Gig: Gig y Pafiliwn 2021 – 05/08/21
Gig sydd eisoes wedi bod i chi’r wythnos hon, ond gig rhithiol sy’n golygu bod modd mynd yn ôl i wylio pryd bynnag sy’n gyfleus i chi.
Mae pawb yn gyfarwydd â fformat Gig y Pafiliwn bellach debyg, detholiad o fandiau’n perfformio gyda Cherddorfa’r Welsh Pops. Wel, roedd pethau bach yn wahanol mewn sawl ffordd eleni gan fod y gig yn ddathliad o ben-blwydd label Recordiau I KA CHING yn ddeg oed.
Llwyth o artistiaid sydd wedi bod dan ofal y label hwnnw oedd yn perfformio felly – Candelas, Griff Lynch, Blodau Papur, Yr Eira, Mared, Sŵnami, Glain Rhys, Clwb Cariadon, Y Cledrau a Siddi
Roedd un peth yn gyson gyda’r blynyddoedd a fu cofiwch, sef bod Huw Stephens yn llywio’r cyfan.
Cân: ‘Hedfan i Ffwrdd’ – Lisa Pedrick a Geth Tomos
Sengl newydd sydd allan heddiw ydy hwnnw gan ddau gerddor profiadol sydd wedi gwneud comeback dros y flwyddyn ddiwethaf, sef Lisa Pedrick a Geth Tomos.
Bydd unrhyw un sy’n dilyn y newyddion cerddoriaeth diweddaraf ar wefan Y Selar yn gwybod am weithgarwch o’r newydd Lisa Pedrick dros y flwyddyn ddiwethaf. Rhyddhaodd gyfres o senglau ac yna’r EP Dim ond Dieithryn ym mis Tachwedd llynedd – EP a gipiodd wobr ‘Record Fer Orau’ Gwobrau’r Selar.
Mae Geth yntau’n gerddor talentog sydd wedi dod yn ôl i’r amlwg dros y misoedd diwethaf. Bydd yn fwyaf adnabyddus i lawer fel aelod o’r band roc Gwacamoli oedd yn amlwg iawn ar ddiwedd y 1990au a dechrau’r mileniwm.
Enw’r sengl newydd gan y ddau ydy ‘Hedfan i Ffwrdd’ ac mae’n anthem emosiynol a theimladwy sy’n delio â galar a chariad ysbrydol.
Nid dyma’r tro cyntaf i’r ddau gyd-weithio cofiwch, bu iddynt ryddhau eu fersiwn o ‘Cwmwl Naw’, sef un o ganeuon mwyaf adnabyddus Gwacamoli tua ugain blynedd yn ôl.
“Mae ‘na lawer o bethau wedi digwydd yn yr ugain mlynedd diwethaf sydd wedi newid trywydd fy mywyd” meddai Geth Tomos.
“‘Sgrifennais ‘Hedfan i Ffwrdd’ ar ôl colli ffrind agos. Mae’r gân yn edrych ar sut mae galar yn gallu effeithio ein bywydau ond hefyd yn dangos i ni sut i fyw. Roedd gweithio gyda Lisa yn ddewis amlwg i mi gan fod yna ddyfnder emosiynol i’w llais sy’n berffaith i adrodd y stori.”
Mae ‘Hedfan i Ffwrdd’ allan heddiw ar Recordiau Rumble.
Record: Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Gymreig – Los Blancos
Sypreis bach hyfryd oedd clywed wythnos diwethaf bod EP newydd sbon allan gan yr ardderchog Los Blancos heddiw!
Ar ôl sefydlu eu hunain fel un o fandiau mwyaf cyffrous Cymru dros y cwpl o flynyddoedd cyn hynny, digon tawel fu Los Blancos dros gyfnod y pandemig, fel cymaint o fandiau eraill.
Mae’r newyddion am yr EP newydd wedi dod o unlle, ac i’w groesawu’n fawr felly. Ac mae’n briodol fod hwn yn gasgliad anarferol sydd wedi codi o amgylchiadau’r flwyddyn a hanner ddiwethaf.
Enw’r record fer ydy Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Gymreig, ac mae’n wahanol i stwff blaenorol y band gan ei fod yn cynnwys cân wedi’i chyfansoddi gan bob un o’r aelodau unigol.
“Yn ystod y cyfnod clo, wrth aros i fynd nôl i’r stiwdio i orffen ein ail albwm, aeth pawb nôl trwy hen demos oedd wedi casglu dros y blynydde dwetha, a’u rhoi mewn un ffeil ar dropbox” eglura’r band.
“Odd rhyw 40 o syniade yna felly gatho ni y syniad o ryddhau casgliad yn cynnwys un cyfansoddiad gan bob aelod tra bod ni’n aros i allu mynd nôl i’r stiwdio.”
“Mae hyn wedi arwain at EP amrywiol ac mae modd gweld dylanwad pob aelod yn gliriach a sut maent yn cyfrannu at sŵn Los Blancos. Odd hyn yn wahanol i’r band achos ni fel arfer yn ysgrifennu gyda’n gilydd mewn ystafell ymarfer gyda pawb yn dylanwadu mewn rhyw ffordd ar bob cân.”
Dyma ‘Mil o Eirie’ sydd wedi’i chyfansoddi gan Gwyn:
Artist: skylrk.
Cyflwyniad i artist newydd diddorol iawn i chi yr wythnos hon, a phrosiect newydd sydd wedi’i wreiddiol yn Nyffryn Nantlle
skylrk. ydy prosiect cerddorol Hedydd Ioan, sydd hefyd yn wneuthurwr ffilm addawol dros ben, ac mae ei sengl gyntaf allan heddiw.
‘dall.’ ydy enw’r sengl ac yn ôl Hedydd mae’r trac cyntaf yma’n cyflwyno cymeriad skylrk. i ni.
“Mae’r trac yn cwestiynu dyheadau hedonistic a byrbwyll skylrk. wrth i ni ei weld o’n gweiddi a sgrechian ac yn ceisio cuddio ei ansicrwydd” eglura Hedydd.
“Mae’r gân yn gofyn be yda’ ni’n fodlon anwybyddu am ein hunain er mwyn ceisio cael rhyw fath o hapusrwydd byr a fleeting, dyma pam dwi di ei alw yn ’dall.’.
Roedd cyfle cyntaf i glywed y trac ar raglen Radio Cymru Lisa Gwilym wythnos diwethaf, ac yna eto nos Lun wrth i skylrk. berfformio ar noson gyntaf cystadlaeth Brwydr y Bandiau Maes B eleni.
Roedd y fersiwn o ‘dall’ a berfformiodd skyrk. Ar gyfer Brwydr y Bandiau ychydig yn wahanol i fersiwn y sengl, ac mae fideo ar gyfer y trac hefyd wedi ymddangos i gyd-fynd â dyddiad rhyddhau’r sengl.
“Yn ogystal â’r perfformiad byw fyddwn ni’n rhyddau music video i gyd-fynd a’r gân ar yr un diwrnod wedi ei greu gan fy nghwmni cynhyrchu Trac 42 sydd wedi creu fideos ar gyfer bandiau eraill o fewn y sîn yng Nghymru.”
Yn ôl Hedydd mae lot mwy i ddod gan skylrk. ac mae eisoes wedi cydweithio ar drac gydag Endaf & Fairhurst fydd yn cael ei ryddhau wythnos nesaf.
Dywed y cerddor ei fod eisoes wedi dechrau gweithio ar ei drac nesaf a’i fod yn edrych ymlaen i ddangos mwy o’i waith.
Wwww, ac un darn bach olaf o newyddion hot off the press…fe gyhoeddwyd neithiwr mai skylrk. oedd enillydd cystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni – llongyfarchiadau mawr iawn iddo!
Dyma’r berfformiad o ’dall’ yn y gystadleuaeth:
Un Peth Arall: Fideo Sesiwn Papur Wal
Grêt i weld sengl newydd ‘Llyn Llawenydd’ yn gollwng gan Papur Wal wythnos diwethaf, ynghyd â fideo swyddogol wedi’i greu gan Jacob Hodges.
Wel, os nad oedd hynny’n ddigon am un dydd Gwener, roedd fideo sesiwn o’r grŵp yn perfformio’r trac ar sianel Lŵp, S4C yr un diwrnod.
Mae’r sesiwn wedi’i ffilmio mewn gardd yng Nghaerdydd ac yn dal naws y gân yn reit dda.