Set rhithiol: Gwilym ac Alffa – Stafell Fyw – 06/01/21
Nos Fercher darlledwyd y diwethaf o’r gyfres o dri gig Stafell Fyw ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C. Teg dweud bod y gyfres wedi bod yn wych, a’i bod wedi bod yn grêt i gael y teimlad o gigs byw ar ein sgriniau dros yr wythnosau diwethaf.
Gwilym ac Alffa oedd yn cloi’r gyfres gyda pherfformiad byw o’r Galeri yng Nghaernarfon. Ffion Emyr oedd yn cyflwyno, ac yn sgwrsio gydag aelodau’r bandiau rhwng y setiau yn ôl yr arfer.
Un o rinweddau pwysig y darllediadau Stafell Fyw ydy eu bod nhw i’w gweld yn fyw yn unig wrth gwrs, ond peidiwch a phoeni, os golloch chi gig nos Fercher mae modd i chi brynu hwn i’w wylio pryd bynnag y mynnwch ar wefan Stafell Fyw.
Cân: ‘Curiad Rhywbeth Arall’ – Casi a Seindorf
Heb os, dyma un o’r pethau gorau rydan ni wedi gweld a chlywed dros yr wythnosau diwethaf.
Pan mae artist mor dalentog â Casi yn dod ynghyd â cherddorfa anhygoel Seindorf, mae rhywbeth arbennig iawn yn siŵr o ddigwydd. A theg dweud bod y trac ‘Curiad Rhywbeth Arall’ a’r fideo ar gyfer y gân a gyhoeddwyd ar lwyfannau Lŵp yn arbennig iawn.
Cân arbennig ydy hon sy’n deyrnged i leoliadau a theatrau gwag Cymru ar hyn o bryd, mewn cyfnod sydd wedi bod yn hynod o heriol i’r llefydd pwysig yma.
Mae’r trac a fideo’n rhan o brosiect newydd gan ganolfan Pontio ym Mangor sy’n comisiynu celf ar ffurf ddigidol, ac mae hwn yn ddechrau gwych.
Casi ac Owain Roberts (Band Pres Llareggub) sy’n gyfrifol am y gerddoriaeth a’r cerddorion gwych ar y trac ydy Berwyn Jones, Gwyn Owen. Hawys Enlli, Gwion Llewelyn, Carwyn Williams a Robin Jones.
Mae’r fideo hefyd yn dyst i sgiliau cyfarwyddo Griff Lynch, brawd Casi, sy’n prysur fynd o nerth i nerth.
Gwaith gwych pawb.
Record: Paid Troi Nôl – Daf Jones
Rydan ni wedi clywed tipyn am Daf Jones dros y misoedd diwethaf, a heddiw ydy dyddiad rhyddhau swyddogol ei albwm cyntaf, Paid Troi Nôl.
Mae Daf eisoes wedi rhoi blas o’r hyn sydd i ddod i ni wrth ryddhau dwy sengl dros yr hydref sef ‘Diffodd y Swits’ ym mis Medi a ‘Sbardun’ ym mis Tachwedd.
Roedd cyfle ecsgliwsif i glywed trydydd trac o’r albwm yma ar wefan Y Selar nos Fercher, sef ‘Darganfod y Teimlad’.
Yn ôl Daf, bu iddo ysgrifennu ‘Darganfod y Teimlad’ ym mis Mehefin 2019 ac mae’r gân yn swnio’n wahanol iawn i lawer o ganeuon eraill y casgliad newydd.
Mae Daf Jones yn dod o Langefni, ac wedi bod yn cyfansoddi caneuon ers tua phymtheg blynedd ar ôl dysgu sut i chwarae’r gitâr. Bu i’r brifysgol yn Aberystwyth, ac ar ôl graddio dechreuodd chwarae mewn nosweithiau meic agored, cyn symud ymlaen i wneud gigs achlysurol yn lleol i ddechrau, ac yna taflu’r rhwyd ychydig yn ehangach.
Yn ôl y cerddor mae caneuon yr albwm wedi’u hysgrifennu dros sawl blwyddyn. Yn wir, mae’r gân hynaf ar yr albwm, ‘Trysor’, wedi ei hysgrifennu tua deng mlynedd yn ôl tra bod ‘Rhwng Cariad a Chur’, a gyfansoddwyd ym mis Ionawr eleni, yn llawer mwy diweddar.
Recordiwyd yr albwm rhwng Ionawr 2020 a Thachwedd 2020, rhwng cyfnodau clo, yn Stiwdio Tyn Rhos, Bryngwran, Ynys Môn. Rhys Jones sy’n gyfrifol am y gwaith cynhyrchu a mastro ar y record.
Er mai’n ddigidol yn unig mae’r albwm allan heddiw, dywed Daf y bydd copïau CD hefyd ar gael yn fuan – gwyliwch y gofod.
