breichiau Hir wedi rhyddhau eu sengl newydd ddoe, gan gyhoeddi hefyd ddyddiad rhyddhau ar gyfer eu halbwm llawn cyntaf wrth wneud hynny.

Hir Oes i’r Cof ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan y chwechawd roc o’r brifddinas, ac mae’n damaid i aros pryd nes rhyddhau’r albwm ar 19 Tachwedd eleni ar label Recordiau Libertino.

Fel y byddech chi’n disgwyl, mae’n dipyn o diwn gan y grŵp o Gaerdydd ac mae stori benodol iddi yn ôl y prif ganwr, Steffan Dafydd

“Mae’r teitl ‘Hir Oes i’r Cof’ yn seiliedig ar rywbeth nes i glywed (neu efallai ei gam-glywed) gan hen ddyn yn dweud araith am yr ardal lle fy magwyd” eglura Steffan.

“Mae’r gân yn trafod natur gaethiwus edrych yn ôl, y cysur a’r dianc sydd ynghlwm â nostalgia, wedi’i gyfuno a’r tristwch diddiwedd sy’n dod o’r ddealltwriaeth na alli di wir ail-fyw atgofion y gorffennol, ac y mwyaf ti’n ail-fyw dy atgofion, y mwyaf maent yn newid.”

Mae Breichiau Hir wedi bod yn fywiog iawn dros y blynyddoedd diwethaf gan ryddhau cynnyrch yn rheolaidd, ond yr albwm ym mis Tachwedd fydd eu record hir lawn gyntaf.

Ar ôl rhyddhau eu EP cyntaf ‘Mae’r Angerdd Yma yn Troi yn Gas’ yn 2015, bu iddynt ryddhau cyfres o senglau unigol yn cynnwys ‘Mewn Darnau/Halen’ (2018), ‘Portread O Ddyn Yn Bwyta Ei Hun’ (2018), ‘Penblwydd Hapus Iawn’ (2019), ‘Yn Dawel Bach / Saethu Tri’ (2019), ‘Preseb o Ias’ (2020) ac yn fwyaf diweddar eu fersiwn o’r clasur gan Bryn Fôn ‘Y Bardd o Montreal’ (2020).

Mae ‘na fideo i gyd-fynd â’r sengl newydd hefyd, a hwnnw wedi’i ffilmio a golygu gan Rhys Evans a’r grŵp:

 

Record: Cainc – Gwyneth Glyn

Rydan ni am fwrw golwg nôl mewn amser i argymell albwm i chi’r wythnos hon, gan neidio nôl deng mlynedd i 2011.

Un o’r albyms a ryddhawyd yr haf hwnnw oedd Cainc gan y canwr-gyfansoddwr ardderchog Gwyneth Glyn.

Roedd Gwyneth wedi hen wneud enw i’w hun erbyn hynny – Cainc oedd ei thrydydd albwm llawn gan ddilyn Wyneb Dros Dro yn 2005 a Tonau yn 2007.

Mae’n werth bwrw golwg nôl ar gyfweliad Casia Wiliam gyda Gwyneth yn rhifyn Mehefin 2011 o’r Selar. Mae Gwyneth wrth gwrs yn fardd hefyd ac mae tipyn o straeon difyr tu ôl i nifer o ganeuon yr albwm sy’n cynnwys ‘Wbanamadda’, ‘Dancin Bêr, ‘Ferch y Brwyn’ a ‘Lle Fyswn i’ fel rhai o’r uchafbwyntiau.

Ffaith ddifyr arall i chi am y record – y cartwnydd Huw Aaron sy’n gyfrifol am waith celf cofiadwy y clawr sy’n serennu’r ‘Dancin Bêr’ enwog hwnnw.

Mae modd i chi wrando ar yr albwm yn llawn, neu ei brynu’n ddigidol, ar safle Bandcamp Gwyneth Glyn ac mae’n werth cymryd yr amser i wneud hynny dros y penwythnos.

Dyma’r trac sy’n cloi y casgliad gwych yma, ‘Lle Fyswn i’:

Artist: Geraint Rhys

Un o gerddorion mwyaf cynhyrchiol Cymru ydy Geraint Rhys ac mae ei sengl Gymraeg newydd allan heddiw.

‘Gyda Ni’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y canwr-gyfansoddwr o Abertawe, ac yn wir mae’r gân yn deyrnged i’r ddinas honno.

Ar gyfer ei drac diweddaraf mae Geraint, sy’n sicr ddim yn ofni arbrofi gyda genre’s gwahanol, yn troi at sŵn pop i adlewyrchu’r awyrgylch hafaidd sy’n wraidd i neges y gân.

Dyma drac i danio’r atgofion o fod lawr ar y traeth, gyda’r bobl bwysicaf yn rhyfeddu at natur a does dim lle gwell i wneud hynny nag yn Abertawe yn ôl Geraint.

“Fel rhywun o Abertawe sy’n byw digon agos i’r traeth i gerdded yna, drwy gydol fy oes mae wedi bod yn le i gynnig cysur. Yn enwedig yn ystod y cyfnod clo” meddai Geraint.

“Mae cysylltu gyda natur yn mor bwysig i fi a fy lles meddwl. Fi’n lwcus iawn i fyw yn Abertawe, yn agos i’r 5 milltir o fae sy’n ymestyn o’r dociau i’r Mwmblws.

“Pryd bynnag mae bywyd yn teimlo’n drwm mae dianc i’r traeth yn foddion i’r enaid ac felly fe wnes i ysgrifennu’r trac yma i adlewyrchu’r rhyddid syml sydd yn dod o weld y môr a’r traeth.

“Mae’r geiriau yn rai eitha ysbrydol sydd yn trin y berthynas rhwng pobl a natur fel un sanctaidd a hudol.

“Trwy’r gerddoriaeth dwi hefyd wedi ceisio creu awyrgylch yr haf, a wnes i weithio gyda’r cynhyrchydd Dai Griff i greu trac sydd yn fywiog a llawn gobaith.”

Dyma ‘Gyda Ni’:

 

Un Peth Arall: Fideo ‘Arthur’ gan Papur Wal

Mae pawb yn hoffi Papur Wal tydyn. Wel beth sydd ddim i’w hoffi? Tiwns bachog a chofiadwy, a fideos lliwgar hwyliog i gyd-fynd â bron pob un.

Mae sengl ddiweddaraf y triawd, ‘Arthur’, allan ers wythnos diwethaf ac oes wir mae ‘na fideo gwych i gyd-fynd â’r trac.

Trac dwyieithog ydy hon, ac mae’n deyrnged at gyfeillgarwch yn ôl y grŵp ac wedi’i ysbrydoli gan ddigwyddiad go iawn. Mwy am hynny yn ein stori newyddion am y trac.

Billy Baglihole sy’n gyfrifol am y fideo, sef cyfarwyddwr  cyfarwydd iawn i Papur Wal sydd hefyd wedi bod yn gyfrifol am fideos ardderchog ‘Yn y Weriniaeth Tsiec’ a ‘Meddwl am Hi’.

Dyma’r fid:

Prif lun: Steff Dafydd, Breichiau Hir (@ Gwobrau’r Selar, Chwefror 2020)