Gig: Eisteddfod Gudd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth – 31/07/21
Fel arfer bydden ni’n paratoi am wythnos yn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw, ond am yr ail flwyddyn yn olynol fydd dim Eisteddfod yn ei ffurf arferol eleni.
Er hynny, mae Eisteddfod Amgen gyda chyfres o weithgareddau a digwyddiadau sy’n ymdebygu i’r hyn fyddai’n digwydd yn yr Eisteddfod fel arfer.
Un o’r uchafbwyntiau ydy gigs Eisteddfod Gudd sy’n digwydd fory, dydd Sadwrn, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Mae dwy sesiwn, a lein-yp ardderchog ar gyfer y ddwy, gyda nifer o setiau ‘byw’ i’r gynulleidfa yn Aber, ac eraill yn ffrydio’n unig i’r gynulleidfa adref.
Mae sesiwn gyntaf am 14:00 a dyma’r amserlen (* yn dynodi ffrydio’n unig):
14:00 – Band Pres Llareggub
14:30 – Omaloma*
15:00 – Glain Rhys a’r Band
15:30 – Lily Beau*
16:00 – Sybs
16:30 – Pys Melyn*
17:00 – Y Cledrau
17:30 – Huw Chiswell*
18:00 – Blackelvis *
Mae’r ail sesiwn yn dechrau am 18:30, a dyma’r arlwy:
18:30 – Los Blancos
19:00 – Kim Hon *
19:30 – Candelas
20:00 – Lewys *
20:30 – Alffa
21:10 – Yr Ods*
21:20 – Bryn Fôn a’r Band*
21:45 – Eden
Cân: ‘Llyn Llaweynydd’ – Papur Wal
Lot o newyddion cyffrous o gyfeiriad y grŵp Papur Wal wythnos yma.
Yn gyntaf y newydd fod eu halbwm cyntaf ar y ffordd – bydd Amser Mynd Adra allan ar label Recordiau Libertino ar 8 Hydref.
Ac fel tamaid i aros pryd maen nhw wedi rhyddhau sengl newydd, ‘Llyn Llawenydd’ wythnos yma.
Yn ôl y label mae’r sengl newydd yn un rhan Beatles cynnar, a’r rhan arall fel Lou Reed yn cyfleu ei holl erchylltra angerddol. Yr hyn sy’n uno eu caneuon o dan haenau diddiwedd o harmonïau a fuzz yw ei dyhead pybyr i wisgo eu calonnau ar eu llawes.
Mae ‘Llyn Llawenydd’ yn gân hafaidd sy’n adlais o sŵn West Coast y 1970au cynnar ac yn cael ei disgrifio fel “Crosby, Stills and Nash i gyfeiliant diamser rhythmau Merseybeat.”
Mae’r trac yn arwyddocaol hefyd yn yr ystyr mai dyma’r tro cyntaf i Gwion (Llais / Bas) a Ianto (Llais / Gitâr) ysgrifennu gyda’i gilydd, ac mae’r canlyniad yn llwyddiannus iawn.
“Mae’r gân yn sôn am le lle ti’n mynd i efo’r bobl sy’n bwysig i chdi i ddianc rhag bob dim” yn ôl y band.
“Does dim rhaid iddo fod yn lyn, a di’r tywydd ddim bob tro’n berffaith, ond ti’n dod nôl yn teimlo’n well, a methu aros i fynd nôl eto”.
Mae fideo wedi’i gyhoeddi i gyd-fynd â’r sengl, a hwnnw wedi’i greu gan Jacob Hodges, sef drymiwr y grŵp Mellt wrth gwrs!
Record: Sefyll Ar y Sgwâr – Ail Symudiad
Roedd Y Selar yn hynod o drist i glywed y newyddion am farwolaeth Richard Jones o’r grŵp Ail Symudiad yn ystod yr wythnos.
Roedd Richard, ynghyd a’i frawd Wyn, yn gyfrifol am sefydlu label Recordiau Fflach gan gynnig cyfleoedd gwych i lwyth o artistiaid, yn enwedig yn y De Orllewin. Yr hyn sy’n ychwanegu at y tor calon ydy’r ffaith mai ychydig dros fis sydd ers i Wyn ein gadael ni hefyd.
Mae pobl llawer mwy cymwys i dalu teyrnged i Richard, ac mae’n werth darllen teyrnged y cyflwynydd Richard Rees ar golwg360.
Y ffordd orau i’r Selar dalu teyrnged ydy rhoi sylw i un o recordiau Ail Symudiad, a pha record well nag albwm cyntaf y grŵp o Aberteifi, Sefyll ar y Sgwâr a ryddhawyd ar label Sain ym 1982.
Roedd y grŵp wedi ffurfio rhyw bedair blynedd cyn hynny, ac wedi creu tipyn o argraff gyda’u sŵn ton newydd oedd yn dilyn yn naturiol o’r hyn roedd y Trwynau Coch yn benodol wedi dechrau yn y Gymraeg.
Ryddhawyd cyfres fach o senglau i ddechrau – ‘Ad-Drefnu / Whisgi a Soda’ ar label Sain yn 1980 ac yna ‘Geiriau’, ‘Twristiaid yn y Dre’ a’r enwog ‘Garej Paradwys’ i gyd ar Recordiau Fflach ym 1981.
Yna daeth yr albwm cyntaf ar Sain tua hydref 1982 i sefydlu’r grŵp o ddifrif.
Mae llwyth o draciau gwych ar y casgliad gydag ‘Anifeiliaid’, ‘Beth Yw Hyn?’, ‘Symud Trwy’r Haf’ a ‘Cymry am Ddiwrnod’ yn sefyll allan.
Yr hyn sy’n nodweddiadol o’r albwm, a’r rhan fwyaf o gynnyrch Ail Symudiad ydy fod y caneuon yn adlewyrchu cymeriad a hiwmor unigryw Richard a Wyn, a’u cariad at Gymru a’u cymuned. Byddwn yn eu colli’n fawr.
Dyma’r gân wych sy’n cloi’r casgliad, ‘Cymry am Ddiwrnod’:
Artist: Carys
Eleri
Bydd
y gantores a chomediwraig unigryw, Carys Eleri, wedi cael cyfnod clo cynhyrchiol dros ben, a phenllanw hynny ydy rhyddhau ei halbwm newydd ddoe.
Enw’r albwm gomedi-pop newydd ydy An Unexpected Pandemic Pop Album Volume 1. Let’s Hope There’s No Volume 2. Enough Volume.
Mae Carys wedi bod yn weithgar yn recordio a rhyddhau caneuon drwy gydol y cyfnod clo, ac mae’r albwm yn hedfan drwy bob un clo ers yr un mawr cyntaf ym mis Mawrth 2020, ac yn glanio yn y presennol wrth i ni gyd gael ein rhyddhau i’r byd eto.
Gall bawb uniaethu a’r straeon, o gael eich dympio ar Zoom i orfod ffeindio lle tu allan i bîpî pan oedd pob dim di cau! Ydy, mae’r cyfan yma.
Awn ar daith wallgof Carys drwy’r pandemig tan ei bod yn ffeindio ei hun yma nawr yn wynebu’r byd yn ail agor gan ganu ‘I’m coming like a meteor!’ ar dop ei llais.
Mae’r albwm yn cynnwys saith o ganeuon i gyd – rhyddhawyd y bump gyntaf fel senglau ar y llwyfannau digidol arferol, ond dim ond ar yr albwm mae modd clywed y ddwy arall a chlywed stori lawn yr albwm unigryw.
Ma’r traciau wedi eu cynhyrchu gan Branwen Munn (4Hero), sydd wedi llwyddo i liwio’r byd mae Carys wedi’i greu gan chwarae bob offeryn a pheiriannu bob dim ei hun yn stiwdio ei chartref ‘GoldHill Studios’. Recordiwyd pob dim o bell felly gorfodwyd Carys i ddysgu sut oedd recordio ei hun am y tro cyntaf.
Mae’r albwm allan yn ddigidol ar safle Bandcamp Carys Eleri, a dyma’r trac sy’n cloi’r record, ‘Meteor’:
Un Peth Arall: Sywel Nyw a Steff Dafydd
Mae ymdrech Sywel Nyw i ryddhau trac bob mis, gan gyd-weithio ag artist gwahanol ar bob un, yn parhau!
Y sengl ddiweddaraf, sydd allan heddiw, ydy ‘Y Meddwl Lliwgar Yma’, a’r tro hwn mae wedi partneriaethu gyda chanwr Breichiau Hir, Steffan Dafydd.
Mae arddull Steffan yn unigryw a thrawiadol, ac yn sicr yn cynnig rhywbeth hollol wahanol i sŵn Sywel Nyw. Mae’r arddull yn wahanol iawn i’r hyn bydd ffans Breichiau Hir wedi arfer ag ef hefyd, a’i eiriau yn ‘freuddwydiol a hurt’ yn ôl y ddeuawd.
“Trio creu landscape hazy o bethe odd yn cysylltu’n llac iawn yn meddwl fi o ni, yn mynd am dro yn is-ymwybod fi a gadel i beth bynnag odd yn dod i pen fi fynd lawr ar bapur” meddai Steff.
“O ni moyn creu teimlad o desperately trio cysylltu gyda pobl erill a’r byd ac wedyn cymysgu hwn gyda llif meddwl ynysig unigolyn. O ni’n hoffi’r contrast yma. Nes i dim ond sylwi misoedd ar ôl recordio bod y collaboration yma yn drosiad perffaith am hwn – gyda’r geiriau a’r gerddoriaeth yn cael eu creu ar wahân gan ddau unigolyn gwahanol.”
Un gair – ‘tiwn’
Prif lun: Richard Jones (chwith) a’i frawd Wyn (de) gyda’u cyfaill Owian Young (Shwl Di Mwl) yn 2015 (Llun gan Owain Schiavone)