Artist: IsoPHeX
Bydd prosiect electronig newydd o Ynys Môn yn rhyddhau cerddoriaeth am y tro cyntaf ar 22 Ionawr.
IsoPHeX ydy enw prosiect newydd gŵr 19 oed o’r enw Cian Owen o Langefni, a ‘Doppelgänger’ ydy enw ei sengl gyntaf. Bydd rhai efallai’n gyfarwydd â Cian fel aelod o’r grŵp Carma a gafodd beth sylw a llwyddiant yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B a Radio Cymru gwpl o flynyddoedd yn ôl.
Penderfynodd Carma chwalu wrth i’r aelodau symud i ffwrdd i astudio yn y Brifysgol. Yn ôl Cian, ag yntau yng Ngholeg Menai Bangor, roedd yn awyddus i ffurfio band newydd ond yn ei chael hi’n anodd ffeindio cerddorion eraill i ymuno â’r band. Felly, penderfynodd jyst i fynd ati i greu ar ei liwt ei hun.
“Odd hi’n drist pam nath Carma dod i ddiwadd ar ôl gig dwytha ni yn Clwb Ifor Bach” meddai’r cerddor ifanc.
“Yn coleg Menai nes i ddechra cynhyrchu tiwns fi ar ôl rhoi gora i chwilio am hogia i ddechra band arall – odd hi bron yn amhosib ffeindio pobl i ddechra rwbath newydd.”
Mae gan Cian hanes hir fel cerddor, sy’n cynnwys chwarae ym Mand Pres Biwmares yn y gorffennol, yn ogystal â Carma a bandiau eraill. Felly mae’n amlwg yn gerddor amryddawn.
Mae hefyd wedi’i ddylanwadu arno gan ystod eang o artistiaid, fel yr eglurodd wrth Y Selar.
“Dechra’ gwrando ar Jungle ac IDM wnes i yn coleg a cymryd y syniad o ddechra’ neud stwff fy hyn tua tair blynadd yn ôl” meddai Cian.
“Es i drw’ gyfnod newydd yn dechra’ coleg yn gwrando ar Jungle o’r 90au ac IDM a nath o roi syniad i mi ddechra’ cynhyrchu. Miwsig Aphex Twin a Boards Of Canada sydd wedi ysbrydoli’r gwaith electroneg sydd i glywed yn glir o’r trac Doppelganger.”
Recordiau Cae Gwyn, label Dan Amor, fydd yn rhyddhau’r sengl newydd yn ddigidol ar 22 Ionawr a Cai sydd wedi recordio a chynhyrchu’r trac ei hun.
“Nes i sgwennu’r gân yma fel prosiect coleg dwy flynadd yn ôl ac mae wedi bod yn cuddio yng nghefn y cyfrifiadur am oes cyn i Dan Amor gymryd sylw yn y trac ar ôl fi yrru tiwns fi gyd iddo fo a phenderfynu rhyddhau’r gân gyda’r label. Legend.”
Roedd y trac un o ddewisiadau Sbin Selar ar ddarllediad Stafell Fyw nos Fercher, ac mae wedi cael ei chwarae gan gyflwynwyr Radio Cymru, gan gynnwys Huw Stephens, dros y dyddiau diwethaf. Yn ôl Cian, mae mwy i ddod yn fuan ganddo.
“Dwi’n hapus gweld yr ymateb da dwi wedi cael ar y trac hyd yn hyn, a fyddai’n edrach mlaen i ryddhau petha’ gwell yn y dyfodol.
Un Peth Arall: Gwobrau Sôn am Sîn
Nos Sul diwethaf, 3 Ionawr, cynhaliwyd gwobrau blynyddol blog cerddoriaeth Sôn am Sîn ar Facebook Live.
Rydan ni’n ffans mawr o waith Sôn am Sîn, a daeth y ddau sy’n gyfrifol am y blog, a phodlediad Y Sôn hefyd, Chris Roberts a Gethin Griffiths, ynghyd dros y we i drafod nifer o gategorïau’r gwobrau.
Roedd y categorïau’n cynnwys ‘EP gorau’, a ddyfarnwyd i’r record fer ‘Mas o Ma’ gan Eädyth ac Izzy Rabey; ‘artist y dyfodol’ a ddyfarnwyd i’r grŵp newydd o Bontypridd, Y Dail; ‘artist y flwyddyn’, lle daeth Endaf i frig y rhestr; a’r ‘lyric orau’ sef llinell o’r gân ‘Mae Dy Nain yn Licio Hip Hop’ gan Band Pres Llareggub a Gwyllt.
Gallwch weld y rhestr lawn o enillwyr ar y blog, neu wylio’r drafodaeth a’r dyfarniadau isod.