Set rhithiol: Lleisiau Eraill Aberteifi – 6-7/03/21
Y penwythnos yma ydy penwythnos ‘Gŵyl 2021’ sy’n gweld pedair o wyliau amlycaf Cymru’n dod ynghyd i gynnal un digwyddiad rhithiol mawr.
Y pedair gŵyl dan sylw ydy Gŵyl y Llais, FOCUS Wales, Lleisiau Eraill Aberteifi a Gŵyl Gomedi Aberystwyth.
Bydd llwyth o gerddoriaeth a chomedi fel rhan o’r ŵyl, gyda’r arlwy gerddorol yn cynnwys Adwaith, Ani Glass, Carys Eleri, Cate Le Bon, Gruff Rhys, The Gentle Good a mwy.
Gyda chymaint ar yr amserlen, rydan ni am ganolbwyntio ar rai o’r uchafbwyntiau yn ein tyb ni.
Mae modd gwylio llwyfan Lleisiau Aberteifi rhwng 15:00 a 18:30 ddydd Sadwrn a dydd Sul, a hynny trwy FAcebook, Twitter a YouTube. Mae uchafbwyntiau dydd Sadwrn yn cynnwys The Gentle Good am 15:00 ac Ani Glass am 16:30.
Mae arlwy dydd Sul llwyfan FOCUS Wales yn dod â dŵr i’r dannedd hefyd gydag Adwaith am 15:00, Bandicoot am 16:00 a Gruff Rhys yn cloi’r cyfan am 18:00. Bydd Gruff hefyd yn perfformio am 15:00 ddydd Sadwrn, jyst ar ôl set 9Bach am 15:30.
Gallwch weld manylion llawn yr ŵyl ar wefan y BBC.
Cân: ‘Mêl’ – Thallo
Mae sengl newydd Thallo, ‘Mêl’, allan ar label Recordiau Côsh heddiw.
Thallo ydy prosiect cerddorol Elin Edwards, sy’n dod yn wreiddiol o Benygroes, ond sydd bellach wedi sefydlu ei hun yn Llundain.
Bydd rhai ohonoch yn gyfarwydd â Thallo ers iddi gyd-weithio gydag Ifan Dafydd ar y sengl ‘Aderyn Llwyd’ fis Awst diwethaf mae’n siŵr. Bydd eraill yn cofio ei sengl wych ‘I Dy Boced’ a ryddhawyd yn Ebrill 2019 – roedd cyfle cyntaf i weld y fideo trawiadol ar gyfer y sengl ar wefan Y Selar.
Bellach mae Elin wedi ymuno â stabal Côsh, a ‘Mêl’ ydy’r gyntaf o gyfres o senglau sydd i ddod allan gan Thallo ar y label dros y misoedd nesaf.
Mae Thallo yn llwyddo i blethu elfennau o jazz cyfoes, gwerin ac indie modern i greu gwledd esmwyth ac ymlaciol i’r glust. Mae’r sengl wedi’i recordio gyda’r cynhyrchydd Cymraeg, Harri Chambers, yn Stiwdio Saccharin yn Llundain.
Os ydach chi’n hoffi yr hyn rydach chi’n clywed, mae cyfle i weld Thallo yn perfformio’n fyw ar dudalen Facebook Tŷ Pawb nos Wener nesaf, 12 Mawrth.
Record: Oes Pys – Twmffat
Mae albwm newydd Twmffat allan ers wythnos diwethaf ac yn cael ymateb arbennig o dda’n barod.
‘Oes Pys’ ydy enw’r record hir ddiweddaraf gan y criw o gerddorion profiadol sy’n cynnwys rhai o gyn-aelodau Anweledig, Estella, Maffia Mr Huws a bandiau amlwg eraill. Mae’n ddilyniant i’w recordiau hir blaenorol ‘Myfyrdodau Pen Wy’ a ‘Dydi Fama’n Madda i Neb’, ynghyd â’r EP ‘Tangnefedd’.
Yn ôl y grŵp mae’r casgliad ar y gweill ers tipyn, a hwythau wedi dod ynghyd , yn Stiwdio Cefn Cyffin, Llanfrothen sy’n cael ei redeg gan Gwyn ‘Maffia’ Jones, sef drymiwr Twmffat nôl yn Hydref 2019.
Y bwriad gwreiddiol medde nhw oedd newid cyfeiriad o themâu gwleidyddol ffraeth y recordiau blaenorol….ond mae tipyn wedi digwydd ers hydref 2019 wrth gwrs, a bu’n amhosib anwybyddu digwyddiadau fel Brexit a’r pandemig! Mae’r albwm bellach felly’ yn ymdrech gan Twmffat i gofnodi’r cyfnod gwallgof yma drwy gasgliad o 13 o ganeuon amrwd a gonest.
“Mae hi wedi bod yn daith o Lockdown i Recovery, yn llythrennol. Doedd albym fel hyn ddim yn fwriad gennym” meddai ffryntman Twmffat, Ceri Cunnington.
“Mae’r cwbl jest yn lif cnau, ac yn gatharsis llwyr. Gobeithio bydd pobol yn uniaethu efo’r teimlad. Mae’n teuluoedd, ffrindia a’n doctoriaid wedi gorfod!”
Mae’n debyg bod bwriad i ryddhau ffilm o’r enw ‘A Oes Pys?’ gan Phil Jones, un o aelodau Twmffat, yn y dyfodol agos, ac mae’r Selar yn disgwyl yn eiddgar am ddyddiad premiere hon.
Er mwyn nodi’r lansiad swyddogol ddydd Gwener diwethaf, penderfynodd Twmffat gynnal parti gwrando arbennig ar Facebook…a fel y bydde chi’n disgwyl roedd hwn bach yn wallgof!!
Gwerth gwylio os oes ganddoch chi awr fach sbâr (neidiwch y 5 munud cyntaf o drafferthion technegol cyfarwydd ella!)
Artist: Derw
Mae’n rhyw benwythnos o ddathlu’r grŵp pop siambr Derw ar wefan Y Selar penwythnos yma, felly rhaid oedd eu cynnwys rhywle yn ein Pump i’r Penwythnos.
Bydd unrhyw un sy’n dilyn y newyddion diweddaraf ar wefan Y Selar yn ymwybodol iawn fod y grŵp wedi rhyddhau eu EP cyntaf, Yr Unig Rai Sy’n Cofio, yn ddiweddar a hynny ar ôl rhoi blas o’r hyn oedd i ddod gyda chyfres o senglau.
Roedd yn teimlo’n amserol felly ein bod ni’n cael sgwrs gyda dau aelod amlycaf y prosiect, sef Elin Fouladi a Dafydd Dabson, fel rhan o’n cyfres fer o bodlediadau arbennig ‘Sgwrs Selar’, sy’n dilyn y thema ‘partneriaethau’.
Yn sicr mae cerddoriaeth Derw yn dystiolaeth glir o’r bartneriaeth hyfryd sydd wedi blodeuo rhwng Elin a Dafydd.
Bore ma hefyd, roedd cyfle cyntaf ar wefan Y Selar i weld y fideo newydd ar gyfer y trac ‘Mikhail’ sydd ar yr EP.
Fel y byddwch chi’n clywed yn y sgwrs, llwyddodd Derw i dreulio cyfnod byr iawn yn stiwdio Acapela yn yr hydref cyn i bopeth gloi unwaith eto, ac mae’r fideo yma’n un o ganlyniadau’r ymweliad hwnnw.
Un Peth Arall: Gigs Tŷ Nain – Tu ôl i’r Cyrtans
Bydd sawl un ohonoch wedi gwylio’r gyntaf o’r gyfres Gigs Tŷ Nain ar ddydd Calan eleni, neu yn y dyddiau ar ôl hynny.
Os ddim, wel eich colled chi! Ond mae modd gwylio ambell gan unigol o’r gig rhithiol ar sianel YouTube Gigs Ty Nain.
Wythnos yma hefyd mae’r criw wedi llwytho ffilm fer yn dangos peth o’r hwyl tu ôl i’r lleni…neu’r cyrtans…yn Nhŷ Nain, wrth iddyn nhw fynd ati i greu y sioe.
Prif lun: Thallo ar lwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd 2019