Gig: Gig Afanc – Neuadd y Frenhines, Arberth, 05/06/21
Gig. Gig go iawn. Gig go iawn efo cynulleidfa go iawn, yn y cnawd.
Anodd credu dwi’n gwybod ond dyna sy’n digwydd nos fory yn Neuadd y Frenhines, Arberth. Mae’r niferoedd dal yn gyfyngedig am y tro wrth gwrs, gyda dim ond 32 yn cael bod yn y lleoliad ei hun, ond bydd ffrwd byw i chi allu ymuno ar-lein hefyd.
Criw label electronig Afanc sy’n gyfrifol am y gig, eu digwyddiad byw cyntaf fel label ar ôl Covid, ac ers i DJs Afanc fynd benben gyda’r DJ chwedlonol, Gareth Potter mewn brwydr cân am gân yn 2019.
Nos Sadwrn yma bydd y label yn arddangos caneuon ac iartistaid maent yn gweithio gyda nhw’n fyw, ac am ddim i’w ffrydio ar sianel YouTube Neuadd y Frenhines.
Dyma’r amserlen:
19:00-19:30 – DJs Afanc – J.W.D. (fydd yn chwarae caneuon Cymraeg ac ail gymysgiadau mae hi wedi creu)
19:30-21:00 – Roughion (yn chwarae caneuon maent wedi bod yn brysur yn eu creu yn ystod y cyfnod clo, gan gynnwys llwyth o ailgymysgiadau Cymraeg)
21:00–22:00 – Martyn Kinnear (fydd yn dangos popeth 140pbm, o baseline i dubstep a phopeth yn y canol
22:00-23:00 – Joe Easton (artist sydd ar raglen datblygu Afanc, disgwyliwch Drwm a Bâs a baseline)
23:00-00:00 – Ransom – Concrete Junglist Caerdydd (mae gan Ransom gyfoeth o wybodaeth am y genre Drwm a Bâs ac mae’n ran anatod o’r sin yma ac mae Concrete Junglist x Afanc yn falch iawn o’i gael yno i gloi eu noson gyntaf fel partneriaid)
Yn ystod y noson hefyd, rhwng 21:00 a 00:00 bydd Benji Wild, gynt o Astroid Boys ond bellach yn gwneud cerddoriaeth ar ei liwt ei hun, yn cynnal yr hwyl fel MC.
Mae’n swnio fel noson a hanner, felly os nad ydach chi’n un o’r 32 lwcus sy’n cael bod yna, cofiwch diwnio mewn ar sianel YouTube Neuadd y Frenhines.
Cân: ‘Bonsai’ – Sywel Nyw gyda Glyn Rhys-James
Fe ddylech chi fod yn gwybod yn iawn erbyn hyn bod Sywel Nyw, sef prosiect unigol, Lewys Wyn o’r Eira, ar ganol prosiect uchelgeisiol i i ryddhau sengl pob mis yn ystod 2021, gan gydweithio gydag artist gwahanol bob tro.
Bellach mae wedi cyrraedd ei bumed sengl o’r prosiect, ac wedi rhyddhau ‘Bonsai’ ddydd Gwener diwethaf, 28 Mai.
Ei bartner cerddorol diweddaraf ydy un arall o ffryntmen gorau Cymru, Glyn Rhys-James, o’r grŵp gwych o Aberystwyth, Mellt.
Mae thema’r gân yn un ddigon syml yn ôl Glyn:
“Mae’r gân am goeden bonsai fi’n trial cadw’n fyw” meddai gitarydd a chanwr Mellt.
Hyd yma mae’r senglau i gyd wedi’u rhyddhau’n ddigidol yn unig, ond mae nifer cyfyngedig o gasetiau yn cael eu rhyddhau gyda’r trac diweddaraf a gallwch fachu un ar wefan y label, Lwcus T.
Yn ogystal â ‘Bonsai’, mae b-side arbennig ar y casét sef fersiwn piano o ‘Dyfroedd Melys’ gan Gwenno Morgan, sef sengl mis Mawrth y gyfres.
Bydd pob casét yn dod gyda bocs matches arbennig!
