Gig: Noson Cyfraniad Arbennig Gruff Rhys
Wel, mae popeth ‘di canslo erbyn hyn yn tydi.
Ac ar ben hynny, mae teledu nos Calan yn tueddu i fod yn ddifrifol o wael hefyd – dybyl whammy bois bach.
Ond na phoener, mae’r Selar yma i achub eich penwythnos a chynnig cyfle arall i chi weld Noson Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar yn Chwefror 2020. Gruff Rhys oedd yn derbyn y wobr, ac fe gawsom ni noson gofiadwy iawn yn ei gwmni yn Aberystwyth, gyda’r hyfryd Huw Stephens yn llywio’r cwbl.
Yn ffodus iawn, fe wnaethon ni ffilmio’r gig a be well i’w wylio wrth groesawu blwyddyn newydd.
Cân: ‘Cymru Ni’ – Izzy Rabey ac Eädyth
Grêt i weld Izzy Rabey ac Eädyth yn ôl gyda’i gilydd yn rhyddhau sengl newydd ar y cyd o’r enw ‘Cymru Ni’.
Nid dyma’r tro cyntaf i’r ddwy gyd-weithio wrth gwrs – bu iddynt ryddhau’r EP Mas o Ma fis Hydref diwethaf, cyn cyhoeddi sengl ar y cyd o’r enw ‘Infinite Beaty’ ym mis Rhagfyr 2020.
Go brin fod angen llawer o gyflwyniad ar Eädyth ond efallai bod Izzy yn enw ychydig yn llai cyfarwydd i rai. Yn sicr mae gan rapiwr dwyieithog a ddaw’n wreiddiol o Fachynlleth rywbeth i’w ddweud, ac mae’r negeseuon yn werth gwrando arnyn nhw.
“Mae’r gân ambwyti’r bobl a sefydliadau Cymraeg sydd ddim fel arfer yn cael eu canoli o ran cynrychioli diwylliant Cymraeg” eglura Izzy.
“Odd e’ hefyd yn ymateb i’r hiliaeth sy’n dal i fodoli tuag at bobl ddu Cymraeg, a hefyd sut mae Cymru’n gallu bod yn eitha’ obsessed ‘da bod yn ddiwylliant lleiafrifol, ond heb gymryd cyfrifoldeb am ein rhan yn colonialism a perpetuatio darlun eitha’ cul o sut mae rhywun Cymraeg i fod i edrych ac ati.”
Eädyth sy’n bennaf gyfrifol am gerddoriaeth y sengl newydd, ac Izzy am y geiriau, er bod Eädyth yn gyfrifol am eiriau’r intro lle mae hi’n canu.
Mae’r sengl newydd yn drac crafog sy’n siŵr o dynnu blewyn o drwyn ambell un, ac nid jyst rant difeddwl sydd yma gan fod Izzy yn amlwg wedi ymchwilio ei phwnc.
“Nes i siarad hefyd gyda Dr Lucy Trotter sydd wedi cynnal gwaith ymchwil mewn i’r hanes hiliol o’r Cymru ym Mhatagonia, a sut ni’n gallu anghofio y cyd-destunau imperialaidd o fewn ein hanes ni’n hunain.”
Mae’r gân yn rhestru nifer o enwau pobl a sefydliadau sy’n gwneud gwahaniaeth ac yn cynnig amrywiaeth i ddiwylliant Cymreig yn nhyb Izzy ac Eädyth.
“Y bobl da ni’n rhestru yw Jukebox Collective, Ladies of RAge, Privilege Cafe gan Mymuns Soleman, Al Naeem gan Asma Elmi, WAARU, Dom James, Lemfreck, Bragod, Abu Bakr (athro hanes), y teulu Legall (Gaynor a Kyle), caffi Aubergine, Hen Bapur Newydd gan Llinos Annwyl, BoLShe gan Alice Ekland a’r podlediad Mel Mal Jal, y drag queen Tayce a’r band Afrocluster.”.
“O’n i isio ychwangeu yw bo ni isho creu cerddoriaeth syn swnio fel y tu fewn i ben rhywun ddwyieithog ar ffordd mae bobl ddwyieithog yn siarad” ychwanega Izzy.
Record: Galw Fi’n Ôl – Mered Morris
Does dim yn well gan Y Selar na darganfod artistiaid newydd yn creu cerddoriaeth wych trwy gyfrwng y Gymraeg.
Wedi dweud hynny, rydan ni hefyd wrth ein bodd yn gweld cerddorion profiadol yn dal ati i gynhyrchu cerddoriaeth newydd ddegawdau ar ôl iddynt wneud hynny am y tro cyntaf, ac yn parchu eu dyfalbarhad.
Un cerddor profiadol sydd wedi rhyddhau albwm newydd yn 2021 ydy Mered Morris, ac mae fersiwn r feinyl o’i albwm diweddaraf, Galw Fi’n Ôl, newydd lanio…ac rydan ni wrth ein bodd efo feinyl yma yn Selar HQ!
Galw Fi’n Ôl ydy ail albwm unigol y gitarydd a’r canwr-gyfansoddwr sydd yn y gorffennol wedi chwarae gyda Rhiannon Tomos a’r Band, Meic Stevens, Bwchadanas a Sobin a’r Smaeliaid.
Rhyddhawyd fersiwn CD o’r record ym mis Ebrill 2021, ond bu oedi yn nyddiad rhyddhau’r fersiwn feinyl o ganlyniad i broblemau cynhyrchu feinyl byd eang diweddar. Mae’r casgliad yn ddilyniant i albwm unigol cyntaf Mered, Syrthio’n Ôl a ryddhawyd llynedd.
Mae’r albwm yn mynd i’r afael â nifer o bynciau mawr y dydd. Mae’n gofnod o brofiadau a theimladau Mered dros y flwyddyn ofnadwy ddiwethaf. Ymysg y pynciau sy’n cael eu trafod mae unigrwydd yng nghefn gwlad yn ystod y cyfnod clo, cân sy’n talu teyrnged i’n gweithwyr allweddol, a dwy gân sy’n sôn am yr argyfwng newid hinsawdd.
Mae ‘na ambell gerddor cyfarwydd arall wedi cyfrannu at y casgliad sef Aled Wyn Hughes o Cowbois Rhos Botwnnog, Gwyn Jones o Maffia Mr Huws a Twmffat, a John Hywel Morris fu yn y grŵp Dorcas ond sydd hefyd yn gyfarwydd i lawer yn y diwydiant diolch i’w waith gyda PRS for Music.
Ymysg yr holl bynciau mawr sydd wedi ysgogi caneuon Galw Fi’n Ôl, mae un digwyddiad penodol a ddylanwadodd ar deitl-drac y casgliad sef llofruddiaeth George Floyd yn America.
Dyma ‘Galw Fi’n Ôl:
Artist: Euros Childs
Bob amser tua’r adeg yma o’r flwyddyn mae achos da i roi bach o sylw i Euros Childs.
Mae gweld albwm newydd gan y cerddor cynhyrchiol erbyn y Nadolig bron mor draddodiadol bellach â chlywed ‘Nadolig Pwy â Ŵyr’ ar y radio, neu shambyls anochel ond gwych ‘Cracyr Nadolig Heno’ ar y teledu.
Diolch byth felly fod record hir ddiweddaraf Euros wedi glanio ar 22 Rhagfyr. Mae rhyddhau’r albwm yn cynnal rhediad anhygoel Euros Childs o ryddhau o leiaf un albwm unigol y flwyddyn ers rhyddhau ei record hir gyntaf, Chops, yn 2006.
Enw’r albwm newydd ydy Blaming is all on Love ac mae ar gael i’w ffrydio a lawr lwytho oddi-ar ei wefan gyda’r cerddor ddim ond yn gofyn am gyfraniad o ddewis y gwrandäwr.
Ag yntau’n cael ei gydnabod yn eang fel un o gyfansoddwyr gorau a mwyaf cynhyrchiol ei genhedlaeth, mae’n ychydig o syndod gweld Euros yn troi ar fersiynau o ganeuon gan artistiaid eraill ar ei albwm diweddaraf.
Er hynny, mae dal yn gasgliad gwych ac yn cynnwys traciau wedi’u hysgrifennu gan Kevin Ayers, Bert Jansch, Judee Sill, Julian Cope, Colin Blunstone, Jeff Lynne, Pete Dello, Duke Ellington & Sydney Russell, Ian Hunter a Syd Barrett.
Recordiwyd y caneuon ym Mhorth Lliw (Freshwater East) yn Sir Benfro nôl ym Mehefin 2021 dan ofal y cynhyrchydd Stephen Black, sydd hefyd yn adnabyddus i ni fel y cerddor Sweet Baboo.
Un Peth Arall: Casgliad newydd gan gefnogwyr pêl-droed Bangor
A hithau’n dymor ewyllys da, mae clwb cefnogwyr tîm pêl-droed Bangor 1876 wedi cyhoeddi casgliad newydd o ganeuon er mwyn codi arian at elusen lleol Lôn Abaty / Abbey Road.
Comradiation ydy enw’r grŵp cefnogwyr, ac maent wedi cyhoeddi casgliad o ganeuon gan artistiaid amrywiol ar Bandcamp.
Mae’r casgliad yn cynnwys 14 o draciau gan gynnwys caneuon gan Yr Ods, Steve Eaves, Lleuwen, Yucatan, Fflaps ac Anrhefn.
Mae modd prynu’r albwm yn ddigidol am £10, gyda’r holl elw’n mynd at Ganolfan Lôn Abaty ym Mangor sy’n cefnogi gwell iechyd meddwl i bobl dros 18 oed yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn.
Dyma un o draciau’r casgliad, ‘Grym Canolog’ gan Yr Ods: