Pump i’r Penwythnos – 8 Hydref 2021

Gig: FOCUS Wales – Wrecsam – 8-9/10/21

Does dim rhaid edrych yn bell am ein dewis o gig y penwythnos yma  gan fod pob lôn yn arwain i Wrecsam, a gŵyl FOCUS Wales.

Ar ôl blwyddyn o saib llynedd, mae’n ŵyl ddinesig aml leoliad yn ôl gyda pherfformiadau, sgyrsiau a phob math o weithgarwch cerddorol ledled y dref.

Dechreuodd yr ŵyl ddoe, ac ymysg yr enwau mawr sy’n perffomio mae Gruff Rhys BC Camplight, Tim Burgess, Buzzard Buzzard Buzzard a llawer iawn mwy.

Mae llwyth o artistiaid Cymraeg ar y lein-yp hefyd a gallwch bori trwy’r amserlen i weld pwy yn union sy’n chwarae yn lle, a phryd!

Dyma rai o’r pigion o ran artistiaid Cymraeg:

Gwener

Bandicoot – 6pm, Llwyn Isaf

Eädyth -12:35am, Penny Black

Melin Melyn – 8:15pm, Central (ystafell 1)

Worldcub – Hanner Nos, Central (ystafell 2)

Adwaith  – 9:45, Central (Ystafell 2)

HMS Morris – 10:00pm, HWB Cymraeg

N’famady Kouyate – 5:00pm, HWB Cymraeg

 

Sadwrn

Tapestri – 4:40pm, St Giles

Band Pres Llareggub – 12:30am, Penny Black

Chroma – 8:10pm, Penny Black

Gruff Rhys – 10:30pm, Penny Black

BOI – 5:30pm, Central

Ynys – 9:00pm, Central

Thallo – 8:00pm, Central

Georgia Ruth – 8:30pm, Tŷ Pawb

Papur Wal – 10:40pm, Wynnstay Hotel

 

Cân:  ‘Mwynhau’ – Breichiau Hir

Sengl ddwbl newydd allan gan Breichiau Hir ddoe, felly’r peth cwrtais i wneud ydy dewis un o’r rhain fel ein cân ar gyfer y penwythnos.

Mae ‘Mwynhau’ ac ‘Ofni Braidd’ yn ddau drac digon gwahanol o ran eu naws, gyda’r ail o’r rhain llawer distawach a lleddf, er ei bod hi’n adeiladu’n raddol at grescendo yn ail hanner y trac.

Ar y llaw arall, mae ‘Mwynhau’ yn llawer mwy upbeat, gyda digon o fynd iddi ar gyfer y penwythnos.

“Dyma gân sy’n trafod chwilio am hwyl, a phrofi amser da – mae’r ffordd yr wyt ti a dy ffrindiau yn mwynhau wedi newid” meddai Steffan am y trac ‘Mwynhau’.

“Dim ond pan ma’ profiadau yn newydd, ma’ nhw’n teimlo’n gyffrous. Pan maen nhw’n cael eu hail-adrodd, mae’r cyffro yn diflannu. Mae’r gân yma am ymgais enbyd i deimlo’r wefr yma eto, ar ôl blynyddoedd o ail-adrodd yr un profiadau”

Dylech chi fod yn gwybod erbyn hyn bod albwm cyntaf Breichiau Hir ar y ffordd, gyda’r dyddiad rhyddhau ar 19 Tachwedd.

Mae fideo wedi’i gyhoeddi i gyd-fynd â’r trac sy’n serennu’r ddawnswraig ardderchog, Elan Elidyr.

Yn ôl y grŵp mae’r fideo’n ddathliad o’r traddodiad gwych o chwarae’r air guitar, a’r llawenydd mae rhywun yn teimlo wrth brofi profiadau newydd. A phwy well i gyfleu hynny nag Elan.

Mae ‘na stori fach yna hefyd, a gallwch ddehongli hyn dros eich hun isod…

 

Record: ‘Amser Mynd Adra’ – Papur Wal 

Weeel, hir yw pob ymaros medden nhw, ac mae’n teimlo fel petai ni wedi bod yn aros oes am ddyddiad lansio albwm cyntaf Papur Wal, Amser Mynd Adra.

Mae’r grŵp wedi rhyddhau cyfres o senglau dros y misoedd diwethaf er mwyn cynnig blas o’r hyn sydd i ddod y record hir, ac o’r diwedd mae’r dyddiad rhyddhau wedi cyrraedd heddiw.

‘Brychni Haul’ oedd y sengl ddiweddaraf i’w rhyddhau gan Papur Wal gwpl o wythnosau nôl, a honno’n ddilyniant i’r tiwns gwych ‘Llyn Llawenydd’ ac ‘Arthur’ a ryddhawyd yn gynharach yn y haf.

“Dyma ein hymgais ar ysgrifennu cân wedi’i ddylanwadu gan y Beatles cynnar” eglura Ianto Gruffydd, canwr a gitarydd Papur Wal.

“Roedd diwedd Haf 2020 yn amser rhyfedd i ni, roedd bywyd fel petai’n mynd yn ôl i ryw raddau o normalrwydd, symudon ni allan o’n tŷ a symudodd pob un i mewn gyda’n cariadon.

“Roedd hyn yn nodi rhyw fath o aeddfedrwydd, ond hefyd cyfnod o addasu ac anawsterau. Ceisiais ysgrifennu’n fwy toreithiog am arsylwi a myfyrio am bethau oedd yn digwydd yn y fan a’r lle.”