Record: Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim Byd’ – Dafydd Hedd
Does dim llawer o gerddorion mwy gweithgar, na brwdfrydig na Dafydd Hedd, ac mae EP newydd y cerddor ifanc o Fethesda allan heddiw.
‘Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim’ ydy enw’r casgliad byr newydd ac mae’n dilyn dwy record hir gan Dafydd sydd wedi cael croeso cynnes – ‘Y Cyhuddiadau’ (2019) a ‘Hunanladdiad Atlas’ (2020).
EP pump trac ydy ‘Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim’ ac yn ôl y cerddor mae’n cynnwys amrywiaeth o ganeuon pync a roc ar un llaw, a rhai mwy ymlaciol fel ‘Colli ar fy Hun’ a ‘Pam Mae Fory’n Dod’ ar y llall.
Mae’r record fer yn crynhoi gwerth blwyddyn a hanner o gyfansoddi, crefftio ac ysgrifennu, ac fe’i recordiwyd dros gyfnod o fis gyda’r cynhyrchydd Sam Durrant yn Stiwdio Un yn Rachub, a gyda chefnogaeth y cerddor sesiwn Dan Cutler.
“Yn fy natur bersonol o sgwennu caneuon, credaf fod themâu pendant yn cysylltu’r caneuon rhain” meddai Dafydd Hedd.
“…yr angen am gymdeithas decach, fwy gwir, lle nad yw problemau yn cael ei stwffio dan y carped ond yn cael eu delio gyda nhw.
“Mae’r syniad o ddifaterwch ymysg yr ifanc wedi bod yn rhywbeth sydd wedi bod yn ffordd y freuddwyd hon o fewn y gymdeithas i mi, a gyda’r casgliad hwn, dwi’n protestio drwy harmoni er mwyn gwneud y byd yn lle gwell.”
Mae’r EP allan yn ddigidol, ond mae Dafydd hefyd wedi cynhyrchu copïau CDs ar gyfer yr EP gan eu postio i brynwyr, yn ogystal â’u dosbarthu yn rhai o siopau’r Gogledd.
Mae hefyd yn cynnal gig rhithiol i lansio’r record newydd ar ei gyfrifon Facebook ac Insta (@dafyddhedd) heno, felly cadwch olwg ar rhain – popeth yn cicio ffwrdd am 20:00.
Artist: Mali Hâf
Mae’r gantores addawol o Gaerdydd, Mali Hâf, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, Fel y Blodau, ddydd Gwener diwethaf.
Mae ‘Fel y Blodau’ yn ddilyniant i’w sengl ‘Freshni/Refreshing’, a ryddhawyd fis Ionawr, yn ogystal â’r trac a’i gwelodd yn cydweithio gyda’r cynhyrchydd Shamoniks, ‘Pili Pala’, a ryddhawyd ym mis Mawrth.
Ers hynny, mae Mali hefyd wedi creu argraff gyda’i set yng Ngŵyl Tafwyl a gafodd ei we ddarlledu’n fyw yn ddiweddar.
Unwaith eto mae Mali wedi gweithio’n agos gyda Shamoniks ar y sengl newydd hefyd ac ef sydd wedi cynhyrchu’r trac.
Mae geiriau Mali yn edrych yn ôl ar gyfnod o drafferth yn y brifysgol gyda phryder cymdeithasol. Roedd hi’n teimlo bod rhaid cario ymlaen i gymdeithasu, er bod hyn yn gwneud pethau’n waeth. Roedd cael ffrind gerllaw yn gwneud byd o wahaniaeth
Ers y pandemig, a’r cyfnodau clo, mae’r geiriau wedi golygu mwy fyth iddi ac roedd yn falch o blethu y rhain a’r alaw unigryw, a chynhyrchiad Shamoniks. Y tro yma, mae’r curiadau wedi plethu gyda riffs gitâr ysgafn, a chordiau synthesizer chwyrlïol i gefnogi llais unigryw Mali.
Un Peth Arall: Fideo Hap a Damwain
…neu Damwain a Hap?
Dwnim, ond fel popeth arall mae’r ddeuawd yma’n gwneud mae o’n cwyrci ac yn dda. Maen nhw hefyd wedi datgelu bod newyddion am ddigwyddiad byw i ddod yn fuan!