Pump i’r Penwythnos – 9 Gorffennaf 2021

Gig: Welsh Whisperer, Hambons Band – Castell Aberteifi – 09/07/21 

Dal i ail-gydio ynddi’n ara bach mae gigs byw ar hyn o bryd, ond maen nhw’n dechrau ail-ymddangos yn raddol felly gobeithio bydd y llifddorau’n agor yn fuan.

Un dyn sydd siŵr o fod wedi gweld y flwyddyn a hanner ddiwethaf yn chwith dros ben heb gigs ydy’r Welsh Whisperer…ond mae o nôl ar lwyfan byw heno!

Oes, mae cyfle i weld y gŵr o Gwmfelin Mynach yn Aberteifi heno am 17:30 yn y gyntaf o gyfres gigs haf sy’n cael eu cynnal yng Nghastell Aberteifi. Ac mae’n dod a’r ‘Hambon band’ gydag o mae’n debyg!

Mae’r gig yn digwydd dan ganllawiau arbennig Covid wrth gwrs, gydag uchafswm o 6 oedolyn i bob bwrdd. Gwybodaeth lawn ar y Digwyddiad Facebook.

 

Cân:  ‘Digon’ – Annwn

Rydan ni wedi cyffroi rhywfaint am bartneriaeth newydd Lleuwen ac Ed Holden (Mr Phormula) – Annwn.

Rhyddhawyd sengl gyntaf prosiect newydd y ddau, ‘Eto Fyth’, fis Mai, a bellach mae dilyniant i honno wedi ymddangos ers dydd Gwener diwethaf.

‘Digon’ ydy enw’r sengl newydd ac mae neges glir yn y gân:

“Aux élèves des écoles, il  est défendu de parler breton et de cracher à terre”.

Dyma un o linellau’r gân ac roedd yn frawddeg gyffredin iawn ar bosteri ar waliau ysgolion Llydaw nes diwedd y 1960au.

Ystyr hyn yn y Gymraeg ydy “i blant yr ysgolion , gwaherddir siarad Llydaweg a phoeri ar lawr.”

Er bod hyn yn rhan o hanes Llydaw, mae’r neges yn dal i fod yn un amserol  gan fod addysg Llydaweg wedi’i wneud yn anghyfreithlon yn ôl Adran 2 cyfansoddiad Ffrainc yn ddiweddar.

Yn ôl y gyfraith hon, mae llythrennau Llydaweg megis ñ a c’h yn troi’n anghyfreithlon hefyd, ac enwau bedydd sy’n cynnwys y llythrennau hyn yn  cael eu haddasu ar gyfer dogfennau swyddogol .

Does gan blant Llydaw ddim hawl i gael eu haddysg drwy gyfrwng Llydaweg ac nid oes ganddynt hawl i siarad gyda’r athrawon mewn Llydaweg chwaith, na siarad Llydaweg amser chwarae gyda’u ffrindiau. Mae hyn oherwydd bod adran 2 cyfansoddiad Ffrainc yn mynegi mai Ffrangeg yw unig iaith gweriniaeth Ffrainc.

Ymateb Annwn i hyn ydy ‘Digon’!

Record: Mae’r Olwyn yn Troi – Heather Jones

Newyddion cyffrous diweddar ydy hwnnw bod albwm y ‘grŵp clo mawr’, Ciwb, yn rhyddhau eu halbwm cyntaf ddydd Gwener nesaf, 16 Gorffennaf.

Ciwb ydy prosiect y pedwar cerddor Elis Derby, Gethin Griffiths, Marged Gwenllian a Carwyn Williams, ac enw eu halbwm cyntaf ydy ‘Wyt Ti’n Medwl Bod o Wedi Darfod?’ Maen nhw wedi gweithio gyda naw o artistiaid eraill amlycaf Cymru i recordio deg o draciau poblogaidd o archif Recordiau Sain – difyr iawn wir.

Mwy am yr albwm yma wythnos nesaf, ar y dyddiad rhyddhau…ond roedd yn esgus perffaith i ni roi sylw i glasur o albwm o’r gorffennol, sef Mae’r Olwyn yn Troi gan Heather Jones.

Cân agoriadol albwm Ciwb ydy ‘Nos Du’ gan Heather – bangar o drac, a siŵr o fod yr enwocaf o’r caneuon sydd ar yr albwm a ryddhawyd ym 1974.

Tydi’r syniad o dwrio trwy archif Sain a chreu casgliad gwych ddim yn un newydd cofiwch – bu i Andy Votel, Dominic Thomas, Gruff Rhys ryddhau casgliad o oreuon ar ffurf y record Welsh Rare Beat yn 2005…a wyddoch chi beth oedd un o’r caneuon? Cywir – ‘Nos Ddu’ gan Heather Jones.

Er mai ‘Nos Ddu’ ydy’r gân enwocaf ar y record hir, mae hefyd yn cynnwys traciau gwych eraill fel ‘Glyndwr’, ‘Pam yr Wyt Ti’n Wylo, Wylo’ a ‘Mynd yn ôl i’r Dre’.

Bydd y rhai ohonoch chi sydd â chof da yn cofio bod Y Selar wedi cyflwyno gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar i Heather yn 2018. Bryd hynny, fe wnaethon ni gynnal pleidlais i ddewis 10 cân orau, ac roedd dau o ganeuon Mae’r Olwyn yn Troi ar y rhestr sef ‘Mynd yn ôl i’r Dre’ a ‘Nos Ddu’.

Dyma ‘Nos Ddu’ gan Heather o’r albwm:

 

Artist: Mike Pritchard a Dafydd Hedd

Twyllo bach yn y categori yma’r wythnos hon, gan ddewis dau artist ifanc sydd wedi cydweithio â’i gilydd.

Ryddhawyd ‘Niwl’ gan Mike Pritchard a Dafydd Hedd ddydd Gwener diwethaf – cynnyrch cyntaf prosiect newydd i gerddorion ifanc.

‘Sbardun Talent Ifanc’ ydy enw’r prosiect sy’n cael ei redeg gan y cynhyrchydd amlwg Endaf, mewn partneriaeth gyda’r Galeri yng Nghaernarfon.

Mae pedwar cerddor ifanc yn rhan o’r prosiect, a ‘Niwl’ gan Mika a Dafydd ydy’r sengl gyntaf i weld golau ddydd.

Mae’r cerddor o Fethesda, Dafydd Hedd, yn enw cyfarwydd iawn i ni yma yn Y Selar ac anodd credu mai dim ond 18 oed ydy o, er ei fod wedi rhyddhau dau albwm llawn, yn ogystal â’r EP, ‘Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim Byd’, yn ddiweddar.

Er ei holl gynnyrch cynnar, dyma’r tro cyntaf i Dafydd gyflwyno cerddoriaeth electronig ar ôl bod yn canolbwyntio ar sŵn indie, pop, pync a roc cyn hyn.

Dim ond 19 oed ydy Mike Pritchard, sy’n cael ei adnabod hefyd fel Mike RP. Wedi ei ddylanwadu arno gan Carl Cox a Jamie Jones mae wedi bod yn DJio ers iddo fod yn 14 oed cyn symud ymlaen i gynhyrchu cerddoriaeth.

Yn ôl Endaf mae dylanwadau’r ddau gerddor ifanc yn glir ar y trac ‘Niwl’, o’r geiriau a llais teimladwy Dafydd Hedd i’r bît sy’n cyfleu awyrgylch clwb nos gan Mike RP hefo Endaf yn clymu’r cwbl gyda’i ddulliau electronig unigryw.

Tiwn berffaith i fwynhau yn yr awyr agored yn haul cynnes yr haf yn ein barn ni – braf iawn, braf iawn.

Un Peth Arall: Fideo Sesiwn Plu

Rydan ni wedi gweld lot o fideos sesiwn bach neis yn ymddangos ar gyfryngau digidol Lŵp yn ddiweddar, a’r diweddaraf ydy un gan Plu wythnos diwethaf

Yn y fideo yma mae Marged, Elan a Gwilym yn perfformio’r ‘Storm Dros Ben y Fâl’ yn fyw o stiwdio gelf yng Nghaernarfon. Mae perfformiadau Plu wastad yn drawiadol, a dyma esiampl arall o hynny – tri llais yn asio’n berffaith.

Prif lun: Plu – Gwobrau’r Selar 2015 (Llun gan Celf Calon)