Mae Papur Wal yn cyfuno dylanwadau slacyr di-gyfaddawd gydag alawon pop heintus i ffurfio mosäig cerddorol sy’n hyfryd o amrwd. Mae sŵn diweddar y grŵp yn ryw gymysgedd o Beatles cynnar, gyda bach West Coast grwpiau fel y Beach Boys, ac erchylltra angerddol fel Lou Reed wedi’i gymysgu i’r botes.

Mae’r grŵp wedi ffurfio partneriaeth hirdymor llwyddiannus gyda’r cynhyrchydd Krissy Jenkins, ac ar y cyd maent wedi llwyddo i greu albwm emosiynol ‘coming of age’ gydag Amser mynd Adra.

Mae’n record onest am y broses o aeddfedu i oedran yr ugeiniau canol – cyfnod sy’n ymddangos yn wrthrychol fwy llwm ar gynffon cyfnod mwyaf cyffrous eich bywyd.

Mae’r albwm yn trafod symud i ffwrdd o fyw efo’ch ffrindiau i weddill eich bywyd…” meddai Ianto.

“…ofn methu allan, argyfwng dirfodol dyddiol, euogrwydd peidio gwybod beth i’w wneud nesaf, a’r ffordd newydd o fyw eich bywyd sy’n ei gwneud hi’n anoddach gwneud y pethau oeddech chi’n eu gwneud cynt.”

Bydd cyfle i weld Papur Wal yn perfformio yng ngŵyl FOCUS Wales ddydd Sadwrn, jyst tarwch draw i Westy’r Wynnstay erbyn 10:40pm.

Dyma fideo ardderchog un o diwns gorau haf 2021, ‘Llyn Llawenydd’:

 

Artist: Tapestri

Mae’r prosiect sy’n cyfuno doniau dwy gantores brofiadol a thalentog yn wedi rhyddhau sengl newydd heddiw.

Tapestri ydy enw deuawd newydd Sera Zyborska a Lowri Evans, ac enw eu sengl ddiweddaraf ydy ‘Arbed Dy Gariad’. Mae fersiwn Saesneg o’r trac hefyd dan yr enw  ‘Save Your Love’.

Mae ‘Arbed Dy Gariad’ yn gân am gariad di-gwestiwn a pha mor hawdd y mae cariadon yn cael eu twyllo i gredu bod hoffter ac agosatrwydd yn cyfateb i ddefosiwn tragwyddol.

Daw’r sengl o’u EP a fydd yn cael ei ryddhau yn 2022.

Mae enwau Sera a Lowri, yn gyfarwydd iawn i unrhyw un sy’n dilyn cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig. Mae’r ddwy wedi bod yn weithgar iawn ers sawl blwyddyn bellach gan ysgrifennu, recordio a pherfformio eu cerddoriaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg fel artistiaid unigol.

Fel mae’n digwydd, dramor y bu i’r ddwy gyfarfod am y tro cyntaf, a hynny wrth berfformio ym mhafiliwn Cymru yng ngŵyl Lorient yn Llydaw yn Awst 2019.

Sbardunodd y cyfarfod cyntaf hwn syniad i ffurfio band gyda merched ar y blaen, a chreu eu brand eu hunain o gerddoriaeth Americana; band â allai berfformio ar lwyfannau mawr a chynrychioli lleisiau menywod.

Wedi’i ysbrydoli gan The Highwomen, supergroup o’r Unol Daleithiau sy’n cynnwys Brandi Carlile ac Amanda Shires, a ffurfiodd fel ymateb i ddiffyg cynrychiolaeth artistiaid benywaidd ar radio a gwyliau canu gwlad.

Ar ôl lansio’r prosiect ym mis Ionawr 2020, rhyddhawyd sengl gyntaf Tapestri, ‘Y Fflam’, ym mis Gorffennaf llynedd. Dewiswyd y gân fel ‘Trac yr Wythnos’ ar Radio Cymru, ac roedd y fersiwn Saesneg, ‘Open Flame’ ar restr chwarae BBC Radio Wales am sawl wythnos.

Bydd cyfle i weld Tapestri’n perfformio’n fyw yng ngŵyl FOCUS Wales penwythnos yma. Byddan nhw’n perfformio yn Eglwys St Giles ar ddydd Sadwrn 9 Hydref am 16:40.

 

 

Un Peth Arall: Casi ydy Bardd Plant Cymru

A hithau’n Ddiwrnod Barddoniaeth ddoe cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai Casi Wyn oedd Bardd Plant newydd Cymru.

Cafodd Casi ei dewis ar gyfer y rôl yn dilyn galwad agored ym mis Mai 2021, a bydd yn parhau yn y job nes 2023.

Mae prosiect Bardd Plant Cymru cael ei reoli gan Lenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru a’r Urdd.

I ni, mae Casi’n fwyaf cyfarwydd fel cerddor wrth gwrs ond mae hefyd yn awdur, ac yn un o sefydlwyr gwasg annibynnol sy’n cyhoeddi cylchgrawn Codi Pais.

Pob hwyl i Casi yn y rôl, rydan ni’n ffyddiog y bydd yn gwneud joban wych.

Dyma berfformiad diweddar ganddi gyda Seindorf fel rhan o’r Eisteddfod Gudd: