Set rhithiol: Lleisiau Eraill Aberteifi @ Lŵp
Byddwch yn cofio i ni roi rhywfaint o sylw i arlwy cerddorol Lleisiau Eraill Aberteifi pan gynhaliwyd yr ŵyl yn rhithiol fel rhan o ‘Gŵyl 2021’ ddechrau mis Mawrth.
Ers hynny, mae rhaglen uchafbwyntiau Lleisiau Eraill Aberteifi wedi bod ar y teledu gyda Kizzy Crawford a Huw Stephens yn cyflwyno rhaglen arbennig ar Lŵp, S4C.
Dros y dyddiau diwethaf, mae Lŵp wedi bod yn ddigon caredig i lwytho perfformiadau unigol yr ŵyl ar eu sianel YouTube i ni allu eu mwynhau pryd bynnag y mynno ni.
Mae’r fideos yn cynnwys caneuon unigol gan The Gentle Good, Catrin Finch a’r ardderchog Ani Glass. Dyma ‘Mirores’:
Cân: ‘Cael Chdi Nôl’ – BOI
Mae sengl gyntaf y siwpyr grŵp newydd, BOI, allan heddiw.
BOI ydy band newydd dau o gyn-aelodau Beganifs a Big Leaves, sef Osian Gwynedd a Rhodri Sion. Ac er mwyn gwneud y grŵp yn wirioneddol siwpyr maen nhw wedi mynd ati i recriwtio tri cherddor arall amlwg iawn sef Heledd Mair Watkins (HMS Morris) ar y gitâr fas, Ifan Emlyn (Candelas) ar y gitâr, a Dafydd Owen (Bob, Sibrydion) ar y drymiau.
‘Cael Chdi Nôl’ ydy enw’r sengl newydd, a dyma ydy’r blas cyntaf o’u halbwm, Coron o Chwinc, fydd allan ar 25 Mehefin.
Maen nhw eisoes wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y sengl, a bellach mae modd i chi brynu’r trac, a rhag archebu’r albwm, ar safle Bandcamp BOI.
Record: Hanner Cant – Hap a Damwain
Mae’r Selar wedi bod yn cadw golwg fanwl ar grŵp amgen o’r gogledd, Hap a Damwain, dros y deunaw mis diwethaf ac wrth ein bodd i glywed bod eu halbwm cyntaf allan fory, 1 Mai.
Hanner Cant ydy enw’r record hir sy’n cael ei rhyddhau’n arbennig ar Ddiwrnod y Gweithwyr, ac mae’n ddilyniant i’r ddau EP a ryddhawyd yn ddigidol gan y grŵp llynedd – ‘Ynysig #1’ a ryddhawyd ym mis Mai, ac ‘Ynysig #2’ a ryddhawyd fis yn ddiweddarach ym Mehefin 2020.
Hap a Damwain ydy dau o gyn aelodau’r grŵp o’r 80au/90au cynnar, Boff Frank Bough, sef Simon Beech (cerddoriaeth, cynhyrchu, offerynnau a thechnoleg) ac Aled Roberts (geiriau, llais a chelf).
Yn briodol iawn o ystyried enw’r casgliad, bydd nifer cyfyngedig o 50 o gopïau CD yn cael eu rhyddhau yn ogystal â’r fersiwn digidol, ac mae modd prynu rhain ar safle Bandcamp y grŵp am ddim ond £6 – bargen!
Recordiwyd y caneuon i gyd yn ystod y cyfnod clo rhwng mis Mawrth 2020 a Mawrth 2021, a hynny ym Mae Colwyn trwy ryfeddodau ffrind gorau pawb dros y flwyddyn ddiwethaf, Zoom.
Rhyddhawyd ‘Mam Bach’ fel sengl i roi blas o’r albwm ym mis Mawrth:
Artist: The Gentle Good
Heb amheuaeth, mae The Gentle Good, neu Gareth Bonello i ddefnyddio ei enw bedydd, yn un o’n hoff gerddorion…ac yn un o’n hoff bobl i ddweud y gwir…yma yn Selar HQ. Oes ‘na roi mwy dymunol yn creu cerddoriaeth ar hyn o bryd?
Roedden ni wrth ein bodd felly i glywed fod ganddo sengl newydd allan wythnos diwethaf, a bod rhyddhau’r trac yn rhan o lansiad ymgyrch gwerth chweil newydd gan RSPB Cymru.
‘Adfywio’ ydy enw’r trac newydd gan gyn enillydd Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, ac sy’n rhan bwysig o lansiad ymgyrch ‘Revive Our World’ gan yr RSPB. Nid yw’n syndod gweld Gareth yn cefnogi ymgyrch o’r fath gan ei fod, yn ogystal â bod yn gerddor, yn adnabyddus fel adaregydd hefyd. Ac yn wir, mae’r RSPB yn agos iawn i’w galon.
“Mae natur wedi bod yn rhan hanfodol o’m mywyd erioed “eglurodd Gareth.
“Dechreuais wirfoddoli gyda’r RSPB pan oeddwn yn 14 oed, yna es ymlaen i astudio Sŵoleg yn y brifysgol. Gweithiais yn am gyfnod fel adaregydd proffesiynol ac mae natur bob amser wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi fel cyfansoddwr.”
Nod yr ymgyrch gan RSPB Cymru ydy gwthio am dargedau, wedi’u hymrwymo’n gyfreithiol, er mwyn adfer byd natur erbyn 2030, ac am adferiad gwyrdd ar draws y DU yn dilyn y pandemig.
Wrth gwrs, o adnabod y cerddor meddylgar, nid yw’n syndod bod geiriau’r gân yn addas iawn ar gyfer y testun, a bod neges arbennig sy’n plethu chwedlau Celtaidd gyda sefyllfa amgylcheddol yr oes bresennol.
“Mae’r gân yn benthyg adar cyfriniol y dduwies Geltaidd Rhiannon, adar sy’n gallu canu pobl i gysgu ac adfywio’r meirw.
“Doeddwn i ddim eisiau cuddio’r ffaith ein bod ni yng nghanol argyfwng hinsawdd, a bod yr amser hwnnw’n araf dod i ben i drawsnewid y difrod rydyn ni wedi’i greu. Rhaid inni ddod o hyd i ffordd o fod yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd ac mae’r gân yn pwysleisio’r cyfrifoldeb hwnnw.
“Rwy’n angerddol am natur a chadwraeth ac roeddwn i’n gyffyrddus iawn yn ysgrifennu Adfywio. Daeth y fersiwn Gymraeg yn gyntaf ond rwy’n hapus iawn bod y geiriau Saesneg yn cyd-fynd cystal â’r alaw. Oherwydd rheolau cloi i lawr a’r pandemig parhaus, recordiais y gân gyfan gartref, a oedd yn eithaf heriol ond rhoddodd amser i mi ddysgu llawer hefyd.”
Dyma ‘Adfywio’:
Un Peth Arall: Sesiwn Lŵp Morgan Elwy
Mae Morgan Elwy fel petai wedi bod ym mhobman yn ddiweddar, ac wythnos diwethaf roedd fideo sesiwn arbennig ganddo ar lwyfannau amrywiol cyfres Lŵp S4C.
Yn y sesiwn mae Morgan yn perfformio ei sengl ddiweddaraf, ‘Curo ar y Drws’ sydd allan ar label recordiau Bryn Rock ers wythnos diwethaf.
Dyma’r fid: